Home | Ein Cartrefi | Dod o hyd i gartref

Dod o hyd i gartref

Sut i gysylltu â ni

Prif Swyddfa/Swyddfa Ardal Conwy:

Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyf
Broad Street
Cyffordd Llandudno
Conwy LL31 9HL

Ffôn: 01492 572727
Ffacs: 01492 572202

E Bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Swyddog Ardal Bangor/Gwynedd ac Ynys Môn:

Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyf
336-338 Stryd Fawr
Bangor
Gwynedd LL57 1YA

Ffôn: 01248 370227
Ffacs: 01248 370288

E Bost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Mae ein gwybodaeth i gyd ar gael mewn fformatau gwahanol - yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg), print bras, Braille/Braille Cymraeg, Moon, tâp sain/CD a CD-Rom.  Rydym hefyd yn tanysgrifio i wasanaeth trosi - Language Line i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg.

Sut ydw i'n gwneud cais am gartref yng Nghonwy a Sir Ddinbych?

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais ar-lein neu fel arall, os oes arnoch angen ffurflen gais bapur, cliciwch ar y botwm "cysylltu â ni" i ofyn am ffurflen.

Gwneud cais am Lety yn Ardal Gwynedd:

Mae Cofrestr Tai Cyffredin yn cael ei defnyddio yn ardal Gwynedd. Mae hyn yn golygu y byddwch ond angen llenwi un ffurflen gais i Gyngor Gwynedd er mwyn cael eich ystyried ar gyfer llety gyda Chymdeithas Tai Eryri, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Cymdeithas Tai Clwyd, Tai Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd. Cliciwch yma i lawrlwytho Ffurflen Gais neu fel arall, cliciwch ar y botwm "cysylltu â ni" i ofyn am ffurflen bapur.

Gwneud cais am Lety yn Ardal Ynys Môn:

Mae Cofrestr Tai Cyffredin yn cael ei defnyddio yn ardal Ynys Môn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi fod wedi cofrestru ar Gofrestr Tai Ynys Môn cyn y gallwch gael eich ystyried ar gyfer llety gyda Thai Gogledd Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Ynys Môn: Ceisiadau am dai: 01248 752293 / 752294 | Ebost Ymholiadau cyffredinol: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Allwch chi fy helpu i lenwi fy ffurflen gais?

Os ydych angen help neu gyngor wrth lenwi’ch ffurflen, gofynnwch i ni.  Mae croeso i chi alw i mewn i’n swyddfeydd, neu bydd ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn hapus i’ch helpu dros y ffôn.  Rydym hefyd yn tanysgrifio i wasanaeth trosi – Language Line i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg.

Pwy all wneud cais am dŷ?...Pawb!

Os ydych yn 16 oed neu drosodd gallwch wneud cais am gartref gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru.  Fodd bynnag, mae yna rai categorïau neu bobl nad ydynt yn gymwys o dan ddeddfwriaeth Rheoli Mewnfudwyr.  Hefyd mae yna rai amgylchiadau lle y gall cais gael ei wahardd dros dro o’n rhestr aros.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth ffug
  • Ymddygiad annerbyniol difrifol
  • Dim talu rhent

Torri amodau tenantiaeth

Gall cais gael ei wahardd am uchafswm o bum mlynedd.  Ond, bydd pob cais yn cael ei drin ar sail unigol a bydd yr ymgeiswyr yn cael eglurhad ysgrifenedig llawn am y penderfyniad, yn cynnwys:

  • Ar ba sail y gwnaed y penderfyniad
  • Am ba hyd y bydd eich cais yn cael ei wahardd
  • Sut y gellir newid y penderfyniad
  • Sut i apelio yn erbyn y penderfyniad, os ydych yn anghytuno ag ef.

