Ystyriwch y costau’n ofalus
Dilynwch 3 cam syml:
Cam 1 – gweithio allan eich incwm
Cam 2 – gweithio allan eich gwariant
Cam 3 – gweithio allan faint o arian sy’n weddill
Nodiadau i’ch helpu
- Rhent – Y rhent wythnosol neu fisol y bydd eich Landlord yn ei godi arnoch fel arfer yw hwn e.e. byddai fflat 1 ystafell wely i 2 berson yn £60.00 yr wythnos neu dŷ 3 ystafell wely i 4 person yn £74.00 yr wythnos.
- Treth Cyngor – Dyma’r bil blynyddol llai Budd-dal Treth Cyngor a gostyngiadau (wedi’i rannu â 12 os ydych yn defnyddio ffigyrau misol, neu 52 os ydych yn defnyddio ffigyrau wythnosol). Edrychwch a oes gennych hawl i Fudd-dal Treth Cyngor ac unrhyw ostyngiadau e.e. gostyngiad o 25% os mai chi yw’r unig un sy’n gymwys i dalu Treth Cyngor ar eich aelwyd.
- Costau dŵr – y bil blynyddol wedi’i rannu â 12 neu 52 yw hwn
- Cyfleustodau e.e. nwy/trydan – edrychwch ar wefan uSwitch neu ffoniwch 0800 4047908.
- Defnyddiwch y dull rhataf o dalu eich biliau.
Cyllideb fisol cadw tŷ/bwyd
- Person Sengl £160 i £217
- Cwpl £270 i £338
- Pob plentyn £87 i £152
- Person sydd ddim yn ddibynnol £108 i £152
Dillad
Fel brasamcan caniatewch £5 - £7 yr un yr wythnos. Cysylltwch â’ch Cyngor i weld a oes gennych hawl i gael grantiau dillad ysgol.
Arall – costau teithio, prydau ysgol, costau plant, presgripsiynau, a chofiwch am gostau annisgwyl fel penblwyddi neu’r Nadolig.
Llenwch eich taflen gyllideb:
- Nodwch eich incwm. Defnyddiwch y cyflog a gewch i fynd adref fel arfer (peidiwch â chynnwys goramser oni bai ei fod yn rheolaidd), a budd-daliadau a chyfraniadau gan aelodau o’r teulu rydych yn eu derbyn.
- Gweithiwch allan a nodwch eich costau byw arferol (gweler uchod am gymorth).
- Os ydych yn gwario mwy na’ch incwm dylech ofyn am gyngor, neu fe allai eich dyledion ddal i dyfu.
Pethau i’w cynnwys ar y ffurflen:
- Tanwydd arall – glo, coed, olew, poteli nwy
- Siopa ar gyfer yr aelwyd – bwyd – siopa wythnosol/misol a nwyddau bob dydd (bara, llefrith ac ati), deunyddiau ymolchi, deunyddiau glanhau, cinio ysgol i’r plant, cinio os ydych yn gweithio, bwyta allan
- Dillad ac esgidiau – gwisg ysgol, esgidiau ysgol, trenyrs, dillad gwaith ac ati
- Adloniant – ysmygu, cymdeithasu, sinema
- Hurbwrcas - car, nwyddau trydanol
- Benthyciadau – benthyciad myfyriwr, benthyciad banc, benthyciad arall
- Treuliau car - MOT, gwasanaeth, teiars, rhannau newydd
- Arall - tanysgrifiadau, hobïau, gwersi gyrru, lensys cyffwrdd, catalog, clwb Nadolig, pres poced.
Unwaith i chi weithio allan faint o arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan, rydych mewn gwell sefyllfa’n barod. Os nad oes gennych lawer o arian ar ôl, neu os ydych yn meddwl eich bod yn mynd i drafferthion, peidiwch â mynd i banig – mae cymorth rhad ac am ddim wrth law.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn talu eich dyledion blaenoriaeth, h.y. rhent, treth cyngor, nwy a thrydan. Os ydych yn cael trafferth, mae’n well cysylltu â’r rheiny y mae arnoch arian iddyn nhw cyn gynted â phosib. Efallai y byddant yn gallu trefnu eich bod yn talu bob yn dipyn nes i chi roi trefn ar eich materion ariannol.
Meddyliwch yn ofalus cyn benthyca mwy o arian i dalu dyledion sydd gennych yn barod. Gallai wneud pethau’n waeth. Edrychwch yn ofalus ar delerau unrhyw fenthyciad, fel y gyfradd llog ac am faint mae’n para, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio ei dalu’n ôl.
Os ydych yn gweld eich bod yn mynd i fwy a mwy o dwll gallwch gael help am ddim gan y sefydliadau yma: