Amdanom Ni |
Aelodau
Presennol y
Bwrdd 2008 - 2009
|
Mae
Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn sefydliad sy’n ymrwymiedig
i ddarparu cartrefi ar gyfer pobl na all brynu neu rentu ar y
farchnad agored a sydd ag angen llety gwirioneddol, fel yr asesir
gan system
bwyntiau.
Cofrestrwyd
y Gymdeithas gyda Cynulliad Cenedlaethol Cymru, corff cyhoeddus
sydd yn ariannu ac yn goruchwylio Cymdeithasau Tai Cymreig. Penderfynir
polisiau’r Gymdeithas gan fwrdd o bobl broffesiynol lleol
sydd yn ymrwymiedig i ddarpariaeth tai, a sydd yn cyflogi tîm
o swyddogion proffesiynol i ddarparu gwasanaeth tai safonol. |
Helen
White -
Cadairydd
Alice Robinson - Is-Gadairydd
Pwyllgor
Archwilio
Jean
McQueen - Cadairydd
Kathryn
Beard - Is-gadairydd
Adrian
Baugh
Gerry Davies
Peter Gibson
Colin Hanks
Mary Hill
Mike Parkin
Lynne Parry
Gareth Thomas
|
Dewiswch
bennawd: |
|
|
|
|
|
|
| Cynllun Perfformiad Gwerth
Gorau Blynyddol y Gymdeithas |
| Cynllun
Iaith Gymraeg |
|
|
|
Ein Prif Nod |
Sicrhau bod y cartrefi yr ydym
yn eu darparu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd bywyd yn y cymunedau
yr ydym yn gweithio ynddynt. |
Ein Hamcanion |
|
Gweithio’n
effeithiol dros bobl mewn angen |
- Helpu i lunio strategaethau tai lleol a pholisi cymdeithasol
- Sicrhau
lefelau boddhaol o fuddsoddiad yn y cartrefi sydd gennym eisoes
ac ar gyfer cartrefi newydd
- Darparu llais ar gyfer y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu
|
Gwrando ar ein cwsmeriaid
ac ymateb iddynt |
- Ceisio barn ein cwsmeriaid ar bob agwedd ar ein gwasanaeth
- Defnyddio
ein gwybodaeth i wella a datblygu gwasanaethau’n barhaus
|
Gweithredu yn agored a
theg, gyda chywirdeb a pharch |
- Trin
pobl fel unigolion - fel yr hoffem gael ein trin ein hunain
- Darparu
gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n cynlluniau
i’r rhai sydd â hawl i’w disgwyl
- Ymdrechu am gyfle cyfartal fel cyflogwr a landlord
|
|
|
Dod â buddiannau
i unigolion, y gymuned a’r amgylchedd |
- Cydnabod
ein cyfrifoldeb tymor hir i’r bobl a’r cymunedau
rydym yn eu cartrefu
- Datblygu
atebion drwy bartneriaeth i wella iechyd, ffyniant, diogelwch
ac ansawdd bywyd
|
Gweithio mewn Partneriaeth |
- Gweithio
gydag eraill i gyflawni nodau cyffredin
- Galluogi
staff i wneud y cyfraniad gorau y gallant, fel unigolion a thrwy
gydweithio
- Defnyddio
cryfderau ariannol a materol yn effeithiol i wneud y mwyaf o
adnoddau sydd ar gael
|
Edrych
tua’r
dyfodol – arloesi ac ysbrydoli |
- Rhagweld
a deall newidiadau yn anghenion ein cwsmeriaid
- Rhoi
cynnig ar syniadau newydd a chroesawu newid – mae
lle i wella bob amser
|
Ein Dyheadau |
- Rydym
eisiau i bobl ein dewis oherwydd ansawdd ein tai
- Rydym
eisiau i bobl aros gyda ni oherwydd ansawdd ein gwasanaeth
|
|
|
Gosodwyd
sylfeini’r Gymdeithas ym 1974 gan
bobl broffesiynol leol a ddaeth â’u sgiliau i’r
Mudiad Tai Gwirfoddol. Yr adeg honno, Ymddiriedolaeth Tai Llandudno
a Gogledd Cymru oedd ei henw, a’r prif angen o ran tai yr adeg
honno oedd llety ar gyfer yr henoed. Datblygwyd dros 100 o gartrefi
newydd mewn gwahanol gymunedau arfordirol i fodloni’r angen
hwn.
Rhoddodd
trosglwyddiadau o gymdeithas arall yn Llandudno sylfaen ehangach
i’r Gymdeithas, a’i galluogi i ddatblygu cynlluniau
gwella yn yr 1980au cynnar mewn pentrefi eraill ac ar gyfer gwahanol
anghenion teuluol. Ffurfiwyd chwaer gwmni hefyd (L. & N.W.
Housing Society Ltd) i ddatblygu cynlluniau ‘cydberchnogaeth’ a ‘prydles
i’r henoed’.
