Home | Trwsio a Chynnal a Chadw | Ein Cyfrifoldebau | Ein Cyfrifoldebau

Yn ôl y Gyfraith, rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • Strwythur a thu allan eich tŷ, yn cynnwys y waliau, lloriau, y nenfwd a'r to
  • Draeniau, gwteri a phibellau allanol
  • Systemau nwy, trydan a phlymio
  • Baddonau, basnau a thoiledau
  • Gwresogi a'r cyflenwad dŵr poeth
  • Drysau a ffenestri allanol (nid am osod gwydr newydd oni bai fod rhif trosedd wedi'i ddarparu a datganiad wedi'i wneud i gadarnhau nad y tenant, neu aelod o'r teulu neu ymwelydd, sydd wedi achosi'r niwed)
  • Byrddau sgyrtin, gwaith plastro (ac eithrio craciau cul neu dyllau bach)
  • Simneiau, cyrn mwg a thannau nwy
  • Waliau a ffensys terfyn
  • Llwybrau, grisiau neu ddull arall o adael yr eiddo
  • Garejys a storfeydd sydd wedi'u cynnwys gyda'r eiddo (nid siediau)
  • Lifftiau ac addasiadau ar gyfer pobl anabl a osodwyd gennym ni
  • Gofalu am goed
  • Erialau a rennir
  • Byddwn hefyd yn adfer unrhyw ardaloedd rydym yn tarfu arnynt wrth wneud gwaith atgyweirio, hyd y gallwn.