Colin a Flo Blakely ydi tenantiaid balch eiddo sydd wedi ei drawsnewid yn llwyr ar Stryd y Dyffryn, Dinbych. Roedd wedi sefyll yn wag am 15 mlynedd cyn i nifer o sefydliadau ddod i’r adwy i’w adfer.
Fe wnaethpwyd ailwampiad llwyr yr adeilad, sy’n eiddo ar y cyd i Dafydd Roberts sy’n cadw’r siop gigydd y drws nesaf, diolch i grant Cartrefi Gwag ar gyfer y gwaith mewnol. Fe roddwyd grant Menter Treftadaeth Treflun Sir Ddinbych ynghyd â chyllid grant Treftadaeth y Loteri ar gael i adfer y tu allan i’r adeilad rhestredig Gradd II.
Wrth siarad ar ddiwrnod arwyddo cytundeb y denantiaeth, dywedodd Colin a Flo eu bod wrth eu bodd â’u cartref newydd.
Mae’n hyfryd - yn llawer mwy nag y bydden ni wedi gallu ei ddisgwyl ac rydyn ni’n agos at bopeth rydyn ni ei angen yma,” meddai Flo, gan ychwanegu: “Fe hoffem ddiolch i bawb am yr help maen nhw wedi ei roi i ni.”
Dylunwyr a rheolwyr y prosiect oedd Creu Architecture ac fe wnaethpwyd y gwaith gan Ben y Bryn Joinery. Fe ddechreuodd y gwaith ym mis Awst a’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr.
Esboniodd Debbie Nalecz, Swyddog Cartrefi Gwag Sir Ddinbych, swydd a ariennir gan Dai Gogledd Cymru, y bydd Tai Clwyd yn rheoli’r denantiaeth ar ran y perchennog am gyfnod o bum mlynedd.
Un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil o’m swydd i ydi gweld eiddo a oedd yn wag cyn hynny’n cael bywyd newydd a’i weld yn cael ei drawsnewid yn gartref i rywun.......Rydw i’n falch dros Flo a Colin ac yn dymuno pob hapusrwydd iddyn nhw yn eu cartref newydd."
Dywedodd Noela Jones, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Tai Clwyd:
Fe hoffem ddiolch i Gyngor Sir Ddinbych ac yn arbennig i Dafydd Roberts am ein dewis ni fel partner dewisol i ymgymryd â rheolaeth ddyddiol yr eiddo yma sydd newydd ei ailwampio. Mae’n amlwg fod Flo a Colin wrth eu bodd o fod yn byw yma ac fe wnawn ni’r gorau a allwn ni i’w helpu i setlo’n sydyn yn eu cartref newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, yr Aelod Arweiniol dros Adfywio a Thwristiaeth:
Mae hwn yn ganlyniad ffantastig i bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect yma.
Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith partneriaeth ardderchog rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Thai Gogledd Cymru yn Sir Ddinbych yn parhau i fynd o nerth i nerth.”