Un o flaenoriaethau pwysicafTai Gogledd Cymru yw darparu’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posib i denantiaid, ledled y Gymdeithas ac ym mhob adran.Ond rydym yn sylweddoli y gall pethau fynd o chwith ac weithiau efallai na fydd tenantiaid yn hapus gyda’r gwasanaethau a gynigiwn. Felly mae ganTGC drefn gwyno syml ar gyfer adegau fel yna.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu cwyn ffurfiol o’r problemau a’r ceisiadau am wasanaeth sy’n codi bob dydd.
Mae cwyn yn:
‘fynegiant ffurfiol o anfodlonrwydd, boed lafar neu ysgrifenedig, a boed wedi’i gyfiawnhau ai peidio, gyda darpariaeth neu ddiffyg darpariaethTai Gogledd Cymru I ddarparu gwasanaeth o’r safon rydym yn ei addo.’
ByddTai Gogledd Cymru yn ymchwilio i gŵyn os lleisiwyd un o’r pryderon canlynol:
Mae yna rai pryderon na ellir ymdrin â nhw trwy drefn
gwynoTai Gogledd Cymru:
Mae trefniadau ar wahân ar gyfer y materion yma, ond os nad ydych yn siŵr gallwch gysylltu ag Amie Louise Cavanagh,Cydgysylltydd Ymgysylltu âThenantiaid ar 01492 572727 a bydd yn eich cynghori ynglŷn â pha weithdrefn i’w dilyn ac yn trosglwyddo eich pryderon i’r bobl berthnasol.