Round a Rownd
Dyfeisiwyd Round a Rownd fel menter datblygu cymunedol yn bennaf.
Yn seiliedig ar ymateb, sylweddolodd TGC fod angen ymgysylltu â thenantiaid a’u helpu i gyfoethogi eu cymdogaeth trwy gyfathrebu mwy, a chynnig cefnogaeth a chyngor fel y gallwn weithio mewn partneriaeth i wella’r ardal y maen nhw’n byw ynddi yn sylweddol.
O fis Mai 2009, bob dydd Mercher olaf o’r mis bydd ein swyddfeydd yn cau a bydd holl staff y Gymdeithas yn mynd allan mewn timau i ymweld â’u hardaloedd dynodedig. Mae hyn yn cynnwys y Prif Weithredwr, staff o’n Hosteli, staff Cyllid a staff Gweinyddol na fyddant yn cael cyfle fel arfer i ymweld â’n cartrefi na chyfarfod preswylwyr. Mae’n cydnabod bod gan bob aelod o’n staff - beth bynnag yw eu rôl neu safle yn y sefydliad - gyfrifoldeb i’n tenantiaid a’u hanghenion.
Gan fod staff wedi bod yn ymweld â’r un ardaloedd dros yr ychydig fisoedd cyntaf, maen nhw wedi dod i adnabod y preswylwyr yn well a dod i ddeall yn well beth yw’r prif broblemau. Mae hyn wedi ein galluogi i weithio gyda phreswylwyr ar brosiectau bach i helpu i leddfu rhai o’r problemau neu wella eu hamgylchedd. Mae hyn eisoes wedi cynnwys casglu sbwriel, mynd i’r afael â phroblem baw cŵn a phrosiectau garddio cymunedol. Bu ein Rheolwr Cyllid a Refeniw yn ymweld â hostel ym Mae Colwyn i gynnal sesiynau ‘coginio a bwyta’ gan annog y preswylwyr i ddilyn ryseitiau syml a choginio pryd o fwyd iddyn nhw ei fwynhau.
Rydym hefyd wedi dysgu llawer mwy am yr hyn sy’n digwydd ar ein stadau ac mae preswylwyr wedi teimlo’n fwy cyfforddus yn dweud am broblemau a allai fod wedi datblygu heb iddynt dderbyn sylw, ond sy’n cael eu taclo’n gynnar iawn yn awr.