Mae’r rhan hon yn cynnig cyngor ar sut i arbed arian, cael gafael ar fenthyciadau fforddiadwy a gwella’ch sefyllfa ariannol. Mae hyn yn ymwneud â gwaith cynhwysiant ariannol a gyflawnir gan staff drwy’r Gymdeithas, sydd wedi’u hyfforddi i gynnig cyngor a chymorth ar faterion ariannol i’n holl denantiaid. Os na allant eich helpu eu hunain byddant yn gallu rhoi cyngor ichi ar ble gallwch gael mwy o gymorth.
Cewch fwy o wybodaeth am gynghorion arbed arian yn y llyfryn Gwneud i Bob Ceiniog Gyfrif, y gallwch ei weld yn y rhan talu eich rhent / help i lunio cyllideb.
Os hoffech drafod unrhyw wybodaeth a roddir isod, cysylltwch â’n Swyddog Cynhwysiant Ariannol, Nicky Thomas ar 01492 563297 neu anfonwch e-bost ati i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Nid yw Tai Gogledd Cymru’n yswirio eich dodrefn, eich eiddo na’ch gwaith addurno rhag lladrad, tân, fandaliaeth, pibau wedi byrstio a risgiau eraill na ellir eu rhagweld.
Os nad oes gennych yswiriant cynnwys cartref, edrychwch ar My Home isod, sef cynllun sy’n cynnig yswiriant fforddiadwy rhad. Gallwch edrych hefyd ar safleoedd cymharu prisiau fel www.uswitch.com neu www.moneysupermarket.com i gael y polisi rhataf.
Sut mae Yswiriant Cynnwys My Home o fantais i denantiaid?
I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch 0113 203 5817 neu 5843 neu anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Dylai tenantiaid sydd am wybod mwy neu brynu yswiriant ffonio 0845 337 2463.
Gall dyled fod ar sawl ffurf, fel ôl-ddyledion rhent, biliau cyfleustodau heb eu talu, neu anhawster wrth dalu benthyciadau’n ôl. Gall amryw o ffactorau gwahanol fel salwch, colli gwaith, gostyngiad mewn budd-daliadau neu berthynas yn chwalu ei achosi hefyd.
Gallwn gynnig cyngor a chymorth i’ch helpu chi i ddod o hyd i ateb synhwyrol i’ch problem ariannol. Gallwn eich rhoi chi mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill fel Cyngor Ar Bopeth, Shelter Cymru, Undeb Credyd, Y Llinell Ddyled Genedlaethol, Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru, sy’n gallu rhoi cyngor am ddim ichi ar hawliau lles, budd-daliadau neu ddyledion eraill. Mae rhywun ar gael i’ch helpu chi bob amser.
Gweler cysylltiadau defnyddiol i gael manylion gwasanaethau cyngor am ddim ar ddyled.
Rhywun sy’n codi cyfraddau llog uchel iawn ac weithiau’n defnyddio bygythiadau a thrais i godi ofn ar bobl sy’n methu talu eu benthyciad yn ôl yw siarc benthyca.
Gallwch roi gwybod am siarc benthyca yn gyfrinachol i’r Tîm Benthyca Arian Anghyfreithlon:
Cwmni cydweithredol ariannol cymunedol sy’n eiddo i’w aelodau yw Undeb Credyd Gogledd Cymru.
Mae’r Undeb Credyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau ariannol i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru.
Mae eu gwasanaethau’n cynnwys cyfrifon cynilo (mae cyfrifon cynilo ar gyfer y Nadolig yn helpu wrth lunio cyllideb ar gyfer adeg ddrutaf y flwyddyn o bosibl!), benthyca darbodus ac ad-daliadau fforddiadwy ar fenthyciadau.
Cliciwch ar www.northwalescu.co.uk i gael mwy o fanylion.
Mae cyfrifon banc sylfaenol yn cynnig lle cyfleus i gadw arian y mae arnoch ei angen at ddefnydd pob dydd. Gallwch drefnu bod eich cyflog, Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu i mewn i un. Gallwch hefyd dalu sieciau neu arian parod i mewn yn rhad ac am ddim, a sefydlu ‘debydau uniongyrchol’ sy’n talu biliau rheolaidd yn awtomatig o’ch cyfrif.
