Home | Amdanom ni | Asesiad Rheoleiddiol

Llywodraeth Cymru - Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithas Dai

Regulatory_Assessment_WelshMae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf Tai 1996 i reoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru mewn perthynas â’u darpariaeth o ran tai ac mewn perthynas â materion yn ymwneud â llywodraethu a rheolaeth ariannol. Diwygiwyd Rhan 1 o Ddeddf 1996 gan Ran 2 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“Y Mesur”) ac mae’n rhoi pwerau rheoleiddio ac ymyrryd ychwanegol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â darpariaeth o ran tai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r camau gorfodi y gellir eu cymryd yn eu herbyn. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ynghylch yr asesiad rheoleiddiol o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996.

Y dull o reoleiddio ar sail risg a ddefnyddir wrth baratoi’r asesiad rheoleiddiol, a’r nod yw nodi cryfderau a’r meysydd hynny lle mae angen gwella er mwyn bodloni gofynion y “Canlyniadau Cyflawni” (safonau perfformiad). Nodir y safonau hynny yn y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru, neu’r “fframwaith rheoleiddiol” fel y’i gelwir.

Asesiad Llywodraeth Cymru sydd yn yr adroddiad hwn, a’i ddiben yw sicrhau bod y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, ei denantiaid, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill yn cael gwybod sut y mae’n dod yn ei flaen o ran bodloni gofynion y “Canlyniadau Cyflawni” (y safonau perfformiad) ar gyfer:

  • Gwasanaethau landlordiaid
  • Llywodraethu a rheolaeth ariannol

Disgrifiad o Gymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyfyngedig

Sefydlwyd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyfyngedig (neu Dai Gogledd Cymru fel y’i gelwir) ym 1974 ac mae ganddi eiddo ar rent ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych a Chonwy. Mae ganddi stoc o oddeutu 2,400 o gartrefi, y rhan fwyaf ohonynt yn dai anghenion cyffredinol. Mae'r Grŵp wedi'i gofrestru'n Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus sydd â statws elusennol.

Sefydlodd Tai Gogledd Cymru strwythur Grŵp ym mis Ebrill 2011 drwy sefydlu isgwmni masnachol o'r enw ‘Domus Cambria’ a fydd yn datblygu cartrefi i'w gwerthu.

Mae'r Grŵp wedi ymrwymo i raglen ddatblygu a fydd yn darparu 320 o gartrefi newydd rhwng 2012 a 2015. Bydd 138 ohonynt yn dai anghenion cyffredinol, 91 yn dai â chymorth a 91 yn unedau i'w gwerthu drwy'r farchnad. Mae ei rhaglen ar gyfer y cyfnod o 2015 ymlaen yn seiliedig ar ddatblygu 20 o gartrefi newydd y flwyddyn.

Ar ôl cyfnod treialu llwyddiannus, mae'r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw yn cael ei ddarparu gan y Sefydliad Llafur Uniongyrchol (y gweithlu mewnol) sy'n rhan o'r Grŵp.

Asesiad Cyffredinol

Crynodeb: Gwasanaethau Landlordiaid

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru wedi llwyddo i fodloni gofynion nifer o'r canlyniadau cyflawni, yn benodol felly o ran adeiladu cartrefi newydd, gosod tai gwag a helpu i atal a lleihau digartrefedd. Mae'n gwybod pa feysydd y mae angen iddi ganolbwyntio arnynt a'u gwella yn y dyfodol.

