Home | Trwsio a Chynnal a Chadw | Eich Cyfrifoldebau

Eich cyfrifoldebau

Rydych yn gyfrifol am gadw eich cartref mewn cyflwr rhesymol ac ymdrechu i ddatrys mân broblemau, ac am yswirio cynnwys eich cartref. Rhaid i chi adael i gontractwyr ddod i mewn fel y gallwn gwblhau'r gwaith atgyweirio o fewn ein hamserlenni cytunedig. Disgwylir i chi gymryd pob gofal rhesymol i osgoi niwed i'r eiddo oherwydd tân, rhew, pibellau dŵr yn byrstio neu ddraeniau a basnau yn blocio. Rydym yn dibynnu arnoch i ddweud wrthym yn brydlon am unrhyw nam ac i adael i'r contractwyr ddod i mewn fel y gellir cwblhau'r gwaith atgyweirio o fewn ein hamserlenni cytunedig.

Yn olaf, cofiwch y bydd rhywun arall yn symud i mewn i'ch cartref os byddwch yn penderfynu gadael rywdro. Gwnewch yn siŵr fod yr eiddo yn lân, taclus, wedi'i addurno'n rhesymol a bod yr holl eiddo nad oes arnoch ei eisiau wedi'i glirio, yn cynnwys unrhyw bethau sydd yn yr atig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yr eiddo mewn cyflwr diogel i rywun fynd i mewn – Peidiwch â thynnu unrhyw osodiadau trydanol oherwydd gallai gosodiadau trydanol sydd wedi’u hailosod yn anghywir neu wifrau noeth fod yn beryglus i eraill. Peidiwch â thynnu unrhyw offer nwy – dim ond peiriannydd cofrestredig Gas Safe ddylai eu tynnu oherwydd gallai cysylltwyr gwallus neu bibellau nwy agored fod yn beryglus iawn i eraill.

green_i
Atgyweiriadau Hailwefru

Chwilio

Dweud am Broblem

Adrodd am waith trwsio

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth

Pa mor debygol ydych chi o gwblhau arolwg?