Ein nod yn CTGC yw darparu gwasanaeth rhent cynhwysfawr i'n holl gwsmeriaid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich rhent/budd-daliadau neu broblemau rhent cysylltwch â ni gan ein bod yma i'ch helpu. Os na allwn helpu gallwn eich cyfeirio at asiantaeth allanol sy'n addas ar gyfer eich anghenion penodol neu eich cynghori ynglŷn â'r gwefannau neu'r asiantaethau gorau i gysylltu â nhw.
Os ydych yn gweld nad ydych yn gallu talu eich rhent, mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosib. Fe'ch helpwn i asesu'r sefyllfa a'ch cynghori ar sail hynny. Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwn wneud yn siŵr fod y rhain yn gywir a'ch bod yn cael digon o arian. Osgoi ôl-ddyledion cyn iddynt fynd allan o reolaeth yw ein prif nod, trwy gydweithredu gyda'n gilydd.
Os na allwn gydweithredu fel hyn, weithiau rhaid i ni ofyn i'r Llys Sirol am feddiannu eiddo, gwaetha'r modd. Dyma'r 'dewis olaf' a dim ond pan fydd pob opsiwn arall wedi methu y byddwn yn gwneud hynny.
Os hoffech siarad gyda ni, gallwch gysylltu â ni ar y rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost isod.
Mae'r Tîm Rhent yn cynnwys:

Ffôn: 01492 563237 Dydd Llun a Dydd Gwener neu 01248 388911 ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau
Ebost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Ffôn: 01492 56329
Ebost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Gallwch e-bostio ni gydag unrhyw ymholiadau neu i ofyn am Ffurflen Debyd Uniongyrchol, Cerdyn Talu neu drefnu ymweliad cartref. Cysylltwch â ni, rydym yma i’ch helpu.

Ffôn: 01492 563257
Ebost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Gallwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu eich rhent neu eich bil dŵr
Fel arall, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01492 572727 neu Swyddfa Bangor ar 01492 370227