Mae angen iddi wella mewn sawl maes allweddol – yn eu plith, rheoli ei chartrefi mewn modd effeithiol a gwella’r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw, gan gynnwys cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae angen gwelliannau hefyd o ran yr wybodaeth sydd ganddi am ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr ei gwasanaethau, o ran teilwra gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion y rheini sy’n eu defnyddio, ac o ran gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo tenantiaid sydd mewn trafferthion ariannol neu sy'n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Crynodeb: Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn anelu at ragoriaeth ym mhopeth a wna ac mae ganddi ymrwymiad cryf i'r cymunedau y mae'n gweithio ynddynt. Mae'r ymrwymiad hwnnw i'w weld yn y gwerth y mae'n ei roi ar ddefnyddio adborth gan denantiaid ac yn ei hagwedd gadarnhaol at fentrau partneriaeth sy'n anelu at wella cyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y gymuned. Mae'n ymwybodol hefyd o'r meysydd hynny lle mae angen iddi wella ac mae'n gwneud cynnydd o ran creu diwylliant o welliant parhaus.

Mae wedi cydnabod bod angen iddi wella rhai agweddau ar lywodraethu. Mae wedi nodi bod gwaith rheoli mewn rhai ardaloedd yn anghyson a’i fod o ansawdd gwael, nad yw'r gymdeithas yn canolbwyntio digon ar y materion hynny sy'n bwysig i denantiaid, a bod angen gwell dulliau o gasglu/dadansoddi/monitro data. Mae wedi gofyn am gymorth arbenigol o'r tu allan yn hyn o beth, ac mae wedi gweithredu yn unol â'r cyngor hwnnw. Mae bwriad hefyd i ad-drefnu'r strwythur uwch-reoli yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae wedi gwneud ymrwymiad clir i roi lle canolog yn ei gwaith i'r bobl sy'n defnyddio'i gwasanaethau, ond, yn ymarferol, nid yw hynny'n digwydd bob amser. Mae nifer o rwystrau wedi atal y gymdeithas rhag cyflwyno gwelliannau, ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at wendidau o ran sut y mae'n mynd ati i droi ei gweledigaeth gyffredinol yn gynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau ac sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i denantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau. Mae angen i Dai Gogledd Cymru wneud mwy i sicrhau bod ei gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd deg a'i bod yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi dangos bod ei fframwaith rheolaeth ariannol yn un gadarn a'i bod yn mynd ati'n effeithiol i nodi risgiau, i'w pwyso a'u mesur, a'u rheoli. Y dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol a roddwyd ym mis Mawrth 2011 oedd: "Llwyddo - mae gan Dai Gogledd Cymru ddigon o adnoddau i fodloni ymrwymiadau busnes ac ariannol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol".

Cyswllt Rheoleiddiol yn y Dyfodol

Mae’r asesiad yn dangos mai lefel ganolig o gyswllt rheoleiddiol fydd ei hangen yn y dyfodol yn achos Tai Gogledd Cymru. Bydd y cyswllt hwnnw’n canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:

  • sut mae cartrefi'n cael eu rheoli – gan gynnwys sicrhau gwell canlyniadau o ran cynhwysiant ariannol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwasanaethau i bobl sy'n berchen ar eu cartrefi;
  • gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd a buddsoddiad sydd wedi'i raglennu, gan gynnwys gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, yn ogystal â gwaith a gynlluniwyd;
  • meithrin gwell dealltwriaeth o'i thenantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau er mwyn diwallu eu hanghenion;
  • cynllunio a mesur yr hyn y bydd gwasanaethau yn ei gyflawni yn y dyfodol o bersbectif tenantiaid a defnyddwyr gwasanaethau;
  • bod yn fwy effeithiol o safbwynt rhoi rhan i denantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau yn y gwaith sy'n cael ei wneud ar lefel strategol i gynllunio gwasanaethau;
  • mynd i'r afael â chydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd deg;
  • dangos ei bod yn rhoi gwerth am arian;
  • gwaith pellach i ddatblygu diwylliant lle mae gweledigaeth yn cael ei throi'n ganlyniadau, ac effaith y canlyniadau hynny’n cael ei mesur

Bydd sawl elfen i’r cyswllt rheoleiddiol, a bydd yn edrych ar lywodraethu, ar yr uwchreolwyr ac ar drefniadau i feithrin cysylltiadau â’r defnyddwyr. Bydd hefyd yn monitro a yw Tai Gogledd Cymru yn gwneud cynnydd yn unol â’i gynlluniau gwella.