Pobl sydd angen cefnogaeth

Efallai eich bod yn derbyn cefnogaeth yn barod neu y byddwch angen rhywfaint o gefnogaeth i’ch helpu i gadw at eich amodau tenantiaeth.  Gall hyn fod oherwydd salwch meddwl, dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol neu resymau eraill.  Gallai’r gefnogaeth amrywio o helpu gyda’ch materion ariannol neu ddysgu sgiliau bywyd i’ch helpu i fyw’n annibynnol.  Rydym yn gofyn am sicrwydd bod cefnogaeth ar gael i chi a gallwn helpu drwy eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill.  Os hoffech fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau cefnogi cysylltwch â’n Tîm Tai â Chefnogaeth.

Llety gwarchod

Os ydych yn 55 oed neu drosodd gallwch wneud cais am lety gwarchod.  Mae’r math hwn o lety fel arfer yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol un neu ddwy ystafell wely.  Fodd bynnag, mae gennym nifer bach iawn o fyngalos.  Mae’r cartrefi yma wedi eu cysylltu â system larwm argyfwng 24 awr.  Mae gan rai o’n cynlluniau gwarchod warden ar y safle. Mae gennym hefyd Gynlluniau Gofal Ychwanegol i bobl dros 60 oed sydd angen cymorth ychwanegol i fyw yn annibynnol.

Cynllun rhan-berchenogaeth/Cymorth Prynu

Mae rhan-berchenogaeth yn wahanol i rentu neu berchenogaeth lawn.  Mae’n addas ar gyfer pobl sydd ag incwm rheolaidd sydd eisiau prynu eu cartref eu hunain ond ddim yn gallu fforddio gwneud hynny.  Gyda rhan-berchenogaeth rydych yn prynu cyfran o’ch cartref ac yn talu rhent ar y gweddill.  Gallwch fod yn gymwys i’r cynllun os:

  • Nad ydych yn gallu fforddio costau llawn perchnogaeth lwyr.
  • Rydych yn gwpwl neu’n deulu yn chwilio am eich cartref cyntaf.
  • Rydych yn gallu cael morgais neu mae’r swm cyfalaf ar gael gennych.

Mae Cymorth Prynu yn galluogi pobl i gael disgownt wrth brynu tŷ, sy’n cael ei dalu’n ôl i ni pan fyddant yn gwerthu. Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth.

Beth sy’n digwydd i’m ffurflen gais?

O fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich ffurflen gais byddwn yn rhoi’ch manylion ar gyfrifiadur a byddwch yn cael eich rhoi mewn band blaenoriaeth yn ôl eich angen am gartref a’ch amgylchiadau presennol, gan ystyried pethau fel eich sefyllfa feddygol, rhesymau cymdeithasol, gorlenwi, rhannu neu ddiffyg rhai cyfleusterau ac ati.  Yna byddwn yn anfon y wybodaeth ganlynol atoch:

  • Cadarnhad o’ch band a dyddiad eich cais.
  • Sut i apelio yn erbyn yr asesiad, os ydych yn anghytuno ag ef.
  • Canllaw i’r bandiau, a fydd yn rhoi syniad i chi o’r ffordd rydym yn gosod ein cartrefi er mwyn rhoi syniad i chi pa siawns sydd gennych o gael eich rhoi ar restr fer am gartref gwag yn yr ardaloedd o’ch dewis.

Byddwn yn ysgrifennu atoch bob chwe mis i gadarnhau’ch amgylchiadau a gwneud yn siŵr eich bod yn dal angen cartref.  Os nad ydych yn ateb, bydd eich cais yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

Beth alla i wneud i helpu fy nghais?

