|
Cwestiynau |
Prif
10 Cwestiynau |
| Dewiswch
gwestiwn neu gategori os gwelwch yn dda: |
|
Ymgeiswyr
Trigolion
Amrywiol |
| Ymgeiswyr |
1)
Sut ydw i’n mynd ar y Rhestr
Dai?
2) A fyddaf yn dechrau ar waelod y rhestr?
3) Faint o bwyntiau sy’n rhaid i mi eu cael?
4) Sut ydw i’n cynyddu fy mhwyntiau ac ydw i’n
cael mwy po hiraf yr wyf ar y rhestr aros?
5) Pa fathau o eiddo sydd gennych?
6) Sut y mae eiddo’n cael ei ddyrannu?
7) Am faint fydd rhaid i mi aros?
8) Rwyf wedi bod ar eich Rhestr Aros am fwy na blwyddyn
ond dim ond un neu ddau o lythyrau yr wyf wedi’u derbyn oddi
wrthych. Pam?
9) Beth yw fy safle ar y rhestr aros? Pa mor agos i’r
brig ydw i?
10) Pam y cafodd rhywun arall dy ac nid fi, er bod ein hamgylchiadau'r
un fath?
11) Pa fath o bobl allwch chi eu helpu?
12) Ym mha ardaloedd ydych chi’n gweithredu?
13) Sut ydw i’n mynd ar Restr Aros y tu allan i’r
ardal?
14) Faint yw eich rhent?
15) Pa mor ddiogel fydd fy nhenantiaeth?
16) Beth sy’n digwydd os wyf yn dod o hyd i lety
fy hun yn y cyfamser?
17) A fyddaf yn gallu prynu’r ty yn y dyfodol
os wyf eisiau?
18)
A fydd yna garpedi yn yr eiddo?
|
| Trigolion |
Clwb Seren:
1) A fydd rhenti’n codi er mwyn talu costau Clwb
Seren?
2) Pryd mae’n cychwyn?
3) A yw tenantiaid ar Fudd-dal Tai yn gallu ymuno?
4) Beth yw’r anfantais?
5) A yw’n gwahaniaethu?
6) A fydd ein manylion yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau eraill?
7) Beth sy’n digwydd i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion nad
ydynt eisiau ymuno â Chlwb Seren? |
| Amrywiol |
| 1)
Pwy sy’n rhedeg CTGC? |
|
Ymgeiswyr |
C:
Sut ydw i’n mynd ar y Rhestr Dai?
A:
Dylech gysylltu â’r Gymdeithas am Becyn Ymgeisio
a llenwi a dychwelyd y ffurflen gais i’r Gymdeithas gan fod
ganddi system restr aros ar gyfer ei heiddo. Caiff ymgeiswyr eu hasesu
a rhoddir pwyntiau iddynt ar sail eu hamgylchiadau presennol, gan
roi ystyriaeth i bethau fel sefyllfa feddygol, rhesymau cymdeithasol,
gorlenwi ac ati. Yna cewch eich hysbysu o’ch asesiad pwyntiau. |
| |
C:
A fyddaf yn dechrau ar waelod y rhestr?
A: Bydd y nifer o bwyntiau a roddir i chi yn adlewyrchu eich amgylchiadau
presennol. |
| |
C:
Faint o bwyntiau sy’n rhaid i mi eu cael?
A: Nid oes yna ryw “rif hud”! Mae’r rhestr aros yn
newid drwy’r amser wrth i bobl newydd ymgeisio neu bobl ddod
o hyd i rywle i fyw, ac mae pwyntiau pawb yn seiliedig ar eu hamgylchiadau
eu hunain. Pan ddaw ty yn wag gennym, yr unigolyn sydd â’r
mwyaf o bwyntiau sy’n cael ei gynnig fel arfer. Mewn rhai ardaloedd
mae’r galw yn uchel iawn, felly bydd llawer o gystadlu rhwng
pobl sydd â llawer o bwyntiau. Mewn ardaloedd eraill lle mae’r
galw yn isel, fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu cael cartref
gyda llai o bwyntiau. |
|
C:
Sut ydw i’n cynyddu fy mhwyntiau ac ydw i’n cael mwy
po hiraf yr wyf ar y rhestr aros?
A: Os yw eich amgylchiadau’n newid, gallai hynny effeithio ar
eich pwyntiau. Er enghraifft, os oes gennych unrhyw broblemau meddygol,
gofynnwch i’ch meddyg am lythyr i’w roi i ni. Os oes yna
unrhyw broblemau yn ymwneud â chyflwr eich eiddo presennol, efallai
yr hoffech gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol.
Gallai adroddiad o’r Adran Iechyd yr Amgylchedd yn cadarnhau
unrhyw broblemau yn yr eiddo olygu mwy o bwyntiau i chi.
Ni roddir pwyntiau po hiraf yr ydych ar y rhestr aros. |
| |
C:
Pa fathau o eiddo sydd gennych?
