Mae Tai Gogledd Cymru yn credu bod gennym gyfrifoldeb i ofalu a gwarchod am yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo. Rydym wedi ymrwymo'n llawn i wella perfformiad amgylcheddol ar draws ein holl weithgareddau busnes, a byddwn yn annog ein partneriaid busnes ac aelodau o'r gymuned ehangach i ymuno â ni yn yr ymdrech yma.
Mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod bod ein heffeithiau allweddol yn y meysydd canlynol:
- Defnydd o ynni
- Cynhyrchu gwastraff
- Cludiant
- Caffael
- Defnydd o ddeunyddiau crai
Byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r canlynol:
- Mabwysiadu’r safonau amgylcheddol uchaf ym mhob maes gweithredu, gan gyfarfod a rhagori ar yr holl ofynion deddfwriaethol perthnasol.
- Asesu ein gweithgareddau sefydliadol a nodi meysydd lle gallwn leihau effeithiau.
- Lleihau gwastraff trwy wneud defnydd gofalus ac effeithlon o'r holl ddeunyddiau ac ynni.
- Prynu cynnyrch cynaliadwy lle bynnag y bo hynny'n ymarferol.
- Rhoi cyhoeddusrwydd i’n safbwynt amgylcheddol.
- Hyfforddi ein gweithwyr mewn arfer amgylcheddol da ac annog cyfranogiad gweithwyr mewn camau gweithredu amgylcheddol.
- Gwneud ystyriaethau amgylcheddol yn rhan o bob penderfyniad buddsoddi a chaffael.
- Cynorthwyo wrth ddatblygu atebion i broblemau amgylcheddol.
- Asesu effaith amgylcheddol ein holl weithrediadau yn barhaus.
Mae Tai Gogledd Cymru wedi datblygu cyfres o gynlluniau gweithredu i ategu pob un o'n hamcanion polisi amgylcheddol.
Bydd Tai Gogledd Cymru yn adolygu perfformiad o dro i dro ac yn cyhoeddi canlyniadau hyn ar.
Dyddiad yr adolygiad nesaf Mawrth 2012