Home | Trwsio a Chynnal a Chadw | Safonau Gwasanaeth | Atgyweirio Brys

Atgyweirio brys - 7 diwrnod

orange_i

Dyma waith atgyweirio sy’n effeithio’n sylweddol ar gysur neu hwylustod y tenant. Mewn rhai amgylchiadau gellid trin y gwaith atgyweirio yma fel argyfwng.

 

Mae’r rhestr yn cynnwys:

  • Colli trydan neu olau yn rhannol
  • Pŵer, soced golau neu osodiad trydanol peryglus
  • Colli dŵr neu'r cyflenwad nwy yn rhannol
  • Colli gwresogydd ystafell neu ddŵr yn llwyr neu'n rhannol (Tachwedd i Fawrth)
  • Draeniau neu bibell garthion wedi blocio neu'n gollwng
  • Toiled wedi blocio neu'r dŵr ddim yn tynnu
  • Sinc, baddon neu fasn wedi blocio
  • Tap na ellir ei droi
  • Pibell ddŵr neu wresogi, tanc neu seston yn gollwng
  • To yn gollwng
  • Ffenestr, drws neu glo allanol diffygiol
  • Canllaw grisiau yn rhydd neu wedi dod o'i le
  • Llawr neu risiau pren wedi pydru
  • Ffôn mynediad y drws ddim yn gweithio
  • Ffan echdynnu ddim yn gweithio mewn cegin neu ystafell ymolchi heb unrhyw fath arall o fent.

Caiff gwaith atgyweirio brys ei gwblhau o fewn pum diwrnod gwaith. Efallai y bydd gennych hawl i iawndal os nad ydym yn cwblhau gwaith atgyweirio brys neu argyfwng mewn pryd ar ôl ail gais i wneud hynny. Nid yw hyn yn berthnasol os nad ydym wedi gallu dod i mewn i'ch cartref i wneud y gwaith atgyweirio, neu ar gyfer pethau arbennig o ddrud. Gofynnwch i ni am gopi o'n polisi iawndal.