Darparu llety â chefnogaeth i amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid yw ein nod, yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl ag anableddau dysgu, cyn-droseddwyr, rhai sy’n gadael gofal ac ati. Bydd hyd y gefnogaeth yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau penodol ar y pryd a bydd tynnu cefnogaeth yn ôl yn cael ei gynllunio a’i gytuno rhwng pawb perthnasol.
Rhoddir Tenantiaeth Byrddaliad Sicr i bob tenant.
Os oes gan denant Weithiwr Allweddol, mae angen tystiolaeth o anghenion cefnogaeth, yn nodi pa gefnogaeth sy’n cael ei darparu.
Os nad oes gan denant Weithiwr Allweddol, gall dderbyn cefnogaeth symudol fwy dwys, yn ôl anghenion yr unigolyn.
Mae gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru gynllun Cefnogaeth Symudol o fewn yr adran Tai â Chefnogaeth, sy’n cefnogi tenantiaid sydd ag anghenion cefnogaeth ychwanegol yn ein stoc tai cyffredinol.
Mae gan amryw o ymgeiswyr ar ein rhestr aros gyffredinol anghenion cefnogaeth ychwanegol.
Bydd Gweithiwr Cefnogaeth Symudol yn rhoi cefnogaeth ar ddechrau’r denantiaeth, gan helpu i symud i mewn, ymgeisio am grantiau, cael gafael ar ddodrefn, cyllidebu ac ati, a bydd hyn yn parhau cyhyd ag y bydd angen nes bod y tenant yn barod am annibyniaeth.
Gellir mynd ar ein rhestr aros drwy wneud cais am dŷ.
Gall y swyddog Tai Anghenion Cyffredinol gyfeirio tenant sydd eisoes yn ein stoc tai os yw’n credu bod arno/i angen cefnogaeth ychwanegol gyda materion tai.
Gellir darparu cefnogaeth symudol hefyd i denantiaid sy’n symud ymlaen o lety â mwy o gefnogaeth ar lwybr tuag at fyw’n annibynnol.