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw rhoi gwybod i ni os yw’ch amgylchiadau yn newid, er enghraifft:

  • A yw eich iechyd yn cael ei effeithio erbyn hyn gan eich llety?  Dylech amgáu llythyr gan eich meddyg, neu berson proffesiynol arall sy’n gwybod am eich sefyllfa.
  • A ydych chi wedi cael rhybudd i ymadael?  Anfonwch gopi i ni.
  • A oes yna unrhyw broblemau ynghylch cyflwr eich llety presennol?  A oes unrhyw un wedi symud allan?
  • A oes unrhyw un wedi symud i mewn gyda chi?
  • A ydych chi newydd gael babi?  Rhowch enw’r babi a’r dyddiad geni.
  • A ydych chi o dan fygythiad o fod yn ddigartref neu ar fin bod yn ddigartref?
  • A yw eich cartref yn cael ei ailfeddiannu neu a oes bygythiad o hynny?
  • A oes unrhyw un yn eich cartref yn feichiog?
  • A ydych chi wedi newid cyfeiriad ers i chi wneud cais i ni?

Sut mae cartrefi yn cael eu rhannu?

Pan fydd eiddo yn dod ar gael, bydd swyddog tai yn gwneud rhestr fer o’r ymgeiswyr â’r flaenoriaeth uchaf yn ôl trefn dyddiad eu cais ac yn ymweld â nhw cyn dewis un ymgeisydd/teulu ar gyfer yr eiddo hwnnw.  Hefyd, mae gan y cyngor hawliau enwebu ar o leiaf hanner ein llefydd gwag.  Mae angen i ni hefyd ystyried ymgeiswyr sydd am drosglwyddo, a allai fod â rheswm blaenoriaeth dros symud.  Pan fydd gennym eiddo gwag, fel arfer y person â’r flaenoriaeth uchaf ac wedi bod yn aros am y cyfnod hiraf sy’n derbyn cynnig.  Mae yna alw uchel iawn mewn rhai ardaloedd, felly bydd yna lawer o gystadleuaeth.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am gynnig?

Bydd y ffactorau isod yn penderfynu am ba hyd y gallech orfod aros i gael cynnig:

  • Nifer a blaenoriaeth cymharol y bobl eraill ar y rhestr.
  • Math a nifer y tai yn yr ardal a ddewiswyd gennych.
  • Pa mor gyflym y mae’r preswylwyr presennol yn gorffen eu tenantiaethau.

Gallech leihau’r amseroedd aros posibl drwy ehangu’ch dewis o ardaloedd a’r math o eiddo y byddech yn fodlon byw ynddo.  Hefyd gallai gwneud cais i’r awdurdod lleol gynyddu’ch gobaith o gael eich ailgartrefu.  Mae o leiaf 50% o’n tai gwag yn mynd i enwebiadau awdurdod lleol.  Enwebiad yw pan mae’r awdurdod lleol yn rhoi’ch enw ymlaen i gael tŷ gwag penodol.

A fydd rhywun yn ymweld â mi gartref?

Dim ond os ydych wedi cael eich rhoi ar y rhestr fer o’n rhestr aros y byddwch yn cael ymweliad neu os ydych wedi’ch enwebu gan awdurdod lleol am dŷ gwag.

Sut ydw i’n apelio yn erbyn fy asesiad?

Os nad ydych yn hapus â’r band blaenoriaeth a roddwyd i’ch cais, gallwch apelio mewn ysgrifen, drwy e-bost, ffôn, ffacs neu wyneb yn wyneb.

I ddechrau, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, a fydd yn barod iawn i drafod eich cais gyda chi.

Os ydych yn anhapus â’r canlyniad, cysylltwch â’n Rheolwr Gwasanaethau Tai, a fydd yn adolygu’ch cais ac yn anfon ateb ysgrifenedig atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn cytuno ag ateb y rheolwr, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol, a fydd yn anfon ateb ysgrifenedig atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn cytuno ag ateb y Cyfarwyddwr, cysylltwch â’n Swyddog Cyswllt, a fydd yn rhoi cychwyn ar ein trefn gwyno.

Pa fath o denantiaeth fyddaf yn ei chael, os wyf yn cael eiddo?

