Bydd Budd-dal Tai yn helpu tuag at gost eich rhent a gall fod ar gael i'r rhai sy'n derbyn rhai budd-daliadau neu ar incwm isel. Yr Awdurdod Lleol sy'n rheoli Budd-dal Tai.
Er mwyn gwneud talu eich rhent yn symlach a'i gwneud yn haws i chi reoli eich arian, gallwch ofyn iddynt dalu'r Budd-dal Tai yn syth i'ch landlord.
Mae'r ffurflen budd-dal tai yn bwysig iawn, felly os oes arnoch angen help i lenwi'r ffurflen, rhowch wybod i ni. Hefyd, i wneud yn siŵr nad yw'n mynd ar goll, dylech feddwl am ei dychwelyd drwy:
Newid yn eich amgylchiadau
Mae llawer o broblemau yn codi wrth i bobl fethu â hysbysu'r Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau personol neu ariannol. Efallai y bydd gennych hawl i fwy neu lai o fudd-dal, yn dibynnu ar y newidiadau yn eich bywyd, ond mae'n bwysig eich bod yn dweud am unrhyw newidiadau ar unwaith er mwyn osgoi problemau difrifol yn nes ymlaen.
Cofiwch ddweud wrth yr Awdurdod Lleol am y canlynol:
Gall llenwi ffurflenni fod yn waith blinedig, ond dyna'r unig ffordd o wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn y mae gennych hawl iddo, felly ceisiwch ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani cyn gynted â phosib.