
Mae Paul Diggory wedi bod yn Brif Weithredwr Tai Gogledd Cymru ers Tachwedd 2000. Ymysg ei swyddogaethau allweddol mae rhoi arweiniad i'r sefydliad, datblygu cyfeiriad strategol a gweithio'n agos gyda'r Bwrdd i sicrhau llywodraethu effeithiol. Mae Paul hefyd yn helpu i sicrhau newid mewn ardal adfywio strategol fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Arfordir Gogledd Cymru.
Yn ogystal â chyfnod gyda Chorfforaeth Datblygu Telford, mae gyrfa Paul wedi cynnwys gweithio mewn awdurdodau lleol yn Wrekin, Caer, Delyn a Chonwy.
Yn 2007-08 etholwyd Paul yn Llywydd y Sefydliad Tai Siartredig (CIH). Gwasanaethodd ar Gyngor Cenedlaethol a Bwrdd CIH Cymru am sawl blwyddyn, roedd yn aelod gwreiddiol o Banel Dilysu HouseMark ar gyfer arfer da ac yn arholwr allanol i Brifysgol Caerdydd o 2004-06.
Ar hyn o bryd mae Paul yn aelod o Fwrdd Rhyngwladol CIH ac mae wedi siarad mewn digwyddiadau tai ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Yvonne Wilkinson wedi bod gyda Tai Gogledd Cymru ers 1991 a bu'n Gyfarwyddwr Adnoddau ers 2001. Hi sy'n gyfrifol am swyddogaethau Cyllid, Personél, Gwella Busnes a TG y sefydliad.
Cyn ymuno â Thai Gogledd Cymru cafodd brofiad ym myd bancio, gweithgynhyrchu a chwmnïau cyfrifwyr lleol.
Mae Yvonne yn Gymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