Ym
1987, newidiwyd yr ‘Ymddiriedolaeth’ i’w
henw presennol a dechreuwyd cysylltu ei pholisïau â gwahanol
anghenion tai, fel llety ar gyfer teuluoedd, pobl sengl, pobl gydag
anghenion arbennig a’r digartref mewn gwahanol gymunedau
ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Bellach mae ein stoc tai yn cynnwys
dros 2100 o gartrefi.
|
|
|
Cyflwyniad
i’r Wefan. Croeso
i Gymdeithas Tai Gogledd Cymru. Rydym yn berchen ar ac yn rheoli
dros 2,100 o gartrefi yng ngogledd orllewin Cymru,
gan ddarparu lle i fyw i deuluoedd, yr henoed, pobl sengl a phobl
sydd angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol.
Ond
nid “landlord” yn unig ydym ni. Mae ein rôl
yn cynnwys cyfrifoldeb ehangach i sicrhau bod y cartrefi yr ydym
yn eu darparu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd bywyd
yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Mae
hynny’n golygu gweithio i gyfres o werthoedd rydym yn credu
ynddynt…
- Gweithio’n
effeithiol dros bobl mewn angen
- Gwrando
ar ein cwsmeriaid ac ymateb iddynt
- Gweithredu’n
agored a theg, gyda chywirdeb a pharch
- Dod â buddiannau
i unigolion, y gymuned a’r amgylchedd
- Gweithio
mewn partneriaeth
- Edrych
tua’r dyfodol
Mae
natur y farchnad dai yn golygu bod prisiau uwch wedi rhoi mwy
fyth o bwysau ar dai rhent ac ar y bobl hynny na allant fforddio
prynu, felly mae ein rôl ni wedi dod yn bwysicach fyth.
Rydym hefyd yn anelu at sicrhau bod ein holl gartrefi yn bodloni
Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012 - ddwy flynedd cyn y targed
a osodwyd gan y Cynulliad.
Mae
cynnwys cwsmeriaid yn ganolog i’n agenda. Os ydym i ddeall
anghenion a disgwyliadau’n cwsmeriaid, mae’n rhaid
i ni fod yn barod i wrando ac i dderbyn yr hyn y mae pobl yn
ei ddweud wrthym. Os oes gennych chi syniad neu awgrym ar gyfer
gwella’r hyn rydym yn ei wneud, rhowch wybod i ni. Rydym
wedi ymrwymo i wrando a dysgu ac i wella a datblygu ein gwasanaethau’n
barhaus.
Rydym
wrthi ers 30 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw,
hoffem feddwl ein bod wedi gwneud gwahaniaeth. Ond fel tystiolaeth
ein bod yn dal i symud ymlaen, rydym yn lansio Clwb Seren, sef
pecyn gwobrau a chymhellion ar gyfer tenantiaid. Mae’n
ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad i’n cwsmeriaid gorau.
Rydym eisiau i bobl ein dewis ni oherwydd ansawdd ein tai. Rydym eisiau i bobl
aros gyda ni oherwydd ansawdd ein gwasanaeth. |
Y
Cynllun Corfforaethol 5 Munud |
|
Ein
Nod |
Gwneud
yn siwr bod y cartrefi a’r gwasanaethau a ddarparwn yn
gwneud
cyfraniad positif i ansawdd bywyd yn y cymunedau lle’r
ydym yn gweithio.
Mae ein gwerthoedd yn seiliedig ar bobl
-
Gweithio’n effeithiol i bobl mewn angen
-
Gwrando ar gwsmeriaid ac ymateb iddynt
-
Gweithredu yn agored ac yn deg, gyda gonestrwydd a pharch
-
Dod â buddiannau i unigolion, y gymuned a’r amgylchedd
-
Gweithio mewn partneriaeth
Rydym am i bobl ein dewis ni oherwydd safon ein cartrefi – rydym
am i bobl
aros gyda ni oherwydd safon ein gwasanaeth.
Bydd ein gwaith yn cael ei bennu a’i ddylanwadu’n fwyfwy
gan ein
cwsmeriaid.
Bydd cartrefi’n cwsmeriaid yn economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
gynaliadwy.
Fel Buddsoddwr mewn Pobl rydym yn gwybod bod ein gweithwyr
yn hollbwysig i
sicrhau ein llwyddiant. Byddwn yn canolbwyntio’n sylw ar ein
pobl er mwyn
gwella hyder a chreu amgylchedd da o fewn ein busnes.