Bydd pob tenant newydd sy’n symud i mewn i’n cartrefi hunangynhwysol yn cael Tenantiaeth Byrddaliad Sicr am y deuddeg mis cyntaf fel tenant CTGC.  Tenantiaeth gychwynnol yw hon ac rydym yn gwneud hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod tenantiaid newydd o ddifrif ynglŷn â chadw at yr amodau yn eu cytundebau ac nad ydynt yn achosi problemau i denantiaid eraill drwy ymddwyn yn wael.

Gosodiadau lleol

Mewn rhai ardaloedd, darparwyd tai fforddiadwy yn amodol ar rai cyfyngiadau cynllunio.  Yn yr amgylchiadau yma, dim ond pobl â chysylltiad lleol â’r ardaloedd y mae hawl gennym eu hailgartrefu.  Rydym wedi ymrwymo i helpu cymunedau i aros yn llefydd iach a diogel i fyw ynddynt.  Gallwn ddefnyddio polisïau gosod lleol i atal neu wrthdroi amddifadedd cymdeithasol neu ymddygiad drwg.

Y Tîm Gweinyddu Tai

Ein Tîm Gweinyddu Tai yw’r cyswllt llinell flaen i holl gwsmeriaid y Gymdeithas.  Byddwn bob amser yn ceisio’ch trin gyda chwrteisi a pharch, a delio â chwsmeriaid mewn ffordd foneddigaidd, gyfeillgar a phroffesiynol.  Rydym bob amser yn ymdrechu i wella’n gwasanaethau i’n cwsmeriaid ac rydym yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar sut i wella’n gwasanaeth.

Diogelu data, mynediad i wybodaeth a chyfrinachedd

Rydym wedi cofrestru o dan y Ddeddf Diogelu Data, sy’n golygu bod gan ymgeiswyr, tenantiaid hen a newydd, yr hawl i weld yr holl wybodaeth sydd gennym arnynt ar ein cyfrifiadur.  Os hoffech wirio’r wybodaeth honno, ysgrifennwch atom i ofyn am gopi.  Os ydych yn meddwl bod y wybodaeth yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei chywiro.

Gallwch ofyn am weld eich ffeil a chael unrhyw wybodaeth anghywir wedi ei chywiro.  Mae’n rhaid i chi ofyn i ni mewn ysgrifen a gwneud apwyntiad i ddod i mewn a gweld y ffeil.  Gall fod rhai pethau nad oes hawl gennych eu gweld, fel llythyr cyfrinachol gan feddyg neu weithiwr cymdeithasol.  Bydd angen i chi ddod â rhyw ffurf o adnabyddiaeth gyda chi, ac os ydych eisiau copïau o unrhyw beth mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am eu hargraffu.

Ni fyddwn yn rhoi nac yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch i unrhyw unigolyn preifat heb eich caniatâd ysgrifenedig, oni bai fod rhaid i ni wneud hynny yn ôl y Gyfraith.

Cyfle cyfartal

Credwn na ddylai unrhyw berson ddioddef anfantais oherwydd eu hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedl neu oherwydd eu crefydd, rhyw, tueddiad rhywiol neu anabledd.  Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob un o’n cwsmeriaid yn derbyn safon gwasanaeth cyfartal, ac i’r diben hwn rydym yn monitro’n polisïau a’n gweithdrefnau fel y gallwn ddangos nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol nag eraill.

Cwynion

Os oes gennych gŵyn neu unrhyw fath o adborth am ein gwasanaeth, mae yna drefn hawdd ei dilyn.  Gallwch wneud cwyn mewn ysgrifen, drwy e-bost, ffôn, ffacs neu wyneb yn wyneb.  Byddwch yn cael manylion llawn am ein trefn, yn cynnwys manylion cyswllt, pan fyddwch yn gwneud eich cwyn i ddechrau.

Gwybodaeth bellach

Beth arall alla i wneud i ddod o hyd i lety gwahanol?