Gwasanaethau Landlordiaid

Rhestrir y canlyniadau cyflawni isod gan roi asesiad, ym mhob achos, o’r cryfderau allweddol ac o’r meysydd lle mae angen gwella.

1. Wrth adeiladu ac adnewyddu cartrefi, rydym yn gwneud gwaith o ansawdd da.

Wrth adeiladu ac adnewyddu cartrefi, mae Tai Gogledd Cymru yn gwneud gwaith o ansawdd da, yn unol â safonau dylunio sefydledig. Mae'n mynd ati mewn ffordd gadarn a gofalus i sicrhau bod cynigion datblygu yn hyfyw ac yn rhoi gwerth am arian.

Mae'n cydnabod y gallai wella yn hyn o beth drwy ofyn am adborth oddi wrth y bobl sy'n byw yn ei chartrefi newydd a thrwy ddysgu oddi wrth yr adborth hwnnw.

2. Rydym yn gosod cartrefi mewn ffordd deg, dryloyw ac effeithiol.

Mae Tai Gogledd Cymru yn gosod cartrefi'n gyflym, gan sicrhau cymaint o incwm rhenti â phosibl a chan sicrhau hefyd fod cynifer o gartrefi ag y bo modd ar gael i denantiaid newydd. Mae'n cydweithio’n dda gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i atal ac i leihau digartrefedd drwy ddarparu tai â chymorth a llety mewn hosteli.

Mae wedi ymrwymo hefyd i ddatblygu cofrestri tai cyffredin (a rennir) ar draws yr ardal lle mae'n weithredol.

Mae angen i Dai Gogledd Cymru wneud mwy i ddangos ei bod yn gosod tai mewn ffordd deg a bod safon yr eiddo a gynigir i bobl sy'n gwneud cais am dai yn bodloni'r disgwyliadau sydd ganddynt.

3. Rydym yn rheoli ein cartrefi’n effeithiol.

Mae Tai Gogledd Cymru yn defnyddio'r math mwyaf diogel o denantiaeth ar gyfer pob cartref sy'n cael ei osod o'r newydd ac mae'n pennu rhenti yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Pan fo tenantiaid newydd yn derbyn y cartref a gynigir iddynt, mae'n rhoi gwybodaeth glir iddynt am eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Er hynny, mae angen iddi wneud mwy i ddangos ei bod yn rheoli cartrefi'n effeithiol bobl amser. Nid oes ganddi wybodaeth gynhwysfawr am ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr ei gwasanaethau, ac mae hyn yn golygu nad yw'n gwybod a yw'n ymateb mewn ffordd gyson i'r anghenion sydd gan unigolion o ran tai ac o ran cymorth, er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau.

Mae angen hefyd iddi wneud mwy i feithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae tenantiaid yn ei feddwl am y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. Nid yw'n gallu dangos y canlyniadau sydd wedi deillio o'r gwaith y mae'n ei wneud i gynorthwyo tenantiaid sy'n wynebu trafferthion ariannol, na chanlyniadau’i gwaith i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) neu ansawdd yr amgylchedd y mae ei denantiaid yn byw ynddo. Roedd rhai o'r tenantiaid y cysylltwyd â hwy yn teimlo nad oedd yn ymateb yn effeithiol bob tro pan oedd yn cael gwybod gan denantiaid am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

4. Rydym yn atgyweirio cartrefi ac yn eu cynnal a’u cadw mewn modd sy’n effeithlon, yn gosteffeithiol ac o fewn yr amser a bennwyd.

Mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod bod angen iddi wella canlyniadau yn hyn o beth ac mae wedi gweithredu i wella'r ffordd y mae'n mynd ati i roi gwybodaeth i denantiaid am raglenni cynnal a chadw y mae'n bwriadu ymgymryd â hwy yn y dyfodol. Mae wedi cyflwyno gwelliannau hefyd o ran cysylltu â hwy ynghylch rhaglenni o'r fath.

