Yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn falch o'n hamgylchedd cyfeillgar a chyffrous. Weithiau mae'n llawn her, ond mae ein pobl yn barod am her ac yn mwynhau gwir gyfle i ddatblygu'n bersonol.
Rydym ninnau'n disgwyl ymrwymiad, brwdfrydedd ac awydd i gyflwyno gwasanaeth cyson uchel ei safon. Rydym eisiau denu a chadw'r bobl orau sydd ar gael; pobl sydd ag agwedd gadarnhaol sydd eisiau cyfrannu at ein tîm a gwella bywydau ein cwsmeriaid. Rydym eisiau i bawb fod wrth eu bodd yn gweithio yma: rydym yn canolbwyntio ar bobl i raddau helaeth iawn, ac yn cynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth o Fuddion i Weithwyr. Credwn mewn agwedd agored, tegwch, gonestrwydd a pharch, ac rydym am i Tai Gogledd Cymru fod yn rhywle y gallwch wireddu eich potensial.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno ein gwasanaethau ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Felly rydym yn gweithio i ddatblygu ein gallu i gyflwyno ein gwasanaethau yn yr iaith mae ein cwsmeriaid yn ei dewis a byddwn yn rhoi cefnogaeth i'n staff fel y gallant wella eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
I ddysgu mwy am weithio i Tai Gogledd Cymru, edrychwch beth yw barn ein staff!
Nid oes swyddi gwag gennym bob amser, ond os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, cadwch lygad ar ein tudalen swyddi gwag. Neu gallwch gofrestru eich diddordeb mewn gweithio gyda ni drwy lenwi'r ffurflen ar-lein sydd. Byddwn yn cadw eich manylion am 3 mis ac yn cysylltu â chi os bydd unrhyw swyddi gwag yn ymddangos a allai fod o ddiddordeb i chi.