Home | Ein Cartrefi | Perchentyaeth Cost Isel | Rhanberchenogaeth

Rhanberchenogaeth

Mae rhanberchenogaeth yn ddewis amgen i rentu a pherchnogaeth lawn. Mae'n arbennig o addas i bobl ag incwm rheolaidd sydd am brynu eu cartref eu hunain ond sy'n methu fforddio gwneud hynny. Gyda rhanberchenogaeth rydych yn prynu cyfran o'ch cartref - fel rheol mae hyn o gwmpas 40 y cant - ac yn talu rhent ar y gweddill. Nid yw rhanberchenogaeth yn golygu eich bod yn rhannu eich cartref gyda rhywun arall.

Mae cyfanswm costau misol y rhent a'r morgais yn is na chost morgais sydd ei angen i brynu 100 y cant o'r un cartref. Mae hyn oherwydd bod rhanberchenogaeth yn cael ei gefnogi gan arian y llywodraeth sy'n lleihau'r rhent.

Rydym yn ddibynnol ar ranberchnogion presennol sydd am werthu a symud ymlaen. Rhaid iddynt roi gwybod i ni eu bod am werthu, yna hysbysir ymgeiswyr ar y rhestr aros bod eu cyfran ar werth. (Nid oes eiddo newydd yn dod i mewn i'r cynllun hwn gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei ddirwyn i ben a'i ddisodli gan Gymorth Prynu. Nid yw'r Gymdeithas hon yn derbyn arian ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu felly nid ydym yn gallu ei gynnig ar hyn o bryd).

informationDarllenwch y Ddechreuwyr Canllaw i Rhannu Perchnogaeth am fwy o wybodaeth.

home_iconCliciwch yma i weld ein Rhan Berchnogaeth Heiddo