Mae wedi cydnabod bod angen iddi wella o ran sut mae'n ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, a hynny er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n diwallu anghenion ei thenantiaid.

Nid yw Tai Gogledd Cymru wedi gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr arolwg o gyflwr y stoc ac mae hyn wedi arwain at anawsterau o ran datblygu cynlluniau manwl i wella'i chartrefi ac o ran rhoi gwybodaeth i denantiaid am raglenni gwaith y bwriedir ymgymryd â hwy yn y dyfodol. Tynnodd y tenantiaid y cysylltwyd â hwy sylw at y materion hyn, gan ddweud eu bod yn feysydd allweddol yr oedd angen eu gwella.

Roedd disgwyl i'r gymdeithas fodloni gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2012. Mae, serch hynny, wedi cyflwyno cais am estyniad, gan ofyn a fyddai modd iddi bellach fodloni gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2014.

Bydd swyddogion yn gofyn i'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ystyried estyniadau posibl unwaith y byddant wedi ystyried y rhesymau dros wneud cais am estyniad. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Rhagfyr 2011.

5. Rydym yn darparu gwasanaethau teg ac effeithlon i berchenogion.

Nid oedd Tai Gogledd Cymru yn gallu dangos ei bod yn darparu gwasanaethau teg ac effeithlon i berchenogion bob amser. Nid oedd rhai o'r rhanberchenogion y cysylltwyd â hwy yn fodlon ag ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd. Nodir mai dim ond nifer bach o berchenogion/lesddeiliaid sydd gan Dai Gogledd Cymru.

Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol

Llywodraethu

Rhestrir y canlyniadau cyflawni isod gan roi asesiad, ym mhob achos, o’r cryfderau allweddol ac o’r meysydd lle mae angen gwella.

1. Rydym yn rhoi lle canolog yn ein gwaith i bobl sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau – gan roi'r dinesydd yn gyntaf.

Mae Tai Gogledd Cymru yn anelu at roi lle canolog i ddefnyddwyr ei gwasanaethau a phan fo gan staff unigol yr wybodaeth berthnasol, maent yn rhoi'r dinesydd yn gyntaf. Pan gesglir adborth – gan gynnwys cwynion ffurfiol – oddi wrth ddefnyddwyr y gwasanaethau, mae'r gymdeithas yn gwerthfawrogi'r adborth hwnnw ac yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau. Mae'r gymdeithas yn cydnabod bod angen iddi ddatblygu dull mwy integredig o gyflawni canlyniadau y mae defnyddwyr ei gwasanaethau o’r farn eu bod yn rhai cadarn, ac mae wrthi'n datblygu cynlluniau i wella'i pherfformiad yn hyn o beth.

Cymysg yw ei pherfformiad o ran cynnwys tenantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau wrth iddi fynd ati i lywio'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae'n gryfach o lawer ar lefel weithredol y rheng flaen nag yng nghyswllt penderfyniadau strategol am gynllunio gwasanaethau a pherfformiad cymharol.

Nid oes gan Dai Gogledd Cymru wybodaeth gynhwysfawr am ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr ei gwasanaethau nac am eu blaenoriaethau o ran y gwasanaethau a ddarperir. Mae angen iddi wneud mwy i ddeall beth yw barn ei thenantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau am ei chanlyniadau cyflawni hi ei hun ac am ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddi – nid oedd wedi rhoi sylw i'r materion hyn yn yr hunanasesiad.

