Home | Tenantiaid Parth | Eich Cyfrifoldebau

Eich Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau pob tenant yn cynnwys:

a) Eich tenantiaeth

Rydych yn gyfrifol am gadw at delerau eich cytundeb tenantiaeth, sy'n cynnwys:

  • Talu eich rhent a thaliadau eraill sy'n ddyledus i ni yn brydlon
  • Dweud wrthym am waith atgyweirio neu ddiffygion rydym yn gyfrifol am eu cyflawni
  • Gadael i ni ddod i mewn er mwyn gwneud gwaith atgyweirio ac unrhyw waith gwasanaethu, yn enwedig y gwasanaeth nwy blynyddol
  • Peidio ymddwyn mewn ffordd sarhaus, ymosodol neu fygythiol tuag at unrhyw un o'n staff neu gontractwyr.
  • Peidio aflonyddu neu achosi niwsans i gymdogion neu breswylwyr eraill
  • Byw yn eich cartref fel eich prif neu unig gartref a pheidio â'i ddefnyddio, neu ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, ar gyfer unrhyw ddefnydd anghyfreithlon
  • Peidio defnyddio eich cartref fel lleoliad i redeg busnes heb ein caniatâd ysgrifenedig
  • Ysgrifennu atom i'n hysbysu os ydych yn mynd i fod i ffwrdd o'ch cartref am fwy na 28 diwrnod.

b) Eich cartref

Rydych yn gyfrifol am ofal cyffredinol eich cartref yn cynnwys:

  • Addurno mewnol
  • Cadw eich cartref mewn cyflwr glân a thaclus
  • Mân waith atgyweirio
  • Talu am waith atgyweirio y gellir codi tâl amdano
  • Eich gardd - yn cynnwys gwrychoedd.

c) Bod yn gymydog da

Rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych chi, nac unrhyw un syn byw yn eich eiddo neu'n ymweld â'ch eiddo, yn achosi niwsans a phoendod, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais yn y cartref i unrhyw un arall.

Mae bod yn gymydog da yn cynnwys:

  • Peidio chwarae cerddoriaeth yn uchel neu wneud gormod o sŵn
  • Cydweithredu os yw cymydog yn gofyn i chi wneud llai o sŵn
  • Peidio defnyddio eich cartref ar gyfer dibenion anghyfreithlon neu anfoesol
  • Cadw eich anifeiliaid anwes dan reolaeth
  • Parcio mewn ffordd nad yw'n rhwystro pobl eraill rhag mynd i'w cartrefi.

Os ydych yn byw mewn fflat mae hefyd yn bwysig eich bod yn:

  • Cofio eich bod yn byw'n agos at bobl eraill a pheidio gwneud gormod o sŵn, yn enwedig yn hwyr y nos
  • Cydweithredu gyda'ch cymdogion i gadw cynteddau, grisiau, pen grisiau a balconïau a rennir yn lân
  • Cadw pob tramwyfa'n glir o rwystrau a pheidio gadael sbwriel mewn mannau cadw biniau cymunedol, oni bai ei fod yn ffitio i mewn i'r biniau
  • Peidio taflu unrhyw beth o ben y grisiau, balconïau neu ffenestri
  • Cau drysau mynediad i ardaloedd cymunedol ar eich ôl a pheidio byth â gadael i rywun nad ydych yn ei adnabod ddod i mewn i'r bloc
  • Peidio defnyddio gwresogyddion paraffin neu nwy calor/bwtan yn eich fflat gan  fod perygl y gallant achosi tân.

Beth fydd yn digwydd os na wnewch chi gadw at eich cyfrifoldebau?

Os na fyddwch yn cadw at y cyfrifoldebau hyn (a'r rhai a ddisgrifir yn fwy manwl yn eich cytundeb tenantiaeth) byddwch wedi torri eich cytundeb tenantiaeth.  Byddwn yn gweithio gyda chi i geisio datrys mân achosion o dorri amodau'r cytundeb. Er enghraifft, os oeddech wedi esgeuluso eich gardd ond wedi ymateb i'n cais i'w thacluso, byddai hynny'n datrys y mater.

Ond mewn achosion mwy difrifol o dorri'r cytundeb, fel caniatáu i'ch cartref gael ei ddefnyddio fel lle i werthu cyffuriau anghyfreithlon, efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a gofyn i'r llys drosglwyddo meddiant o'r eiddo yn ôl i ni.

Am fwy o wybodaeth ynghylch unrhyw un o'ch hawliau neu'ch cyfrifoldebau, cysylltwch â'ch Swyddog Tai.

Chwilio

TGCRhyngweithiol

TGCRhyngweithiol

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Gwaith Trwsio â’r target

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth
 

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small