Os ydych yn byw mewn cartref TGC sydd bellach ddim yn cyrraedd eich gofynion, efallai oherwydd rhesymau meddygol neu am ei fod bellach yn rhy fach neu yn rhy fawr i’ch anghenion neu oherwydd rhesymau personol eraill, yna gallwch wneud cais i gael eich ystyried am gartref arall gan TGC neu cael rhywun arall i gyfnewid cartref gyda chi.
Oherwydd y gofyn uchel iawn am ein cartrefi, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ail-gartrefu’r pobl sydd gyda’r anghenion tai uchaf, felly rydym wedi cyflwyno proses geisio dau-ran.
Cysylltwch gyda eich Tim Tai lleol i wneud cais.
Os ydych yn denant i TGC gyda tenantiaeth sicr neu ddiogel lawn yna fe allwch fod yn gymwys i gyfnewid cartref gyda thenant arall o TGC neu gyda tenantiaid Cyngor neu Gymdeithas Dai arall.
Gallwch hysbysebu eich cartref presennol a’r math o gartref yr hoffech ei gael drwy gwblhau’r ffurflen atodol. Bydd y ffurflen wedyn yn cael ei chynnwys ar y Gofrestr Cyfnewid a’i harddangos yn ein Derbynfa ni.
Bydd gan pob landlord ei gofrestr cyfnewid ei hun, felly fe fydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn cysylltu gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill sydd yn gweithredu oddi fewn i’r ardaloedd yr ydych eisiau byw.
![]()
Lawrlwythwch y ffurflen Cyfnewid Gwybodaeth. Anfonwch y ffurflen i
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
neu anfonwch yn y post i Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, Conwy, Gogledd Cymru – LL31 9HL
Yn ogystal a hysbysebu eich cartref yn ein cofrestr, gallwch hysbysebu a gweld tai eraill trwy ddefnyddio’r Cynllun Cyfnewid Cenedlaethol i Gynghorau a Chymdeithasau Tai. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim i denantiaid TGC gan y byddwn ni yn yn talu eich costau cofrestru. Os oes ganddoch landlord arall, bydd yn rhaid i chi ofyn wrthynt hwy os ydynt yn aelodau o’r cynllun, fel arall, bydd yn rhaid i chi dalu ffî cofrestru bychan.