Gyda chyfrif banc sylfaenol, rydych chi’n cael cerdyn arian parod y gallwch ei ddefnyddio mewn peiriant banc i godi arian. Mae rhai’n cynnig ‘cerdyn debyd’ hefyd y gallwch dalu am eitemau a chael ‘arian yn ôl’ gydag ef; ond gyda chyfrif sylfaenol, bydd y rhain ond yn gweithio os oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif.
Ni fyddwch yn cael llyfr sieciau gyda chyfrif banc sylfaenol, ac ni allwch godi mwy o arian na’r hyn sydd yn y cyfrif (‘mynd i orddrafft’). Mae cyfrifon banc sylfaenol felly’n ddefnyddiol i unrhyw un sy’n poeni am wario gormod.
Mae nifer o fanciau’r stryd fawr, cymdeithasau adeiladu ac Undebau Credyd yn cynnig cyfrifon banc sylfaenol.
Os hoffech gael help i agor cyfrif banc, cysylltwch â Nicky Thomas ar 01492 563297 neu anfonwch e-bost ati i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Mae llunio cyllideb yn rhoi darlun cywir ichi o’ch sefyllfa ariannol a bydd yn eich helpu chi i nodi unrhyw broblemau ac osgoi mynd i ddyled.
Mae llunio cyllideb yn gwneud i’ch arian fynd ymhellach, ac yn eich helpu chi i wneud arbedion a dewisiadau am eich arian.
Mae’n eich helpu chi i fyw heb ofid, ac yn rhoi tawelwch meddwl ichi heddiw ac i’ch dyfodol. Gweler y rhan help i lunio cyllideb i lenwi taflen gyllideb.
Os hoffech gael archwiliad iechyd ariannol llawn, cliciwch ar http://www.moneyadviceservice.org.uk/healthcheck?utm_source=NWalHAExt&utm_medium=Website&utm_campaign=NP-TP
Os gwelwch eich bod chi’n cael trafferth rheoli’ch arian a’ch bod am gael eich cyfeirio am gyngor annibynnol am ddim ar arian yn eich cartref, cysylltwch â Nicky Thomas ar 01492 563297 neu anfonwch e-bost ati i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Os ydych chi’n credu y gallai fod gennych hawl i fudd-daliadau ychwanegol, ond bod angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â’r Tîm Rhenti. Gallwn gynnal archwiliad iechyd budd-daliadau lles i wneud yn siŵr eich bod chi’n hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt a gallwn roi cyngor a help i chi os bydd angen ichi gyflwyno hawliadau newydd.
Gallwch hefyd edrych ar-lein os oes gennych hawl i fudd-daliadau neu grantiau trwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau yn www.turn2us.org.uk
Os ydych chi ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau’r wladwriaeth fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Bensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallech gael Budd-dal Tai.
Gallech fod yn gymwys am rent llinell rhad gyda BT os ydych chi’n hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:
Mae BT Basic yn costio £14.40 (gan gynnwys TAW) am rent llinell o dri mis. Am hynny, cewch lwfans galwadau o hyd at £4.50 (gan gynnwys TAW) bob tri mis.
Ffoniwch BT ar 0800 800 864 (8am-6pm Llun-Gwener) i ofyn am ffurflen gais BT Basic. Mae’n rhaid bod y cyfrif yn eich enw chi i wneud cais.
Mae costau ynni’n newid drwy’r amser ac nid ydym yn gwybod o un flwyddyn i’r llall beth fyddwn ni’n ei dalu am nwy a thrydan. Dyna pam mae mor bwysig holi cwmnïau i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y fargen orau.
Os ydych chi’n hawlio rhai budd-daliadau gallech fod yn gymwys i gael disgownt ar eich biliau ynni.
I gael mwy o gyngor edrychwch ar y dudalen cysylltiadau defnyddiol.
Dŵr – Mae gan Ddŵr Cymru gynlluniau i helpu pobl sy’n methu fforddio talu eu biliau neu bobl ar rai budd-daliadau.
Cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0145 neu ewch i www.dwrcymru.com