Home | Tenantiaid Parth | Panel Rheoli Asedau

Panel Rheoli Asedau

JavaScript is disabled!
To display this content, you need a JavaScript capable browser.
Ar ôl adolygu ac ad-drefnu’r Adran Gynnal a Chadw a’i hail-enwi’n Dîm Rheoli Asedau, penderfynwyd y byddai penodi panel o wirfoddolwyr preswyl o fudd mawr. Byddai’r rhain yn cyfarfod yn rheolaidd gyda swyddogion allweddol y tîm mewn fforwm ymgynghorol fel y byddai tenantiaid yn gallu dylanwadu’n fwy uniongyrchol ar ddatblygiad y gwasanaeth a dod i adnabod y tîm newydd.

Sefydlwyd y Panel Rheoli Asedau mewn ymateb i alwadau gan denantiaid i gael mwy o lais a dylanwad ar y ffordd mae eu landlord yn cwblhau gwaith atgyweirio ymatebol o ddydd i ddydd a gwelliannau cynlluniedig i gwrdd â gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru. Prif nod y Panel Rheoli Asedau oedd gweithredu fel corff ymgynghorol i’r 2250 a mwy o denantiaid sydd gan y Gymdeithas, sy’n byw ym mhob rhan o Ogledd Cymru.

Ymgeisiodd TGC am Grant Ymrymuso Tenantiaid drwy’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) ac roedd y cais yn llwyddiannus; o ganlyniad roeddem yn gallu hwyluso 6 mis o hyfforddiant i wirfoddolwyr perthnasol ar y Panel Rheoli Asedau, ochr yn ochr â staff.

Ers ei ffurfio mae’r panel wedi chwarae rhan flaenllaw mewn cyfweld contractwyr; yn ogystal â’r cwestiynau cyffredinol y bydd TGC eu gofyn i gontractwyr lluniodd y panel dri chwestiwn craff arall i’w gofyn i bob contractwr yn ystod y cyfweliadau. O ganlyniad i’r cyfweliadau yma, mae’r panel wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar y contractwyr a benodwyd i gwblhau gwasanaethau cynnal a chadw ar ran TGC. Trwy ymwneud ar y lefel yma rydym yn sicrhau’n uniongyrchol fod ein gwasanaeth bob amser wedi’i deilwra i gwrdd ag anghenion ein preswylwyr.

Edrychodd y panel hefyd ar yr arolwg o foddhad â gwaith atgyweirio sy’n cael ei anfon at denantiaid ar ôl cwblhau gwaith. Tynnwyd sylw at rai materion yn ymwneud â’r holiadur ac o ganlyniad cafodd ei addasu i gynnwys y newidiadau a wnaed gan y panel. Bydd y panel yn defnyddio’r holiadur yma’n rheolaidd yn awr i fonitro’r gwaith y mae’r contractwyr a benodwyd ganddynt yn ei wneud.

Sefydlodd y panel hefyd Safonau Gwasanaeth newydd.

Dyma ddarn a ysgrifennwyd gan aelod o’r Panel Tenantiaid sy’n tynnu sylw at lwyddiant y panel:

Y Panel Tenantiaid – safbwynt un tenant

Nid oeddwn yn siŵr beth i’w ddisgwyl yn fy nghyfarfod cyntaf o’r panel. Sut beth fyddai, faint o bobl fyddai yno, pa mor aml fyddai’n cyfarfod a beth fyddem ni’n ei drafod? Roedd y croeso a gefais gan y staff a’r tenantiaid yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus ar unwaith. Mae’r panel yn cynnwys y Pennaeth Rheoli Asedau, Gary O’Brien, aelodau o’r tîm rheoli ynghyd â thenantiaid o’r gwahanol feysydd tai y mae TGC yn delio â nhw.

Ers hynny rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd ac rwyf wedi gwerthfawrogi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth rwyf wedi’u cael ohonynt. Trefnwyd y cyfarfodydd gan TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid), a ddarparodd lawer o wybodaeth am wahanol agweddau ar reoli asedau. Mae’r staff sydd wedi mynychu’r cyfarfodydd wedi bod yn agored gyda ni wrth drafod popeth o waith atgyweirio i gyllid. Cawsom ein gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweld contractwyr newydd posib gyda’r fantais o ystyried y pethau sy’n bwysig i denantiaid, mewn ffordd sy’n cael ei esgeuluso, o bosib, gan bobl sydd ddim yn byw mewn eiddo TGC.

Ar y cyfan mae’r profiad wedi gwella fy nealltwriaeth yn fawr o’r anawsterau a’r pwysau sy’n wynebu TGC ac rwyf wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod tenantiaid eraill a’r tîm rheoli i weithio tuag at wneud newidiadau a fydd yn cyfrannu at ddarparu gwell gwasanaeth i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gymryd rhan.


Os hoffech wybod mwy am y Panel Rheoli Asedau, cysylltwch ag Amie Louise Cavanagh, Cydgysylltydd Ymgysylltu â Thenantiaid ar 01492563261

Os hoffech gysylltu ag aelodau’r Panel Rheoli Asedau sydd hefyd yn denantiaid i ymateb i’r gwasanaeth atgyweirio fel y gallant adolygu eich sylwadau mewn cyfarfodydd, e-bost atom yn assetpanel@nwha.org.uk. Nodwch mai dim ond unwaith y mis yn ystod cyfarfodydd y Panel Rheoli Asedau y bydd y negeseuon e-bost yma’n cael eu darllen felly os ydych eisiau ymateb ar unwaith, dylech gysylltu’n uniongyrchol â TGC.

Chwilio

TGCRhyngweithiol

TGCRhyngweithiol

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?