Home | Trwsio a Chynnal a Chadw | Ein Cyfrifoldebau

Ein Cyfrifoldebau

Mae CTGC yn sylweddoli mai atgyweirio a chynnal a chadw yw un o'r gwasanaethau pwysicaf y mae'n ei ddarparu i denantiaid. Bwriad y Gymdeithas yw darparu gwasanaeth cost effeithiol, effeithlon ac ymatebol i denantiaid. Mae'r Safon Gwasanaeth Atgyweirio yn disgrifio sut y darperir y gwasanaeth atgyweirio.

Mae gan holl elfennau eich cartref hyd oes disgwyliedig. Pan fyddant yn treulio neu'n torri oherwydd oed a defnydd arferol, byddwn yn eu hatgyweirio neu'n darparu rhai newydd.

Byddwn yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am strwythurau, gwasanaethau, gosodiadau, gorffeniadau neu osodion diffygiol a ddarparwyd gennym yn eich cartref os ydynt yn ddiffygiol a/neu pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes ddisgwyliedig.

Eich ochr chi o’r fargen (rhan o’r cytundeb yw bod staff/contractwyr yn cael dod i mewn) yw gadael i ni ddod i mewn i’ch cartref pan fydd angen trwsio neu gynnal a chadw, a chadw ardaloedd cymunedol yn edrych yn dwt.

Os byddwch chi neu aelodau o'ch teulu, ymwelwyr neu anifeiliaid anwes yn niweidio unrhyw un o'r eitemau y byddem yn gyfrifol am eu hatgyweirio fel arfer, mae'n debyg y bydd rhaid i chi dalu am eu hatgyweirio neu am brynu rhai newydd yn eu lle.

Rwy’n siŵr y cytunwch fod hynny’n deg.