Home | Ein Cartrefi

Ein Cartrefi

Ar hyn o bryd mae gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru tua 2,370 o gartrefi, ac eiddo ar rent yw'r rhan fwyaf o'r rhain. Mae ein heiddo ar rent wedi'u gwasgaru ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, gan ddarparu tai cyffredinol a thai â chefnogaeth.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu Perchentyaeth Cost Isel er mwyn cynorthwyo darpar brynwyr i brynu eu cartref cyntaf. Anelwyd Perchentyaeth Cost Isel yn bennaf at y grwpiau canlynol:

  • pobl sy'n methu fforddio costau llawn perchnogaeth gyflawn
  • cyplau a theuluoedd sy'n chwilio am eu cartref cyntaf, er bod rhywfaint o lety ar gael i ymgeiswyr sengl
  • pobl sy'n gallu cael morgais neu sydd â'r swm cyfalaf ar gael.

Fel Cymdeithas Tai, rydym yn cael ein hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo gyda darparu tai fforddiadwy er mwyn cynyddu, yn bennaf, ein stoc o eiddo ar rent. Yna dyrennir yr eiddo yma i ymgeiswyr ar sail angen.

home_icon
Cliciwch yma am fanylion ein prosiectau datblygu cyfredol

 

Cartrefi Gwag

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cynorthwyo'r awdurdodau lleol i recriwtio 2 Swyddog Cartrefi Gwag arbenigol.

Yng Nghonwy, darperir arian refeniw tuag at y swydd, ac yn Sir Ddinbych mae swyddog amser llawn, wedi'i gyflogi gan CTGC, yn aelod o Dîm Adnewyddu Tai'r awdurdod lleol. Yn y ddau awdurdod, mae'r adnodd yma wedi codi ymwybyddiaeth o'r defnydd o gartrefi gwag ar gyfer tai fforddiadwy, gan ganiatáu adnabod a thargedu eiddo o'r fath. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag.

Prosiect Cartrefi Gwag Sir Ddinbych

Yn Sir Ddinbych, mae'r Swyddog Cartrefi Gwag wedi nodi 800 o gartrefi gwag hirdymor a thros 150 o berchnogion a fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda'r prosiect i ailddefnyddio eu heiddo.

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Strategaeth Cartrefi Gwag drafft ac fe'i cyflwynir i Fwrdd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych yn Ebrill.

Mae'r drafft yn cynnig y gwasanaethau a'r camau canlynol er mwyn defnyddio cartrefi gwag unwaith eto:

  • Cyngor a gwybodaeth i'r rhai sydd am werthu neu osod eu cartref gwag
  • Cynlluniau rheoli a phrydlesu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i'r rhai sy'n amheus neu'n amhrofiadol ynghylch rhentu. Bydd eiddo'n cael ei osod ar lefel fforddiadwy.
  • Grantiau cartrefi gwag i'r rhai nad oes ganddynt digon o arian i adnewyddu eu cartref gwag, gydag amod bod yr eiddo yn cael ei reoli neu ei brydlesu gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig am 5 mlynedd.
  • Gorfodaeth i berchnogion cartrefi gwag problemus sy'n anfodlon gweithio gyda ni. Ymysg y dulliau gorfodaeth mae gorfodi gwerthu, prynu gorfodol a gorchmynion rheoli anheddau gwag.

Chwilio

Gwneud Cais Am A Hafan

Gwneud Cais Am A Hafan

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?