Home | Newyddion Diweddaraf | Gweddnewid ystafelloedd ar gyfer preswylwyr pendinas

Gweddnewid ystafelloedd ar gyfer preswylwyr pendinas

Mae preswylwyr yn hostel Pendinas i'r digartref, hanner ffordd drwy gynllun uchelgeisiol i weddnewid ystafelloedd yn y cyfleuster hwn, sydd wedi’i leoli ym Mangor.

Warning: No images in given directory. Please check the directoy!

Mae’r hostel sy’n cael ei redeg gan Tai Gogledd Cymru yn gartref i tua wyth o breswylwyr y mae eu harhosiad yn seiliedig ar gyfnod o hyd at ddwy flynedd, gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi symud yn ôl i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain. Mae’r preswylwyr wedi ymuno gyda’i gilydd er mwyn helpu i drawsnewid Pendinas ac maen nhw eisoes wedi ailwampio'r ystafell fyw gyda décor, dodrefn a gwaith celf newydd.

Mae'r preswylwyr yn dewis y cynllun lliw ar y cyd tra bod dau breswyliwr, y ddau yn addurnwyr profiadol, yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith paentio. Erbyn hyn mae’r gwaith wedi'i gwblhau, ac mae’r hyn a fu unwaith yn ardal gymunedol gymharol isel ei defnydd bellach yn ganolbwynt canolog gweithgaredd o fewn y tŷ y mae’r preswylwyr yn awyddus i’w gadw mewn cyflwr ffres a thaclus.

Mae sesiynau crefft rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal ym Mhendinas lle mae preswylwyr yn cael dysgu dulliau a thechnegau amrywiol sy'n seiliedig ar gelf. Bydd darnau wedi'u cwblhau yn cael eu hongian a'u harddangos ar draws y cyfleuster, i breswylwyr presennol a dyfodol eu mwynhau.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i drawsnewid yr ardd. Bydd ardaloedd gwelyau wedi’u codi yn cael eu defnyddio i dyfu llysiau a pherlysiau, a gaiff eu hadu a’u cynnal gan y preswylwyr tra bydd yr ardal balmantog yn elwa o botiau, planhigion, cadeiriau a byrddau newydd.

Dywedodd Else Lyon, rheolwr Pendinas:

Mae'n wych gweld y preswylwyr yn dangos cymaint o frwdfrydedd ac awydd i gymryd rhan mewn newid amgylchedd Pendinas. Drwy gymryd y camau bach hyn, bydd ein defnyddwyr gwasanaeth yn amlwg yn magu balchder yn eu cartref ac yn  ymroi i’w gynnal a'i gadw.

Ychwanegodd:

Yn ogystal ag annog eu sgiliau cymdeithasol ac adeiladu tîm, mae'r mentrau hyn yn helpu i baratoi ar gyfer symud yn ôl i fyw'n annibynnol."

Share to Facebook Share to Twitter Share to Linkedin 

Chwilio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?