Home | Hygyrchedd

Hygyrchedd

Nid oes unrhyw gyfieithiadau ar gael.

Rydym wedi ceisio gwneud ein safle newydd mor ddefnyddiadwy â phosib gan ddilyn safonau a chanllawiau a bennwyd gan Gonsortiwm  y We Fyd-eang (W3C) yn eu Menter Hygyrchedd y We. Mae hyn yn golygu bod pob defnyddiwr yn mwynhau gwasanaeth o’r un safon, os oes modd.

Cydymffurfiad â Safonau’r We

Bydd y rhan fwyaf o dudalennau yn cydymffurfio â holl ganllawiau blaenoriaeth 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.

Mae’r holl dudalennau eraill yn bodloni canllawiau blaenoriaeth 1 Canllawiau  Hygyrchedd Cynnwys y We W3C.

Mae’r holl dudalennau yn dilysu fel XHTML 1.0 Trawsnewidiol.

Dyluniad gweledol

Bydd y safle yn defnyddio dalenni sy’n rhaeadru ar gyfer gosodiad gweledol, sy’n golygu mwy o ddefnyddioldeb i dechnoleg gynorthwyedig.

Dim ond maint ffont cymharol y bydd y safle’n ei ddefnyddio, sy’n gydnaws â’r opsiwn “maint testun” a bennir gan y defnyddiwr mewn porwyr gweledol.

Os nad yw eich porwr neu ddyfais bori’n cynnal dalenni steil o gwbl, bydd cynnwys pob tudalen yn "diraddio’n osgeiddig" fel bod modd ei ddarllen o hyd.

Dolenni

Mae gan ddolenni briodoleddau teitl sy’n disgrifio’r ddolen yn fwy manwl, oni bai fod testun y ddolen eisoes yn disgrifio’r targed yn llawn. Os ydych yn defnyddio llygoden, neu ddyfais bwyntio arall, gellir gweld y rhain drwy hofran dros destun y ddolen.

Ffenestri naid

Defnyddiwyd cyn lleied â phosib o ffenestri naid ar y safle hwn. Os yw dolen yn agor ffenestr porwr newydd yna eglurir hyn ym mhriodoledd teitl y ddolen.

Newid gosodiadau eich porwr

Mae modd newid ffontiau a lliwiau a ddefnyddir drwy’r safle drwy gael dolenni dalen steil wedi’u galluogi ar y safle.

Chwilio

Rhywbeth i’w ddweud?

Unrhyw adborth?

Gwaith Trwsio â’r target

Helpwch i Wella Ein Gwasanaeth
 

Dilynwch ni ar ...

Facebook-Buttons-smalltwitter-small