2. Rydym yn byw yn unol â gwerthoedd y sector cyhoeddus, drwy gynnal ein busnes gyda gonestrwydd ac uniondeb, gan ddangos, drwy ein hymddygiad, ein bod yn llywodraethu’n dda.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i sicrhau bod ei gweithgareddau a'i gwasanaethau yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau lle mae'n gweithio, nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un, a'i bod yn rhoi cyfle cyfartal i bawb. Mae ei phartneriaid allanol yn cadarnhau hyn. Er hynny, nid yw'n gallu dangos, ar hyn o bryd, ei bod yn gwireddu'r ymrwymiad hwnnw, er ei bod wrthi'n datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r mater. Nid yw'r gymdeithas yn gallu darparu gwasanaethau yn Gymraeg bob amser ond mae ganddi gynlluniau datblygedig i sicrhau y bydd yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol. Nid yw bob amser yn cynnwys data rheoli/data am berfformiad yn yr wybodaeth y mae'n ei chyhoeddi ar gyfer tenantiaid a defnyddwyr ei gwasanaethau. Byddai gwybodaeth o'r fath yn eu helpu i fesur ansawdd y gwasanaethau o'u cymharu ag eraill.

Mae'n cydnabod bod angen iddi wella mewn nifer o'r meysydd hyn ac mae wrthi'n datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â hwy. Mae wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol o ran gwella amgylchiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y gymuned leol, gan fynd ati yn aml i arwain gwaith o'r fath.

3. Rydym yn sicrhau bod ein diben yn glir ac rydym yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd gennym – gan wybod pwy sy’n gwneud beth a pham.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi sefydlu strwythur grŵp yn ddiweddar ac mae'r strwythur hwnnw'n un cynhwysfawr sydd wedi cael ei ystyried yn fanwl. Mae ganddi gynlluniau datblygedig i wella ansawdd data ac mae'n bwriadu ailstrwythuro ar lefel yr uwch-reolwyr. Bwriad y gwaith hwn, ynghyd â'r cynlluniau sydd ganddi i wella ei chapasiti, ei sgiliau a'r dulliau y mae'n eu defnyddio, yw creu diwylliant cryfach o welliant parhaus. Mae wedi mynd ati i wella trefniadau caffael, ac mae hynny wedi arwain at arbedion effeithlonrwydd.

Er bod gan Dai Gogledd Cymru weledigaeth glir o'r hyn y mae am ei gyflawni, nid yw'n llwyddo bob amser i droi'r weledigaeth honno yn ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer tenantiaid ar draws y sefydliad. Mae sawl peth i gyfrif am hyn, megis data o ansawdd gwael, ynghyd â rheolaeth wael ar y data hynny mewn rhai ardaloedd, ansawdd amrywiol y gwaith rheoli ac arwain, a dealltwriaeth gyfyngedig o'r materion sydd bwysicaf i denantiaid, gan gynnwys ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid. Nid oes ganddi ddealltwriaeth glir o’r costau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir, er mwyn iddi fedru penderfynu a yw’n sicrhau gwerth am arian ai peidio.

4. Rydym yn ymgysylltu ag eraill i wella ac i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’r gymuned.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi dangos ei bod yn gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ag eraill, ac mae'r adborth a gafwyd oddi wrth ei phartneriaid yn ategu hynny. Mae'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y gymuned ac yn dangos arweiniad yn hyn o beth.

Rheolaeth Ariannol

5. Rydym yn fusnes ariannol cadarn a hyfyw.

Mae Tai Gogledd Cymru yn fusnes ariannol cadarn sydd â fframwaith rheoli arian cadarn ac mae'n mynd ati mewn ffordd synhwyrol i nodi ac i reoli risgiau. Mae ei gweithgareddau yn dangos y safonau uchaf o ran gonestrwydd ariannol.

Cyhoeddwyd dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol ym mis Mawrth 2011. Y dyfarniad oedd: "Llwyddo – mae gan Dai Gogledd Cymru ddigon o adnoddau i fodloni ymrwymiadau busnes ac ariannol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol".