|
Ffactorau
ar gyfer llwyddiant |
Mae
ein cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf yn seiliedig ar bum ffactor
llwyddiant
hollbwysig:
Datblygu
a chynnal a chadw cartrefi mewn modd effeithiol, effeithlon a
chynaliadwy
• Gweithio ar y cyd trwy bartneriaeth Undod
• Cyfrannu tuag at strategaethau a chynlluniau perthnasol yr awdurdod
lleol
Datblygu
cynlluniau a gwasanaethau fydd yn ei gwneud yn haws bod yn berchen
eu cartref
•
Sicrhau bod y contract wedi ei reoli’n effeithiol
• Sicrhau y cydymffurfir gyda Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2012
•
Cwblhau gwaith cynnal ymatebol ac i gynllun yn unol â’r
safonau y cytunwyd
arnynt
• Cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
y
cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt
Darparu
gwasanaethau lle mae’r cwsmer yn ganolog
ac sydd yn cwrdd ag
anghenion a disgwyliadau pobl
•
Sicrhau bod amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer ymgynghori â’r
cwsmer a’i gynnwys
yn y dasg o asesu boddhad â’r gwasanaethau, gwerthuso’n
perfformiad a’r
blaengynllunio
•
Darparu gwybodaeth am ein cartrefi, ein gwasanaethau a’n cynlluniau
trwy nifer o
wahanol ddulliau
•
Sicrhau y caiff y gwasanaethau a’r wybodaeth a ddarperir gennym
eu darparu yn
unol â dewis iaith ac yn unol â gofynion penodol eraill
ein cwsmeriaid
•
Mabwysiadu “arfer da” a chwilio am welliant parhaus mewn
gwasanaethau
• Gwneud ein gorau i sicrhau lle ymhlith y pedwar uchaf yn yr holl
feysydd
perfformiad
• Hyrwyddo cynllun gwobrau a chymhellion Clwb Seren ar gyfer tenantiaid
Cwrdd
ag anghenion penodol pobl sydd angen cefnogaeth i fyw yn annibynnol
•
Cytuno a gweithredu’r cynlluniau gweithredu sy’n deillio
o’r adolygiad strategol o
dai â chefnogaeth ac adolygiad perfformiad Llywodraeth Cynulliad
Cymru
•
Gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i nodi a chyflwyno ffyrdd
o atal ac
ymateb i ddigartrefi
• Datblygu strategaeth ar ddarparu cartrefi a gwasanaethau ar gyfer
pobl hyn
•
Gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn darparu amrywiaeth
o gartrefi a
gwasnaethau ar gyfer y bobl sydd angen cefnogaeth
Sicrhau
dyfodol hyfyw a llwyddiannus trwy reolaeth gadarn ar fusnes ac
arian
•
Datblygu ein gallu a’n sgiliau i wella perfformiad trwy gyfrwng
fframwaith Gwerth
Gorau
• Sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn gadarn ac yn adlewyrchu ymroddiad
tymor hir CTGC i’w gwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol
• Sicrhau bod y prisiau a godir gennym yn rhesymol a bod rhenti o fewn
lefelau
meincnodi
•
Gwneud y gorau posibl o’n incwm trwy wella effeithiolrwydd
wrth gasglu rhenti a
thaliadau eraill
•
Sicrhau y rhoddir sylw i effeithiolrwydd ar draws holl feysydd gwaith
CTGC gyda’r
bwriad o ailgyfeirio arbedion tuag at wella gwasanaeth
• Datblygu a gweithredu systemau TGaCh er mwyn gwella gwasanaeth yn
unol ag
amcanion y Llywodraeth
•
Cydymffurfio â strategaeth a pholisïau CTGC ar gyfer asesu
a rheoli risg
• Hyrwyddo a rheoli delwedd bositif ar gyfer CTGC
Datblygu
a buddsoddi yn ein pobl er mwyn eu cynorthwyo wneud eu gwaith
orau gallant
• Recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel sydd yn broffesiynol, yn
frwdfrydig ac yn
meddu ar agwedd lle mae’r cwsmer yn ganolog
• Sicrhau safonau uchel o safbwynt arweiniad, rheolaeth, hyfforddiant
a datblygiad
•
Recriwtio a chefnogi aelodau o’r Bwrdd sydd yn gallu helpu
CTGC i gwrdd â’i
amcanion ac ychwanegu gwerth i’r gwaith o’i rheoli
•
Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd o’n
gwaith
• Sicrhau y caiff Strategaeth a Pholisi Iechyd a Diogelwch CTGC eu
gweithredu
Credwn for ein gwaith wedi gwneud gwahaniaeth go iawn drwy gymunedau
yng
nghogledd-ddwyrain Cymru ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod
hyn yn parhau.
Y
Cynllun Corfforaethol 5 Munud
Ffeil
PDF - 54kb
Clic u'r dde "Arbed Targed..."
|
|
|
|
|
Mae'r ddogfen yma ar gais
i'w gael mewn Braille, Braille Cymraeg, Print Bras, MOON,Tap/cd,
cd-rom. |
Cynllun
Perfformiad Gwerth Gorau Blynyddol y Gymdeithas |
Cynllun
Perfformiad Gwerth Gorau Blynyddol y Gymdeithas
Ffeil
PDF - 603kb
Clic u'r dde "Arbed Targed..." |
| Cynllun
Iaith Gymraeg |
|
|