Gan fod tai gwag mor brin rydym yn awgrymu eich bod yn edrych am ffyrdd eraill o sicrhau cartref arall.  Gallwch:

  • Wneud cais i’r cymdeithasau tai eraill yn yr ardal a’r awdurdod lleol.
  • Edrych yn y papurau newydd lleol, sy’n hysbysebu llefydd gwag mewn llety sy’n cael ei rentu’n breifat.
  • Cysylltu â’r nifer o asiantaethau gosod yn yr ardal, yn cynnwys gwerthwyr tai.
  • Cysylltu â landlordiaid lleol.
  • Edrych ar y rhyngrwyd.

Os ydych yn denant awdurdod lleol neu gymdeithas dai mae yna opsiynau eraill ar gael i chi:

  • Rhowch eich manylion ar gofrestr gyfnewid y cymdeithasau tai a’r awdurdod lleol.
  • Cofrestrwch gyda chynllun cenedlaethol MoveUK, HOMESWAPPER, a all eich helpu i gyfnewid eich cartref gyda thenant awdurdod lleol neu gymdeithas dai arall yn lleol neu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.  Gallwch gael ffurflen gais gan eich landlord, cofrestrwch ar-lein ar www.availablehomes.co.uk neu ffoniwch: 0845 080 1089.
  • Holwch eich landlord am y cynllun MoveUK, HOMESWAPPER - Cynllun cenedlaethol sy’n galluogi’ch landlord i’ch enwebu i symud i ardal wahanol.

Rwy’n poeni am ddyled, beth alla i wneud?

Os oes gennych drafferthion ariannol, mae’n bosibl y gall cynghorydd dyled eich helpu.  Mae’r asiantaethau canlynol yn cynnig cyngor dyled am ddim:

  • Cyngor Ar Bopeth
  • Shelter Cymru (dyled yn ymwneud â thai)
  • Age Concern
  • SSAFA a’r Lleng Brydeinig (Cyn-aelodau’r lluoedd arfog)
  • Mae gan Eglwys Antioch, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, wasanaeth cynghori ar ddyled.

Rwyf ar fin cael fy ngwneud yn ddigartref neu rwyf dan fygythiad digartrefedd, beth alla i wneud?

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol i ddelio â digartrefedd.  Os ydych yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch awdurdod lleol a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi.  Bydd angen i chi roi copi i ni o’ch llythyr oddi wrthyn nhw yn cadarnhau eich bod yn ddigartref.

Mae fy nghartref ar fin cael ei adfeddiannu, beth alla i wneud?

Os yw’ch eiddo yn y broses o gael ei adfeddiannu rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu asiantaethau fel Cyngor Ar Bopeth, Shelter Cymru, Age Concern sy’n gallu rhoi cyngor am ddim ar ddyled.  Anfonwch gopïau o unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r adfeddiannu atom, h.y. llythyrau gan eich benthyciwr, papurau llys, papurau troi allan ac ati.

Mae fy nghartref mewn cyflwr gwael, beth alla i wneud?

Os nad y chi yw perchennog/cydberchennog eich cartref, gallech gysylltu â’r adran Iechyd yr Amgylchedd drwy’ch awdurdod lleol.  Os rhowch wybod i ni pan fydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd wedi archwilio’ch cartref, byddwn yn fodlon ysgrifennu at y swyddog am gopi o’u canfyddiadau.  Mae’n bosibl y bydd y swyddog yn cysylltu â’ch landlord ynghylch cyflwr eich eiddo.

Rydym yn gobeithio bod y wybodaeth yn y llyfryn hwn wedi bod o ddefnydd i chi.  Os oes arnoch angen mwy o help neu gyngor, mae croeso i chi gysylltu â ni.  Bydd wn yn gwneud ein gorau i’ch helpu bob amser.

Chwilio

Gwneud Cais Am A Hafan

Gwneud Cais Am A Hafan

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Gwaith Trwsio â’r target

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth
 

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small