Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu dros 300 o unedau tai â chefnogaeth ar gyfer pobl agored i niwed yn cynnwys pobl ddigartref, pobl sydd â phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chyn-droseddwyr.
Tai Gogledd Cymru sy'n rheoli llawer o'n prosiectau yn uniongyrchol ac mae prosiectau eraill mewn partneriaeth gydag asiantaethau arbenigol, sy'n darparu'r gofal a'r gefnogaeth i'r defnyddiwr gwasanaeth, fel y rhai sydd ag anawsterau dysgu.
Ein nod gyda'r holl dai â chefnogaeth a ddarparwn yw rhoi'r hyder a'r wybodaeth i'n defnyddwyr gwasanaeth allu rheoli eu bywydau eu hunain, fel y gallant ddarganfod pa ddewisiadau a chyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael cefnogaeth un i un ar faterion fel cael gafael ar swyddi ac addysg neu wasanaethau iechyd, a dysgu sgiliau bywyd - fel coginio a rheoli cyllideb - a fydd yn eu galluogi i gynnal tenantiaethau llwyddiannus, annibynnol pan fyddant yn symud ymlaen. Fel arfer bydd pobl yn byw yn ein cynlluniau â chefnogaeth am flwyddyn neu ddwy cyn symud i'w lle eu hunain.
Mae tai â chefnogaeth Tai Gogledd Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau eraill fel gwasanaeth allgymorth ac ailsefydlu'r digartref, cefnogi pobl ifanc sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau addysg a chyflogaeth.
Os hoffech wybod mwy am ein gwasanaethau tai â chefnogaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01492 572727 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.