Eich arweiniad chi i’r safon yr ydym yn ceisio ei chyrraedd o ran gwaith atgyweirio, addurno a glanweithdra eich cartref newydd yw’r daflen yma.
Os gwelwch fod gwaith angen ei wneud, siaradwch gyda’ch Swyddog Tai pan fyddwch yn mynd i weld eich cartref newydd oherwydd efallai y byddwn eisoes wedi trefnu i’w wneud.
Gan fod tai mor brin yn yr ardal mae arnom angen i chi symud i mewn mor gyflym â phosib. Felly er y byddwn yn gwneud rhai atgyweiriadau cyn i chi symud i mewn, bydd rhaid i eraill aros tan yn nes ymlaen. Mae’r “wynebau siriol” yn y tablau yn y daflen yma’n dangos pa atgyweiriadau sy’n cael eu gwneud, a phryd.
Efallai y byddwn hefyd yn cwblhau gwaith sy’n rhan o’n rhaglen o fuddsoddi mewn eiddo i wella eich cartref ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn.
Os oes angen ailaddurno unrhyw ystafelloedd, byddwn yn rhoi talebau i chi fel y gallwch ddewis eich deunyddiau eich hun. Yn gyffredinol byddwn yn disgwyl i chi addurno ond mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwn yn gallu eich helpu. Os na allwch gwblhau’r gwaith addurno dylech drafod hynny gyda’ch Swyddog Tai.
Byddwn yn ymweld â chi ar ôl i chi symud i mewn i wneud yn siŵr eich bod wedi setlo a gwirio bod yr holl atgyweiriadau yn cael eu gwneud mewn pryd.
Prif Wasanaethau |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
| Eitemau Trydanol | |||
| Diogelwch | Byddwn yn tynnu unrhyw ffitiadau peryglus. | ||
| Byddwn yn anfon trydanwr cymwysedig i archwilio eich eiddo a rhoi tystysgrif ddiogelwch i ni. |
|
||
| Byddwn yn gosod datguddiwr mwg neu’n gwirio fod y rhai sydd yno’n gweithio’n iawn. |
|
||
| Socedi | Byddwn yn rhoi un soced dwbl ym mhob ystafell o leiaf. | ||
| Byddwn yn adnewyddu dalwyr lamp a socedi diffygiol. | |||
|
Nwy |
Os oes nwy yn yr eiddo | ||
| Diogelwch | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod tystysgrif diogelwch nwy ar gyfer yr eiddo. Byddwn yn rhoi copi ohoni i chi. | ||
| Byddwn yn anfon contractwr cofrestredig i brofi/gwasanaethu boeleri, tanau a gwresogyddion dŵr nwy, os oes nwy ar gael. | |||
| Peiriannau Coginio | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod cyswllt bidog yn gweithio ar gyfer peiriannau coginio nwy os oes nwy ar gael. | ||
| Dŵr | |||
| Byddwn yn archwilio’r gwaith plymio. | |||
|
Byddwn yn gwirio’r tap cau ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio ac yn dangos i chi lle mae o. |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod tapiau yn gweithio’n iawn. | |||
|
Byddwn yn gwneud yn siŵr fod dŵr yfed yn sinc y gegin. |
|||
Lloriau, waliau, nenfydau a grisiau |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
|
Lloriau |
|||
|
Bydd lloriau pren yn sownd i’r trawstiau. Byddwn yn cau bylchau, holltau neu dyllau yn y lloriau a’r sgertins a allai fod yn risg i’ch diogelwch. |
|
||
| Cyflwr | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod pob llawr yn ddiogel, yn wastad ac yn barod i chi eu gorchuddio. Bydd gafaelion carpedi sydd wedi’u gludo i’r llawr yn aros yn eu lle. | ||
| Y Gegin, yr Ystafell Ymolchi a’r Toiled | Bydd y gorchudd llawr yn y gegin, yr ystafell ymolchi a’r toiled yn gallu gwrthsefyll dŵr. | ||
| Teils | Byddwn yn adnewyddu unrhyw deils sydd wedi torri neu ar goll neu orchudd llawr arall yn y lliw sy’n cyfateb orau. | ||
|
Waliau |
|||
| Byddwn yn atgyweirio plastr rhydd ond efallai y bydd angen i chi lenwi mân graciau wrth addurno. | |||
| Teils | Byddwn yn adnewyddu unrhyw deils sydd wedi torri neu ar goll ar y waliau. | ||
|
Nenfydau |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod pob nenfwd yn ddiogel. Ni fydd unrhyw blastr rhydd ond efallai y bydd angen i chi lenwi mân graciau. | |||
|
Grisiau |
|||
| Cyflwr | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y grisiau yn ddiogel heb unrhyw fylchau, holltau na thyllau a allai eich rhoi mewn perygl. | ||
