Home | Tenantiaid Parth | Cymryd Rhan

Cymryd Rhan

Mae ymgysylltu â thenantiaid yn bwysig iawn i TGC ac mae eich cyfraniad yn hollbwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu’r gwasanaethau gorau posib i gwrdd ag anghenion POB tenant.

Mae TGC yn sylweddoli’r angen i ymgysylltu â thenantiaid a’u cynnwys mewn penderfyniadau am eu tai, ac yn deall y gwerth ychwanegol a ddaw yn sgil hyn, nid dim ond i TGC, ond i’r gymuned gyfan. Nod TGC yw ffurfio perthynas weithio gyflawn rhwng tenantiaid a’r gymdeithas i wneud yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaeth tai o safon, sy’n seiliedig ar y blaenoriaethau a nodwyd gan denantiaid ac yn canolbwyntio arnynt. Mae TGC yn annog pob tenant i gymryd rhan ar lefel sy’n gweddu iddo, waeth pa mor fawr neu fach yw’r cyfraniad hwnnw; mae eich barn yn bwysig!!!!

Pam cymryd rhan?

  • Mae’n eich galluogi i gael llais yn eich gwasanaethau tai a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref a’r ardal lle’r ydych yn byw.
  • Gallwch ddysgu sgiliau newydd. 
  • Gallwch gyfarfod preswylwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd! Efallai y cewch chi hwyl hefyd!!!
  • Gall bod yn rhan ohono, cyflawni pethau sydd o fudd gwirioneddol i’ch cymuned, a gweld y syniadau a’r pryderon a leisiwyd gennych yn derbyn sylw er budd amrywiaeth eang o bobl roi llawer o foddhad i chi.

Yn TGC rydym yn deall fod bywydau pawb yn wahanol felly bydd faint o amser sydd gennych neu’r ffyrdd rydych eisiau cymryd rhan yn amrywio. Os hoffech fwy o wybodaeth am ymgysylltu â thenantiaid a’r dulliau y gallwch gymryd rhan yna cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 572727 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Chwilio

TGCRhyngweithiol

TGCRhyngweithiol

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Gwaith Trwsio â’r target

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth
 

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small