Llys y Coed blank
Llanfairfechan, Conwy, Y Deyrnas Unedig

Cyfeiriad: Cae Ffynnon Road, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0HP, Y Deyrnas Unedig, 01248 680789

Disgrifiad o’r eiddo

Gofal Ychwanegol: Beth yw Gofal Ychwanegol?

Cysyniad Newydd ar Gyfer Tai I Bobl Hŷn

Llys y Coed yw’r Cynllun Gofal Ychwanegol cyntaf yng Nghonwy ac mae’n ddatblygiad partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dyma gyfle gwych i fanteisio ar ffordd o fyw yn annibynnol a diogel, gyda gofal a chefnogaeth y tu ôl i chi sy’n hyblyg ac wedi’i addasu ar gyfer eich anghenion.

Gofal Ychwanegol

Efallai mai Tai Gofal Ychwanegol yw’r allwedd i fyw’n annibynnol gyda gofal. Mae’n addas i chi os ydych dros 60 ac yn awyddus i barhau i fyw’n annibynnol.

Rydym yn croesawu preswylwyr gydag amrywiaeth o anghenion, o’r rheiny sydd angen ychydig bach mwy o ddiogelwch, tawelwch meddwl, help neu ofal, i’r rheiny sy’n fregus iawn ac yn debyg o fanteisio’n llawn ar yr holl wasanaethau sydd gennym i’w cynnig.

Cewch eich cefnogi mewn ffordd sy’n eich galluogi i aros yn annibynnol am fwy o amser. Gallwch symud i mewn ar eich pen eich hun neu gyda’ch partner, a bydd gennych eich fflat eich hun.

Bydd yno ystafell i westeion fel y gall eich teulu a’ch ffrindiau ymweld â chi. Eich cartref chi ydyw, yn y pen draw, ac rydych yn dal i reoli eich arian, eich preifatrwydd, strwythur eich diwrnod, yn fyr… popeth sy’n werthfawr i chi. Dim ond rhoi Gofal Ychwanegol i’ch helpu i wneud hynny yw ein pwrpas ni.

downloadLlwythwch i lawr y Llyfryn Gofal Ychwanegol Llanfairfechan cyflawn yma.


Fflatiau Safonol, Wedi'u Cynllunio'n Dda

Cynlluniwyd ein datblygiad fel y gallwch barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun, ac i wneud bywyd yn haws. Mae ein cyfleusterau, sydd wedi’u hadeiladu i ddyluniad cyfoes o ansawdd eithriadol a safonau cynaliadwyedd uchel, yn cynnig:

  • Fflatiau i’w rhentu  31 x 1 a 15 x 2 Ystafell Wely
  • Byw yn Annibynol
  • Gofal a Chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
  • Bwyty
  • Lolfeydd ac Ystafell Hobiau
  • Ystafell Westai
  • Llyfrgell ac Ystafell TG  
  • Salon Trin Gwallt ac Ystafell Therapi
  • Storfa Sgwteri
  • Ystafelloedd Ymolchi a Chymorth
  • Lifft i bob llawr
  • System Mynediad Drws a Theleofal
  • Hygyrch i gadair olwyn
  • Gerddi hyfryd

Lleoliad Hyfryd

Mae Llys y Coed wedi’i leoli mewn llannerch goediog ddeniadol yn nhref glan-y-môr tawel Llanfairfechan. Saif rhwng Conwy a Bangor ar Draffordd yr A55, ar y brif linell rheilffordd rhwng Llundain a Chaergybi, mewn ardal o harddwch eithriadol, gan gynnig y gorau o ran hygyrchedd a heddwch. Mae yna ddetholiad o siopau a gwasanaethau yn y dref draddodiadol a chroesawus, ac mae’n cynnwys nodweddion pensaernïol diddorol a golygfeydd godidog.

Gofal a Chefnogaeth

Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig hyblygrwydd llwyr o ran y gofal a gynigiwn. Mae’r gofal wedi’i deilwra i’ch anghenion penodol chi, ac yna gwneir trefniadau i sicrhau eich bod yn derbyn yr union wasanaethau y mae arnoch eu hangen. Felly chi sydd wrth wraidd pethau bob amser.

Rydym yn annog preswylwyr i fyw bywyd llawn a phrysur a chaiff cynllun gofal a chefnogaeth personol ei deilwra i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl, yn y ffordd rydych chi’n dewis byw. Mae’r tîm gofal profiadol ar y safle 24 awr y dydd ac yn darparu gofal o safon uchel i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, gan hybu byw’n annibynnol ar yr un pryd, a pharchu eich preifatrwydd, eich urddas a’ch dewis. Mae cyswllt larwm cymunedol gyda chefnogaeth 24 awr y dydd ar gael hefyd.

Ffordd o Fyw

Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig cyfle i chi fyw yn annibynnol ac yn galluogi cyplau a ffrindiau i aros gyda’i gilydd.  Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda thenantiaid eraill a’r gymuned leol cyn gymaint neu cyn leied ag y dymunwch.

Ceir gwir synnwyr o gymuned yn y datblygiad moethus hyfryd yma, sy’n amgylchedd gwych i wneud ffrindiau newydd, croesawu eich teulu a’ch ffrindiau, neu ddim ond ymlacio a mwynhau’r hyn sydd o’ch cwmpas.

Costau

Mae gwybodaeth fanwl am gostau ar gael ar wahân. Mae costTai GofalYchwanegol yn cynnwys tair elfen sylfaenol, fodd bynnag:

  • Cost rhentu eich cartref eich hun
  • Y taliadau gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’ch cartref, ar gyfer cynnal a chadw ac unrhyw gyfleusterau cymunedol
  • Cost y gwasanaethau gofal a chefnogaeth a dderbyniwch.

Bydd y swm rydych yn ei dalu’n amrywio yn ôl eich sefyllfa unigol a’ch incwm. Efallai y bydd rhaid i chi dalu’r costau i gyd neu efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau. Gallwn roi cyngor pellach ynglŷn â hyn i chi.

Manylion Cyswllt

Os ydych yn meddwl y byddai Tai Gofal Ychwanegol yn eich helpu i fwynhau bywyd yn well, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu a Cheryl Haggas Rheolwr Cynllun Gofal Ychwanegol ar 01248 680789 neu Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu Adran Tai Pobl Hŷn ar 01492 572727.

Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, LL31 9HL.

Ysgrifennwch y neges yr hoffech ei hanfon at Llys y Coed
Enw:
Ebost:
Ymholiad

 
 

This is a captcha-picture. It is used to prevent mass-access by robots. (see: www.captcha.net)

Teipiwch y llythrennau a welwch yn y blwch

Ni allaf ddarllen y llythrennau.

Chwilio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small