A: Rydym yn darparu’n bennaf ar gyfer teuluoedd mewn tai gyda
2, 3 a 4 o ystafelloedd gwely. Mae gennym hefyd fflatiau gyda 1 a 2
ystafell wely ar gyfer pobl sengl, teuluoedd bach a’r henoed.
Mae ein stoc yn cynnwys nifer fach iawn o fyngalos ar gyfer yr henoed
neu bobl anabl. Mae llety ar gael hefyd trwy ein Hadran Tai â Chefnogaeth
ar gyfer y bobl hynny sydd angen llety â chefnogaeth. |
| |
C:
Sut y mae eiddo’n cael ei ddyrannu?
A: Pan ddaw eiddo yn wag, bydd Swyddog Tai yn llunio rhestr fer o’r
ymgeiswyr sydd â’r nifer fwyaf o bwyntiau ac yn ymweld â nhw
cyn dewis un ymgeisydd/teulu ar gyfer yr eiddo hwnnw. Yn ogystal â hynny,
mae gan y Cyngor hawliau enwebu ar gyfer o leiaf hanner ein heiddo
gwag. Rhaid i ni hefyd ystyried ymgeiswyr sydd am drosglwyddo ac ymgeiswyr "moveUK",
a allai fod â rhesymau dros symud sy’n golygu bod rhaid
rhoi blaenoriaeth iddynt. |
|
C:
Am faint fydd rhaid i mi aros?
A: Mae hyn yn dibynnu ar faint o bobl eraill sy’n chwilio am
yr un math o eiddo yn yr un ardal. Pan fyddwn yn adeiladu stad newydd
neu floc o fflatiau, byddwn yn gwybod sawl eiddo gwag fydd gennym a
phryd y byddant yn barod. Ond os nad oes gennym unrhyw eiddo’n
dod yn wag, efallai y bydd rhaid i chi aros i rywun symud allan o’i
gartref. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod pryd y bydd hynny’n debygol
o ddigwydd, felly ni fyddem yn gallu dweud wrthych. |
| |
C:
Rwyf wedi bod ar eich Rhestr Aros am fwy na blwyddyn ond dim ond
un neu ddau o lythyrau yr wyf wedi’u derbyn oddi wrthych. Pam?
A: Rydym yn anfon llythyrau adnewyddu bob 6 mis. Fel arall, dim
ond os ydych yn cael eich ystyried ar gyfer eiddo y byddwn yn cysylltu â chi
i drefnu ymweliad cartref. |
| |
C:
Beth yw fy safle ar y rhestr aros? Pa mor agos i’r brig ydw
i?
A: Ni allwn ddweud yn bendant gan fod y rhestr aros yn newid
yn gyson wrth i bobl ddod oddi arni ac ymuno â hi. |
| |
C:
Pam y cafodd rhywun arall dy ac nid fi, er bod ein hamgylchiadau'r
un fath?
A: Mae pwyntiau pawb yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol. Mae’r
wybodaeth yn gyfrinachol ac efallai fod ganddynt amgylchiadau gwahanol
nad ydych yn gwybod amdanynt. Ni allwn, ac ni fyddwn yn trafod amgylchiadau
pobl eraill. |
|
C:
Pa fath o bobl allwch chi eu helpu?
A: Gan mai nifer cyfyngedig o eiddo sydd gennym, rydym yn rhoi
blaenoriaeth i’r rhai hynny sydd angen ty fwyaf, na allant brynu neu rentu
ar y farchnad agored. Mae’r rhain yn cynnwys yr henoed, teuluoedd,
ymgeiswyr digartref, pobl gydag anableddau neu bobl sydd angen cefnogaeth
ychwanegol, ac ati. |
| |
C:
Ym mha ardaloedd ydych chi’n gweithredu?
A: Rydym yn gweithredu yn ardaloedd arfordirol Gogledd Cymru
yn bennaf, o Dywyn i Gaernarfon a rhannau o Ynys Môn, ac mae
gennym ambell i uned/stad fewndirol. Edrychwch ar y pecyn ymgeisio
i weld pa ardaloedd
yr ydym yn gweithredu ynddynt. |
| |
C:
Sut ydw i’n mynd ar Restr Aros y tu allan i’r ardal?
A: Drwy’r cynllun "moveUK" (Cyswllt Allanol). Byddwn
yn ceisio eich enwebu i’r ardal yr ydych yn ei dewis. Fodd bynnag,
dim ond y Cyngor, nid ni, sy’n gallu enwebu tenant preifat allan
o’r ardal. Mae yna hefyd gynlluniau HOMESWAP, cydgyfnewid, ac
ati. Gellwch hefyd anfon neges e-bost at "moveUK": info@moveuk.com |
| |
C:
Faint yw eich rhent?
A: Mae hyn yn dibynnu ar yr ardal ac ar faint yr eiddo. Llywodraeth
Cynulliad Cymru sy’n rheoli ein rhenti, sy’n cael eu pennu
trwy feincnodi â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill.
Tua £55.36 (Conwy) a £53.95 (Gwynedd ac Ynys Môn)
yw’r rhent cyfartalog presennol am dy 3 ystafell wely ar gyfer
5 o bobl. |
|
C:
Pa mor ddiogel fydd fy nhenantiaeth?
