Home | Tenantiaid Parth | Parth Ieuenctid

Parth Ieuenctid

Byw’n annibynnol

Arweiniad dwyieithog hwylus i bobl ifanc ar fyw ar eu pennau eu hunain yw ‘Byw’n Annibynnol’. Mae'n darparu gwybodaeth hanfodol ar yr hyn y mae angen i bobl ifanc ei ystyried cyn symud i fwy'n annibynnol, ac mae'n dangos y ffordd at asiantaethau arbenigol yn eu hardal lle gellir cael gwybodaeth ac arweiniad pellach. Rhoddir pwyslais yn y daflen drwyddi draw ar symud mewn ffordd gynlluniedig at annibyniaeth, gan annog pobl ifanc i ystyried eu holl opsiynau’n llawn a realiti ‘Byw'n Annibynnol’.

Mae Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy, Gweithiwr Allgymorth Digartrefedd ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a darpariaeth pobl ifanc symudol Bus Stop sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ar draws Conwy, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu taflen wedi’i hanelu at bobl ifanc rhwng  15 - 21 oed ar atal digartrefedd a chynnal tenantiaeth.

Ar sail argymhellion Adroddiad Shelter Cymru “In the know but not in education”  nodwyd angen i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr, wedi’i anelu'n benodol at bobl ifanc yn amlinellu'r dewisiadau tai, sut i gael mynediad atynt, anawsterau byw'n annibynnol, tor-perthynas a sut i gynnal a chadw tenantiaeth.

Fel partneriaeth rydym yn sylweddoli pwysigrwydd pwysleisio a hyrwyddo ‘tenantiaeth dda’ gan nodi'r budd o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymunedau, atal digartrefedd ac i'r tenant ei hun, gan adeiladu ar sgiliau sylfaenol trwy gefnogaeth ac addysg, cynyddu hyder a chynhwysiant cymdeithasol grwpiau sydd yn aml iawn yn ‘anodd i'w cyrraedd’.

Datblygwyd taflen gennym, mewn ymgynghoriad â phobl ifanc a fydd yn darparu’r holl wybodaeth fydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus cyn gadael cartref ac, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw bydd yn amlinellu’r dewisiadau posib, y pethau y bydd angen iddynt ystyried a’r cyfrifoldebau a ddaw i'w rhan. Rydym hefyd wedi datblygu cerdyn ‘mynegbost’ i gyd-fynd â'r daflen gyda chysylltiadau i'r holl asiantaethau perthnasol a grwpiau cefnogi yn yr ardal, ac ail gam y prosiect fydd datblygu USB fydd yn cynnwys yr wybodaeth mewn ffurfiau gwahanol ynghyd â ffilm fer a wnaed gan a chyda phobl ifanc, yn dangos y sefyllfaoedd posib sy'n wynebu pobl ifanc.

Cyflwynir y daflen trwy gyfrwng sesiynau ystafell ddosbarth, Bus Stop a phrosiectau ieuenctid ac yn enwedig rhai sy'n gweithio gyda grwpiau NEET craidd a grwpiau sydd ‘mewn perygl o fod yn NEET’.

Rydym wedi ymgynghori gyda phobl ifanc sy'n defnyddio’r ddarpariaeth Bus Stop a hefyd disgyblion 6ed dosbarth lleol gyda golwg ar ddyluniad, iaith a chynnwys y daflen ac rydym wedi cynnal digwyddiad ymgynghori mawr i bobl ifanc, sef ‘Gŵyl Wybodaeth Ieuenctid’. Bwriad hyn oedd dwyn pobl ifanc ar draws y sir at ei gilydd gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o bynciau ac ar yr un pryd ymgynghori ar gynnwys y daflen. Defnyddiwyd y digwyddiad gennym fel modd o asesu’r wybodaeth gyfredol ynghylch opsiynau tai a'r anawsterau a wynebir gan bobl ifanc.

Bellach, yn dilyn yr ymgynghoriad yma, mae'r daflen yn barod i'w lansio a’i chyflwyno i bobl ifanc. Mae hefyd yn bosibl (ac yn nod) i'r daflen gael ei defnyddio'n rhanbarthol, gan fod yr ymgynghoriad gyda phobl ifanc wedi dangos bod y ddarpariaeth a'r cynnwys cyfredol wedi’u targedu'n wael ac yn amherthnasol.

Chwilio

TGCRhyngweithiol

TGCRhyngweithiol

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?