Yn ddiweddar mae'r Llywodraeth wedi pasio’r Ddeddf Diwygio Lles sy'n cyflwyno toriadau ar draws ystod eang o fudd-daliadau.
Mae rhai o'r prif newidiadau i'w gweld isod, ond os ydych yn dal yn ansicr a fydd hyn yn effeithio arnoch chi drwy’r budd-daliadau eraill yr ydych yn eu hawlio, cysylltwch â'r Tîm Rhenti.
Treth ystafell wely o fis Ebrill 2013Mae'r Llywodraeth yn cyflwyno meini prawf maint newydd ar gyfer hawlwyr budd-dal tai mewn tai cymdeithasol. Bydd hyn yn berthnasol o fis Ebrill 2013 i denantiaid o oed gweithio (ar hyn o bryd rhai rhwng 16 a 61.5 oed).
Beth mae’r newidiadau yn ei olygu?
Bydd y meini prawf maint yn cyfyngu budd-dal tai i ganiatáu ar gyfer un ystafell wely i bob un o'r canlynol:
Pwy fydd yn cael eu heffeithio?
Bydd pob hawliiwr y bernir bod ganddynt o leiaf un ystafell wely sbâr yn cael eu heffeithio. Mae hyn yn cynnwys:
Faint fydd pobl yn ei golli?
Bydd y toriad yn ganran sefydlog o’r rhent cymwys ar gyfer Budd-dal Tai. Mae'r Llywodraeth wedi dweud y bydd hyn yn cael ei osod ar 14% ar gyfer un ystafell wely ychwanegol a 25% ar gyfer dau neu fwy o ystafelloedd gwely ychwanegol.
Beth allwch chi ei wneud?
Fel eich Landlord byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn i’ch helpu i symud os ydych yn cael eich effeithio gan y newid hwn. Byddwn yn cysylltu â chi yn fuan i drafod eich opsiynau, ond os ydych yn poeni peidiwch oedi rhag cysylltu â'ch Swyddog Tai.
Mae’r Ddeddf Diwygio Lles yn capio cyfanswm y budd-daliadau y mae gan berson sengl neu gwpl hawl iddynt.
Sut caiff y cap ei gyfrifo?
Bydd cap yn cael ei osod ar yr enillion net cyfartalog ar gyfer cartref sy’n gweithio, y bwriad ar hyn o bryd yw i hyn fod yn £500 yr wythnos ar gyfer cyplau a rhieni unigol, a £350 yr wythnos ar gyfer pobl sengl heb blant.
Pwy fydd yn cael eu heffeithio?
Mae'r cap yn cael ei dargedu at deuluoedd allan o waith, waeth beth fo’u gallu i gymryd gwaith.
Os yw cyfanswm y budd-daliadau a gewch yn fwy na'r terfynau a osodwyd, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng yn ôl swm sydd dros ben.
Bydd y cap yn berthnasol i incwm cyfunol o'r prif fudd-daliadau diwaith (Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, a Lwfans Cymorth Cyflogaeth) a budd-daliadau eraill fel Budd-dal Tai, Budd-dal Plant a Chredyd Treth Plant, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, Lwfans Gofalwr (oni bai fod aelod o'r cartref â hawl i Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gweini neu Lwfans Gweini Cyson).
Os oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith cewch eich eithrio rhag y cap.
O fis Ebrill 2013 mae budd-dal y Dreth Gyngor yn newid. Bydd hyn yn golygu bod yr holl hawlwyr, beth bynnag fo'u hoed, yn gorfod cyfrannu swm tuag at eu Treth Gyngor. Nid yw'r swm wedi ei benderfynu gan y Cynulliad eto. Bydd eich Awdurdod Lleol yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi faint fydd angen i chi dalu.
Bydd hyn yn cael ei ddisodli gan Daliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar gyfer hawlwyr rhwng 16 a 64 oed. Bydd angen i hawlwyr newydd fynychu proses asesiad meddygol newydd, a bydd hawlwyr Lwfans Byw i'r Anabl presennol hefyd yn gorfod hawlio'r budd-dal newydd pan fyddant yn derbyn llythyr oddi wrth Adran Gwaith a Phensiynau. Disgwylir y bydd y budd-dal newydd yn arwain at ostyngiad mewn incwm i rai hawlwyr.
Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli nifer o fudd-daliadau, gan gynnwys Budd-dal Tai, ar gyfer cartrefi o oedran gweithio. Bydd un budd-dal yn cael ei dalu fel cyfandaliad misol i un aelod o'r cartref. Bydd gofyn i hawlwyr reoli a chyllidebu eu harian yn fisol, a chan y bydd yr elfen Budd-dal Tai yn cael ei thalu o fewn y taliad hwn, bydd angen i hawlwyr dalu'r rhent eu hunain gan na fydd hyn bellach yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Landlord. Y ffordd fwyaf hawdd o wneud hyn yw talu trwy Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc ar y diwrnod y bydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu i mewn i'r cyfrif. Os oes angen help arnoch gydag agor cyfrif banc sylfaenol, cysylltwch â'r rhif isod.