Home | Trwsio a Chynnal a Chadw | Safonau Gwasanaeth | Gwaith Atgyweirio Argyfwng

Gwaith Atgyweirio Argyfwng - 24 awr

red_i

Diffinnir argyfwng fel rhywbeth na allech fod wedi ei ragweld ac a allai achosi perygl i iechyd, diogelwch preswylwyr, neu niwed a difrod difrifol i eiddo.

Fel arfer bydd contractwyr sy’n cael eu galw allan mewn argyfwng yn diogelu pethau fel y gellir eu hatgyweirio’n llawn yn ystod oriau gwaith arferol. Dyma’r mathau o bethau maen nhw’n delio â nhw:

  • Y to yn gollwng yn ddifrifol
  • Pibellau wedi byrstio
  • Eich unig doiled wedi blocio
  • Colli trydan neu olau
  • Colli nwy
  • Colli gwres mewn tywydd oer a dim ffordd arall o gynhesu ar gael
  • Golli'r gwresogydd trochi os mai dyma'r unig ffynhonnell o ddŵr poeth.

Rydym yn sylweddoli y bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i bensiynwyr a thenantiaid agored i niwed mewn rhai amgylchiadau.

Os caiff contractwr ei alw allan i wneud gwaith atgyweirio fel achos argyfwng ac na ellir cyfiawnhau hynny, gallwn godi tâl arnoch am yr holl gostau perthnasol.

Caiff gwaith atgyweirio argyfwng ei gwblhau o fewn 24 awr.