| Diogelwch | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y staer a rheiliau’r landin a’r canllawiau yn ddiogel ac yn sownd yn eu lle. | ||
Y Gegin |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
| Unedau neu gypyrddau | Bydd gennych o leiaf un cwpwrdd llawr dwbl gydag arwyneb gweithio, a chwpwrdd wal. Efallai na fydd yr unedau yma’n cyd-fynd yn union â’i gilydd. | ||
| Y sinc | Bydd gan y sinc fwrdd draenio sengl o leiaf, plwg a chadwyn. | ||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod teils ar y wal tu ôl i’r uned. | |||
| Cyflwr | Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw’r cypyrddau a’r arwynebau gweithio wedi’u crafu’n ddwfn na’u llosgi. | ||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod pob cwpwrdd a drôr yn agor a chau. | |||
| Peiriant Coginio | Bydd pwynt trydan a nwy (mewn eiddo sydd â chyflenwad nwy) i’r peiriant coginio. | ||
| Awyriad | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod gennych ffenest sy’n agos neu ffan tynnu aer. | ||
| Peiriant golchi | Bydd pwynt peiriant golchi ar gael yn y rhan fwyaf o achosion. | ||
Yr Ystafell Ymolchi a’r Toiled |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
|
Yr Ystafell Ymolchi |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y baddon neu’r gawod yn lân, heb unrhyw graciau na diffygion difrifol. Bydd plwg a chadwyn yn y baddon. | |||
| Y Baddon | Bydd teils ar y waliau o gwmpas y baddon a bydd teils yn eich cawod, os oes gennych un. | ||
| Awyriad | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod gennych ffenest sy’n agor neu ffan tynnu aer. | ||
|
Y Toiled |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y toiled yn lân ac yn gosod sedd toiled newydd os yw wedi torri neu ar goll. | |||
| Popeth yn gweithio | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y dŵr yn tynnu yn y toiled ac nad yw’r system wedi rhydu. | ||
| Awyriad | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod gennych ffenest sy’n agor neu ffan tynnu aer. | ||
|
Basn ymolchi dwylo |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y basn llaw yn lân heb unrhyw graciau na difrod difrifol. Ond byddwn yn caniatáu mân graciau ar y gwydredd. |
|
||
| Bydd teils ar y wal tu ôl i’r basn. | |||
Drysau a ffenestri |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
|
Drysau |
|||
| Cloeon | Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y cloeon ar y drysau allanol wedi eu newid o rai’r cyn-denant. Byddwn yn darparu un allwedd i bob clo, o leiaf. | ||
| Gwydrau | Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw’r gwydr mewn drysau wedi cracio a’i fod yn sownd. | ||
|
Ffenestri |
|||
| Bydd ffenestri yn agor a chau yn iawn. Os nad oes allweddi ar gael, ni fydd ffenestri wedi’u cloi. | |||
| Byddwn yn adnewyddu unedau wedi’u selio mewn tai/fflatiau gyda gwydrau/byrddau dros dro ac yn gosod rhai newydd pan fydd yr unedau cywir ar gael. | |||
Gwresogi a dŵr poeth |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
|
Gwresogi Gofod |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod ffynhonnell wres yn eich prif ystafell fyw. | |||
|
Dŵr poeth |
|||
| Byddwch yn gallu cael dŵr poeth o foeler a reolir gan amser, neu foeler trochi. | |||
|
Silindr |
|||
| Byddwn yn gwneud yn siŵr fod siaced insiwleiddio ar y tanc dŵr poeth. | |||
Materion eraill |
Cyn i’ch tenantiaeth gychwyn |
Ar ôl i’ch tenantiaeth gychwyn |
|
|
Glanweithdra |
|||
| Byddwn yn glanhau’r eiddo i safon dda ac yn cael gwared â’r holl sbwriel. | |||
| Byddwn yn codi pob carped a adawyd gan y preswylydd blaenorol oni bai eich bod wedi trefnu i’w cadw. | |||
|
Insiwleiddio |
|||
| Byddwn yn insiwleiddio’r atig, tanciau dŵr a phibellau. | |||
| Byddwn yn rhoi Tystysgrif Perfformiad Ynni i bob tenant newydd. | |||
|
Gwrthsefyll y tywydd |
|||
| Bydd y to a’r waliau allanol yn gallu gwrthsefyll y tywydd, yn cynnwys y sied/garej os oes un. | |||