Sefydliad sy'n ymroi i ddarparu cartrefi i bobl na allant fforddio prynu na rhentu ar y farchnad agored ac sydd â gwir angen tŷ, o'u hasesu yn ôl system bwyntiau, yw Cymdeithas Tai Gogledd Cymru.
Mae'r Gymdeithas wedi'i chofrestru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gorff cyhoeddus sy'n ariannu ac yn goruchwylio gwaith Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae Bwrdd sy'n cynnwys pobl leol broffesiynol sydd wedi ymrwymo i ddarparu tai yn penderfynu ar y polisïau y mae'r Gymdeithas yn eu gweithredu, ac yn cyflogi tîm o swyddogion proffesiynol i ddarparu gwasanaeth tai o safon.

Ymunodd Gorffennaf 2008
Cyfreithiwr yw Peter a’i swydd olaf cyn ymddeol oedd Cyfarwyddwr Twristiaeth a Hamdden Cyngor Conwy. Cyn hynny ef oedd Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Conwy. Ymysg amrywiaeth o swyddi gwirfoddol y mae Peter wedi eu dal, ef yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sw Fynydd Cymru.
Ymunodd Gorffennaf 2002
Arferai Lynne fod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol gyda Shelter Cymru, a bu’n gweithio yn y sector tai ers 1997. Mae’n cymryd saib o’i gyrfa ar hyn o bryd.
Ymunodd Gorffennaf 2009
Mae Marion yn gweithio fel rheolwr archwilio mewnol i Gyngor Sir Ddinbych. Ar ran y Cyngor mae’n rheoli’r gwasanaeth archwilio mewnol yn Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ac yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, lle mae cytundebau cydweithredol yn bodoli i ddarparu eu gwasanaeth archwilio mewnol.
Cymhwysodd Marion fel archwilydd mewnol, gan ddod yn aelod o Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol, ym 1999. Enillodd Radd Feistr mewn Rheoli Newid o Brifysgol John Moores Lerpwl yn 2004, a hynny gydag anrhydedd. Ar hyn o bryd mae Marion yn astudio i ddod yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
Ymunodd Ionawr 2005
Ymgynghorydd hunangyflogedig yw Helen a arferai weithio i E C Harris LLP yn Lerpwl, gyda Chyngor Dinas Caer, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Chymdeithas Tai Clwyd. Hi oedd Cadeirydd Partneriaeth Cydraddoldeb Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Gogledd Cymru yn 2003/04. Dyfarnodd y Sefydliad Tai Sartredig wobr “Gweithiwr Tai Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn” i Helen yn 2003. Bu’n cynrychioli gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ar Daith Gyfnewid Astudio Grŵp y Rotary i Dde Cymru Newydd, Awstralia, yn 2004. Mae Helen yn rhugl yn y Gymraeg.
Cyfetholwyd Hydref 2009
Bu Neil yn Gyfarwyddwr Cyllid Gweithredol i Fwrdd Iechyd Lleol Conwy ers 2003, ond gwêl ei fod yn gweithio mewn amgylchedd sy’n newid wrth i’r byrddau iechyd gael eu hailstrwythuro ar draws Cymru. Mae’n gyfrifydd CCAB cymwysedig sydd â phrofiad o reolaeth ariannol a chynllunio busnes. Yn y gorffennol bu Neil yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Glan Clwyd.
Chwefror 1975
Mae Alice wedi dal sawl swydd o gyfrifoldeb cyhoeddus ac mae’n dal i weithio’n frwd dros amryw o fudiadau lleol. Fel cynghorydd dosbarth, Alice oedd Cadeirydd y Pwyllgor Tai a bu’n gadeirydd y Cyngor Tai a Chynllunio Tref Cenedlaethol (rhanbarth Gogledd Cymru). Mae’n weithiwr gwirfoddol llawn-amser ac yn un o sylfaenwyr CTGC.
Medi 1997
Ysgrifenyddes gyda G-Plan oedd Mary cyn ymddeol. Mae hefyd yn denant i’r Gymdeithas ac yn gyn Gadeirydd y Pwyllgor Gweithrediadau.
Ymunodd Gorffennaf 2006
Paentiwr ac addurnwr hunangyflogedig yw Gerry. Mae’n un o lywodraethwyr Ysgol y Bendigaid William Davies yn Llandudno ac yn Is-gadeirydd Clwb Pêl-droed Llandudno. Mae’n gyn Gynghorydd Tref a bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol. Mae’n denant i’r Gymdeithas ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Parc Clarence.
Ymunodd Gorffennaf 2006
Mae gan Adrian raddau mewn Peirianneg Fecanyddol ac Astudiaethau Busnes. Sefydlodd a datblygodd ei gwmni peirianneg ei hun dros gyfnod o 25 mlynedd. Yn ddiweddarach symudodd i’r fasnach adeiladu. Bellach mae wedi ymddeol oherwydd ei iechyd. Mae Adrian yn denant i CTGC.
Ymunodd Rhagfyr 2007
Mae Colin yn Brif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dechreuodd ei wasanaeth ym mis Awst 1978. Cyn hynny bu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol. Ar hyn o bryd mae Colin yn gweithio gydag Ann Jones AC i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol i geisio pwerau statudol i osod ysgeintwyr domestic wrth adeiladu tai newydd yng Nghymru. Mae Colin yn siarad Cymraeg yn rhugl. Derbyniodd Colin Fedal Gwasanaeth Tân y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2010.
Cyfetholwyd Hydref 2009
Mae Nia yn cael ei chyflogi gan Ganolfan Gydweithredol Cymru fel Rheolwr Prosiect ar Brosiect Menter Gymdeithasol sy’n ymdrin ag ardal gydgyfeirio Cymru. Mae cefndir Nia ym maes marchnata ond mae ganddi brofiad eang, yn cynnwys gweithio gyda phrosiect undeb credyd Cymru-gyfan am gyfnod o dair blynedd. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Ymunodd Gorffennaf 2010
Mae gan Bryan ei gwmni ymgynghorol ei hun, Supply Chain Projects Ltd, ac ymysg ei gleientiaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Sefydliad Tai Siartredig (CIH) a Procurement for Housing (PfH). Mae’n gweithio mewn sawl maes yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae ei gleientiaid eraill yn cynnwys amryw o gymdeithasau tai yn Lloegr. Arferai Bryan weithio i Gyngor Dinas Lerpwl hyd at ganol y 1990au.