Home | Talu Am Eich Cartref | Help I Reoli Eich Cyllideb | Lles

Lles: Newidiadau Budd-dal a allai effeithio arnoch chi!

Efallai eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau Lles a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni. Bydd mwy o newidiadau yn digwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf a allai hefyd effeithio arnoch chi neu eich aelwyd.

Mae’r prif newidiadau a fydd yn effeithio ar ein tenantiaid wedi’u rhestru isod:

Ebrill 2011

Budd-dal Tai – Didyniadau ar gyfer rhai sydd ddim yn ddibynyddion (person 18 oed neu hŷn sy’n byw gyda chi fel aelod o’ch teulu e.e. mab neu ferch sy’n oedolyn) yw’r swm y mae’r Cyngor yn ei dynnu o’r Budd-dal Tai y mae gennych hawl iddo bob wythnos ar gyfer pob un sydd ddim yn ddibynnydd.  Bydd hwn yn cael ei gynyddu dros y 3 blynedd nesaf.  Mae’r lefelau newydd i’w gweld isod, a byddant yn cynyddu o’r un swm, yn fras, bob blwyddyn am y ddwy flynedd nesaf.

Didyniadau presennol:   Didyniadau o Ebrill:
Incwm gros yr wythnos yn 18+ oed:
£122 £7.40 £  9.40
£122 - £179.99 £17.00 £21.55
£180 - £233.99 £23.35 £29.60
£234.00 – £309.99 £38.20 £48.45
£310.00 - £386.99 £43.50 £55.20
£387 neu fwy £47.75 £60.60

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu mwy bob wythnos tuag at eich rhent. Cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 os nad ydych yn siŵr a fydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Credydau treth - Mae swm y newid incwm sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo eich hawl i gredyd treth wedi cael ei ostwng yn sylweddol eleni, a bydd yn gostwng mwy fyth yn ystod y ddwy flynedd nesaf.  Mae hyn yn golygu ei bod yn wirioneddol bwysig eich bod yn dweud wrthyn nhw am unrhyw newid i’ch incwm i leihau’r posibilrwydd o ordaliadau.  Efallai y bydd unrhyw ostyngiad yn eich incwm yn golygu y bydd gennych hawl i rywfaint o Fudd-dal Tai felly cofiwch ymgeisio os nad ydych yn ei dderbyn yn barod!

Mae swm y costau gofal plant y gall rhieni ei hawlio drwy’r elfen gofal plant o’r Credyd Treth Gwaith wedi gostwng o 80% i 70% y mis yma.

Efallai y bydd pobl 60 oed a hŷn sy’n gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos yn gallu ymgeisio am Gredyd Treth Gwaith yn awr.  Edrychwch ar y cysylltiadau defnyddiol i weld y rhif i ofyn am becyn ymgeisio.

Bydd gallu i weithio’r rhai sy’n hawlio budd-dal analluogrwydd yn cael ei ailasesu.  Bydd angen i’r rheiny yr asesir eu bod yn gallu gweithio wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith. Bydd y rheiny sydd ddim yn gallu gweithio neu sydd â gallu cyfyngedig i weithio yn symud i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.  Bydd budd-dal analluogrwydd hawlwyr sydd ddim yn llenwi holiadur nac yn mynychu archwiliad meddygol yn cael ei stopio.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn – dim ond ar gyfer y plentyn cyntaf y bydd hwn ar gael.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych eisiau mwy o gyngor am unrhyw un o’r newidiadau yma gallwch gael gwybodaeth o’r gwefannau canlynol, neu gysylltu’n uniongyrchol â’r Asiantaethau. Fel arall, cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727.

Chwilio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?