Home | Trwsio a Chynnal a Chadw

Trwsio a Chynnal a Chadw

Yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn deall y bydd pethau'n treulio neu'n torri yn eich cartref weithiau. Mae gennym dîm o Ymgynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid a chontractwyr ymroddedig sydd yma i'ch helpu pan fydd arnoch angen rhoi gwybod am waith atgyweirio.

Ar y tudalennau hyn, byddwch yn dysgu sut i roi gwybod am waith atgyweirio, pa mor gyflym y dylid gwneud eich gwaith atgyweirio, a pha waith atgyweirio rydych chi'n gyfrifol amdano.

Download Document Icon


Lawrlwythwch gopi o'n Arweinlyfr Tenantiaid: Riportio Atgyweiriadau yma.


ROK – Y Newyddion Diweddaraf

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe (8 Tachwedd) fod ROK wedi penderfynu dirwyn y cwmni i ben, rydym yn gweithio’n awr i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i bob un o’n trigolion a effeithiwyd yn uniongyrchol gan hyn.

Ar bwy mae hyn yn effeithio?

Roedd gan ROK gontract i ddarparu ein gwasanaeth Trwsio Ymatebol yn ardal Conwy, gwasanaethu Nwy yn ardal Conwy, gosod rhai ceginau newydd o dan y cynllun a’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau.

Beth ydym ni’n ei wneud am y peth?

Yn y tymor byr, mae Tai Gogledd Cymru’n defnyddio contractwyr eraill yn yr ardaloedd yma. Rydym yn trafod gyda ROK beth yw’r canlyniadau tebygol os caiff y cwmni ei werthu a sefydlu trefniadau newydd sydd er budd gorau TGC a’i drigolion.

Oes gennych chi unrhyw ymholiadau am waith sydd heb ei gwblhau?

Cysylltwch â ni ar ein rhif arferol 01492 572727, neu e-bostiwch y gwasanaeth trwsio yn Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Chwilio

Dweud am Broblem

Adrodd am waith trwsio

Gwaith Trwsio â’r target

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth
 

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small