A: Mae’r rhan fwyaf o’n tenantiaethau yn ‘Denantiaethau
Sicr’. Mae hyn yn golygu y cewch aros yn y ty cyn hired ag y
mynnwch, cyn belled â’ch bod yn cadw at delerau ac amodau’r
cytundeb tenantiaeth. Fodd bynnag, mae gan bob preswylydd newydd fath
o Denantiaeth Gychwynnol. Gelwir y rhain yn ‘Denantiaethau Byrddaliad’,
ac fel arfer fe’u rhoddir am flwyddyn i ddechrau, ond gallant
fod am gyfnod mwy. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, caiff y
rhain eu trosi’n ‘Denantiaethau Sicr’ ar ôl
blwyddyn. |
| |
C:
Beth sy’n digwydd os wyf yn dod o hyd i lety fy hun yn y cyfamser?
A: Byddech yn rhoi gwybod i ni eich bod yn symud a byddwn yn
anfon ffurflen newydd atoch i’w llenwi. Yna byddai eich cais
yn cael ei ailasesu a byddech yn cael gwybod faint o bwyntiau newydd
sydd gennych. |
| |
C:
A fyddaf yn gallu prynu’r ty yn y dyfodol os wyf eisiau?
A: Bydd gan rai o’n tenantiaid Hawl i Brynu eu ty. Mae pob cais
yn dibynnu ar gymhwyster – edrychwch ar ein tudalen Hawl i Gaffael. |
|
C:
A fydd yna garpedi yn yr eiddo?
A: Ddim fel arfer. Weithiau, fodd bynnag, byddwn yn rhoi caniatâd
i denant adael carpedi glân sydd mewn cyflwr da yn yr eiddo,
os na fydd arno’u hangen yn ei gyfeiriad newydd. |
| |
| |
| Trigolion |
| |
| Clwb
Seren |
C:
A fydd rhenti’n codi er mwyn talu costau Clwb Seren?
A: Na. Ni ddylai Clwb Seren effeithio o gwbl ar renti.
Os yw cwsmeriaid yn defnyddio Clwb Seren, ac yn cadw at y rheolau,
yna
bydd lai o wastraff
mewn sawl maes, sy’n golygu y bydd digon o arian ar ôl
i redeg Clwb Seren. |
|
C:
Pryd mae’n cychwyn?
A: Anfonwyd y cardiau aelodaeth cyntaf allan yn Ebrill 2005,
gydag aelodaeth yn dechrau ar 31 Mawrth 2005 a chymhwyster ar gyfer
aelodaeth ar 14 Chwefror 2005. |
| |
C:
A yw tenantiaid ar Fudd-dal Tai yn gallu ymuno?
A: Wrth gwrs. Bydd manteision aelodaeth yn cael eu hôl-ddyddio
yn achos oedi wrth hawlio Budd-dal Tai, cyn belled â bod y tenant
wedi gwneud popeth y gofynnodd yr Adran Budd-dal Tai h.y. anfon yr
holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt ac ati. |
| |
C:
Beth yw’r anfantais?
A: Does yna’r un anfantais. Y cyfan sy’n rhaid i denantiaid
ei wneud yw gofalu am eu tenantiaeth a pharchu’r cytundeb tenantiaeth
y maent wedi’i lofnodi. Mae’n ymwneud â pharchu cwsmeriaid,
cwsmeriaid yn ein parchu ni a’r Gymdeithas yn cael gwared â gwastraff. |
|
C:
A yw’n gwahaniaethu?
A: Nac ydyw, wrth gwrs. Mae arolygon mewn mannau eraill wedi dangos
fod bron i 95% o gwsmeriaid yn ei gefnogi. Gall pobl nad ydynt yn aelodau
ddisgwyl gwasanaeth o safon uchel oddi wrth y Gymdeithas o hyd, ond
ni fyddant yn gallu manteisio ar y buddiannau ychwanegol sydd ar gael
i aelodau. |
| |
C:
A fydd ein manylion yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau eraill?
A: Na. Mae ein polisi ni a pholisïau preifatrwydd yn gwahardd
hynny. |
| |
C:
Beth sy’n digwydd i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion nad
ydynt eisiau ymuno â Chlwb Seren?
A: Dim byd, os ydynt yn trefnu amserlen ad-dalu gyda ni heb i
ni orfod mynd ar eu holau. Os ydynt yn gwrthod cysylltu â ni neu os na
allwn ni gysylltu â nhw, byddwn yn cymryd pob cam posibl i adennill
y ddyled. |
|
| |
| Amrywiol |
C:
Pwy sy’n rhedeg CTGC?
A: Caiff CTGC ei rhedeg gan Fwrdd Rheoli sy’n cael eu hethol
yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Gall tenantiaid unigol ddod yn
aelodau o’r Gymdeithas drwy brynu cyfran £1 a gallant sefyll
i’w hethol ar y Bwrdd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Er
nad yw aelodau’r Bwrdd yn derbyn tâl, gallant hawlio costau
teithio a mân dreuliau eraill. |
| |
| |