Os ydych yn berchen ar eich cartref, mae'n bosibl y gall y Cynllun Achub Morgais eich helpu os ydych chi’n cael anawsterau talu'ch morgais ac os oes perygl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu.
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth, gall cymdeithas dai roi benthyciad ecwiti i chi dan y cynllun Cymorth Prynu er mwyn lleihau'r swm rydych yn ei wario ar eich morgais neu, os nad yw hynny'n addas, gall y gymdeithas dai brynu'ch cartref oddi wrthych a gallwch barhau i fyw yno fel tenant.
Bydd y gymdeithas dai wedi'i chofrestru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y gymdeithas dai yn gwneud cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru am grant a fydd yn helpu gyda chostau prynu'ch cartref.
Dim ond swm cyfyngedig o arian sydd ar gael ar gyfer y cynllun felly ni fydd modd helpu pawb. Bydd cymorth yn cael ei roi i'r bobl hynny y bydd ei angen arnynt fwyaf.
Nid y Cynllun Achub Morgais fydd y dewis gorau i bawb. Efallai y bydd modd i chi fynd nôl ar y trywydd iawn ac ail-gychwyn talu'ch morgais unwaith eto a ddim gorfod gwerthu eich ty er mwyn parhau i fyw yno. Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch benthyciwr ac yn cael cyngor annibynnol er mwyn gweld pa ddewisiadau sydd ar gael. Mae rhestr o fudiadau all helpi wedi nodi isod.
Mae’r cynllun ar gyfer pobl sydd â blaenoriaeth i gael ei ail-gartrefu gan y cyngor lleol neu gymdeithas tai lleol. All eich cyngor lleol cadarnhau os mae hyn yn gymwys i chi ond yn y lle cyntaf rhaid i chi fedru rhoi ateb cadarnhaol i'r datganiadau hyn i gyd:
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth dan y cynllun, bydd y gymdeithas dai yn edrych ar faint o ddyledion sydd gennych, faint fyddai'n ei gostio i brynu'ch cartref ac i wneud unrhyw waith atgyweirio neu waith arall y mae angen ei wneud arno. O dan rai amgylchiadau, ni fydd modd bwrw ymlaen â'ch cais os yw'r costau'n rhy uchel, gan olygu na fyddai'n ymarferol.
Nid oes hawl gennych i gael cymorth dan y cynllun Achub Morgais, ond byddwch yn cael esboniad pam na ellir bwrw ymlaen â'ch cais.
Os ydych chi'n credu y gallai'r Cynllun Achub Morgais eich helpu chi, dylech gysylltu:
Am gyngor annibynnol:
Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru 0800 107 1340 neu www.housing-debt-helpline-wales.org/hafan
Shelter Cymru Ffôn 0845 075 5005 neu www.sheltercymru.org.uk/shelter/cymraeg/home
Citizens Advice Bydd rhif ffôn eich swyddfa leol yn y llyfr ffôn neu www.citizensadvice.org.uk