Ffynonellau gwybodaeth a gweithgarwch rheoleiddiol

Fel arfer, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu’r wybodaeth a ganlyn:

  • Cyfrifon blynyddol archwiliedig, gan gynnwys y datganiad sicrwydd ynghylch rheolaethau mewnol;
  • Llythyr rheoli’r archwilwyr allanol;
  • Rhagolygon ariannol;

Yn ogystal â’r uchod, cymerwyd y camau penodol a ganlyn rhwng mis Chwefror 2010 a mis Medi 2011:

  • Gweithgarwch rheoleiddiol sy’n seiliedig ar reoli perthynas;
  • Adolygiad o’r hunanasesiad ac o’r dystiolaeth “galed” a “meddal” atodol sy’n gysylltiedig â’r canlyniadau cyflawni;
  • Cyfarfodydd gyda’r tîm gweithredol;
  • Mynd i gyfarfodydd y bwrdd;
  • Mynd i gyfarfodydd/trafodaethau gyda rhanddeiliaid e.e. fforwm tenantiaid/preswylwyr; partneriaethau etc.

Sail yr asesiad rheoleiddiol

Mae'r asesiad rheoleiddiol hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, ar yr wybodaeth yr ydym wedi'i chasglu amdano ac am y modd y mae’n rheoli ei wasanaethau, ac ar ein profiad ohono.

Wrth baratoi’r adroddiad hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu ar ei ran. Cyfarwyddwyr y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth honno yn gyflawn ac yn gywir.

Asesiad rheoleiddio ar gyfer y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yw’r adroddiad hwn. Ni ddylai unrhyw unigolyn neu sefydliad arall ddibynnu arno ac ni ddylid dibynnu arno at unrhyw ddiben arall. Mae unrhyw unigolion neu sefydliadau eraill yn gyfrifol am gynnal eu hymchwiliadau neu eu hymholiadau eu hunain.

Esboniad o Lefelau Uchel, Canolig neu Isel o Gyswllt Rheoleiddio

Lefel uchel o gyswllt rheoleiddio

Bydd lefel uchel o gyswllt â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os yw’r asesiad yn dangos bod angen i ni feithrin perthynas ddwys neu barhaus sydd wedi’i theilwra’n arbennig. Mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu y bydd cysylltiad rhyngom a’r sefydliad am gyfnod mwy estynedig er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o’r meysydd lle mae risg ar hyn o bryd, o’r meysydd lle gallai risg godi yn y dyfodol ac o’r modd y mae’r sefydliad yn mynd ati i reoli’r risgiau hynny. Mae’n bosibl y bydd ein cynllun cyswllt yn cynnwys amrywiaeth ehangach o weithgareddau rheoleiddio e.e. monitro cynnydd; mynd i gyfarfodydd y Bwrdd, cyfarfodydd yr uwch-reolwyr a chyfarfodydd gyda thenantiaid/preswylwyr. Dichon y bydd angen lefel uchel o gyswllt rheoleiddio hefyd os oes risgiau penodol yn debygol o ddod i’r amlwg, neu os oes risgiau o’r fath wedi dod i’r amlwg eisoes, ac os oes angen i ni gynorthwyo sefydliad i wneud yn well o ran bodloni gofynion y canlyniadau cyflawni.

Lefel ganolig o gyswllt rheoleiddio

Bydd lefel ganolig o gyswllt rheoleiddio â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os gwelir, ar ôl cynnal yr asesiad, bod angen mwy o sicrwydd arnom. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, neu efallai y bydd angen i ni feithrin cysylltiadau agosach ag uwch-reolwyr y sefydliad a/neu ei gorff llywodraethu. Dichon hefyd y bydd angen i ni fonitro cynnydd yn unol â’r canlyniadau cyflawni a/neu’r cynlluniau gwella.

Lefel isel o gyswllt rheoleiddio

Bydd lefel isel o gyswllt rheoleiddio â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os nad yw problemau’n cael fawr o effaith ac os yw hi’n debygol mai ychydig yn unig o broblemau a ddaw i’r amlwg. Mewn achosion o’r fath, cyswllt cyfyngedig fydd rhyngom a’r sefydliad, oni bai bod materion eraill yn codi. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwella, ac yn monitro’r meysydd hynny, ond mewn ffyrdd llai dwys nag ar gyfer sefydliadau le mae angen lefel ganolig neu uchel o gyswllt rheoleiddio.

Chwilio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?