Mae Tai Gwarchod yn rhoi cyfle i breswylwyr fyw yn rhywle gyda’u drws ffrynt eu hunain a chadw eu hannibyniaeth, ond gyda’r tawelwch meddwl fod help a chyngor wrth law os bydd angen.
Mae Tai Gwarchod yn cynnwys eiddo a gynlluniwyd neu a addaswyd i gwrdd ag anghenion cefnogaeth pobl hŷn neu agored i niwed. Mae sawl gwahanol fath o eiddo ar gael. Fflatiau un ystafell wely yw’r rhain yn bennaf er bod rhai fflatiau dwy ystafell wely ac ambell i fyngalo i’w cael hefyd. Ond yr hyn sy’n gyffredin i bob un yw’r ffaith eu bod wedi’u cysylltu â system larwm 24 awr a bod system fynediad drws i’r rhan fwyaf ohonynt.
Mae rhai o’r eiddo mewn blociau gyda chymysgedd o breswylwyr anghenion cyffredinol ond mae eraill yn benodol ar gyfer cleientiaid dros 55 neu 60 oed. Yn y Cynlluniau Tai Gwarchod yma bydd Warden y Cynllun yn rhoi cefnogaeth ar y safle o ddydd Llun i ddydd Gwener (9am – 5 pm). Bydd y Warden yn trefnu cefnogaeth a chyswllt rheolaidd â’r preswylwyr i gwrdd ag anghenion unigol; i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn eu cartref. Bydd hefyd yn ymateb i alwadau larwm os yw ar ddyletswydd.
Caiff anghenion cefnogaeth eu hadolygu bob blwyddyn o leiaf ac mae’r Warden hefyd yn gyfrifol am reoli’r cynllun o ddydd i ddydd.
Os nad yw’r Warden ar ddyletswydd bydd System Galw’r Warden yn ymateb yn briodol i alwadau brys.
Ymysg y cyfleusterau a rennir ar y cynlluniau mae Lolfeydd, Ceginau, Ystafell Westeion, Ystafell Olchi a Gerddi.
Llys y Coed yw’r Cynllun Gofal Ychwanegol cyntaf yng Nghonwy ac mae’n ddatblygiad partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dyma gyfle gwych i fanteisio ar ffordd o fyw yn annibynnol a diogel, gyda gofal a chefnogaeth y tu ôl i chi sy’n hyblyg ac wedi’i addasu ar gyfer eich anghenion.
Nifer fechan o fflatiau ar ôl - Cliciwch yma am fwy o fanylion!
![]()
Edrychwch ar ein rhestr o Eiddo Gofal Ychwanegol