Penrhos Corner blank
Llandudno Junction, Gwynedd, Y Deyrnas Unedig

Cyfeiriad: Penrhos Avenue, Llandudno Junction, Gwynedd, LL31 9EH, Y Deyrnas Unedig, 01492 580993

Disgrifiad o’r eiddo

Yr Adeilad

Tŷ ar wahân yw Penrhos Corner, sydd wedi’i leoli ym mhentref Cyffordd Llandudno. Mae pedair ystafell wely, dwy ystafell ymolchi gyda chawodydd a dau doiled yn y tŷ. Ar y llawr cyntaf ceir cegin gymunedol, ystafell fwyta/lolfa, ail lolfa/ystafell dawel. Mae ystafell olchi a swyddfa i’r staff ar y llawr cyntaf. Mae’r tŷ wedi’i ddodrefnu’n llawn ac yn cynnwys gwres canolog.

Llety

Mae Penrhos Corner yn darparu llety dros dro, am uchafswm o dair blynedd fel arfer. Rhoddir tenantiaeth byrddaliad sicr i denantiaid, Oherwydd natur y cynllun, ni chaniateir anifeiliaid anwes.

Cyfeirio

Gellwch gael lle yn y tŷ trwy gael eich cyfeirio gan y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Rhaid i bob tenant gael Gweithiwr Allweddol a phecyn cefnogaeth cyn symud i Penrhos Corner. Penderfynir pwy sy’n cael llety trwy flaenoriaethu anghenion tai darpar denantiaid, eu haddasrwydd i’r cynllun a pha mor agored ydynt i niwed. Codir rhent wythnosol.

Ein Nod

Ein nod yw darparu llety i bobl sy’n gwella neu sy’n dioddef o salwch meddwl. Mae aelod o staff yn gweithio yn Penrhos Corner ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am – 1.00 pm

Rhoddir cefnogaeth i drigolion gan ddilyn cynllun sy’n cael ei gytuno’n unigol i gwrdd ag anghenion y preswylydd, ac a gaiff ei adolygu’n rheolaidd. Bydd staff yn helpu tenantiaid i lenwi ffurflenni Budd-dâl Tai, grantiau DSS a benthyciadau. Rhoddir help i drin arian os oes angen. Byddant hefyd yn helpu i gysylltu ag asiantaethau ynglŷn ag unrhyw broblemau arbenigol. Bydd staff hefyd yn rhoi cyngor ar addysg, hyfforddiant, gweithgareddau hamdden a hawl i fudd-daliadau. Pan fydd preswylydd yn barod i symud ymlaen, rhoddir cyngor, cefnogaeth a chymorth i lenwi ffurflenni cais, cysylltu â landlordiaid lleol a pharatoi ar gyfer byw’n annibynnol.

Mae gan TGC Bolisïau Iechyd a Diogelwch a Chyfle Cyfartal, yn ogystal â threfn gwyno. Rhoddwyd dyfarniad Buddsoddwr mewn Pobl i’r Gymdeithas hefyd.

Ysgrifennwch y neges yr hoffech ei hanfon at Penrhos Corner
Enw:
Ebost:
Ymholiad

 
 

This is a captcha-picture. It is used to prevent mass-access by robots. (see: www.captcha.net)

Teipiwch y llythrennau a welwch yn y blwch

Ni allaf ddarllen y llythrennau.

Chwilio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small