Hafanu English
Erthyglau a Newyddion Amdanom Ni Dod o hyd i Gartref Gwybodaeth i Breswylwyr Cysylltu a Ni Cwestiynau Cysylltiadau Aelodau
Cyfleon Swyddi Cyflwyniad:
Swyddi gwag
Ni yw un o’r prif landlordiaid cymdeithasol yng Ngogledd Cymru
ac rydym yn darparu pob mathau o dai mewn cymunedau
arfordirol o Abergele i Gaernarfon a llawer o ardaloedd gwledig,
ac yn rheoli dros 2,200 o gartrefi.


Rydym yn cynnig:

Cyflog cystadleuol

Cyfraniad pensiwn gyda'r

Gweithio hyblyg

System Adolygu Datblygiad Personol

Amgylchedd gwaith
cefnogol a phositif

Gweithwyr Cefnogi Prosiect Rhan-amser - Bae Colwyn
(2 swydd wag)

Gweithwyr Cefnogi Prosiect Rhan-amser - Bangor
(4 swydd wag)

Warden Nos - Bae Colwyn

Staff Llanw Hostel Achlysurol - Bae Colwyn

 
Gweithwyr Cefnogi Prosiect Rhan-amser - Bae Colwyn (2 swydd wag)

Gweithwyr Cefnogi Prosiect Rhan-amser - Bae Colwyn (2 swydd wag)
• £14,485 - £16,389 pro rata • 20.5 awr yr wythnos fel rhan o rota saith diwrnod
• Bydd angen gweithio yn ystod y dydd, gyda’r nos, ar benwythnosau a gwyliau banc

Gweithwyr Cefnogi Prosiect Rhan-amser - Bangor (4 swydd wag)
• £14,485 - £16,389 pro rata • 14 awr yr wythnos
• Bydd angen gweithio ar benwythnosau (yn cynnwys gwyliau banc)

Mae Gweithwyr Cefnogi Prosiect yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r gefnogaeth a gynigiwn i’n preswylwyr, gan ddelio â phopeth o egluro amodau preswylio i’w helpu gyda’u ceisiadau am fudd-dal tai a budddaliadau eraill. Byddwch yn helpu preswylwyr i ddysgu sgiliau sylfaenol yn cynnwys coginio, gwaith ty cyffredinol, trin arian a llythrennedd.

Manyleb Swydd

Warden Nos - Bae Colwyn

Warden Nos - Bae Colwyn
• £12,802 - £14,485 pro rata • Shifft 11 awr yr wythnos
• Un shifft nos effro bob saith diwrnod (yn cynnwys gwyliau banc)

Mae ein Wardeiniaid Nos yn hanfodol i’n preswylwyr yn ystod oriau’r nos. Maent yn sicrhau bod yr hostel a’i breswylwyr yn ddiogel, ac maent ar gael i ddelio ag unrhyw argyfwng a all ddigwydd, heb gynhyrfu. Byddant hefyd yn sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal i’r safon uchaf.

Manyleb Swydd

Staff Llanw Hostel Achlysurol - Bae Colwyn

Staff Llanw Hostel Achlysurol - Bae Colwyn
• £7.03 bob awr effro a £5.73 bob awr yn cysgu

Ni ellir gwarantu’r gwaith yma ond efallai y gofynnir i chi weithio unrhyw bryd. Er nad oes raid i chi dderbyn y gwaith a gynigir, byddwn yn ystyried i ba raddau rydych ar gael i weithio wrth benderfynu a ydych yn addas i fod yn rhan o’r gronfa wrth gefn.

Gan fod staff yn ein hosteli 24 awr y dydd mae’n ofynnol i ni gael cronfa o staff llanw achlysurol i sicrhau bod gweithwyr ar gael drwy’r amser. Er y rhoddir hyfforddiant llawn, byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd hostel yn ddymunol.

Manyleb Swydd

 
Sut i ymgeisio

Am becyn gwybodaeth cysylltwch â’r Adran Bersonél ar 01492 563240 neu Ebost: personnel@nwha.org.uk neu Wefan: www.nwha.org.uk.

Oherwydd natur y swyddi hyn, bydd yn ofynnol i chi gael datgeliad uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Ewch i www.crb.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Fel Cyflogwr Cyfle Cyfartal mae CTGC yn croesawu ceisiadau oddi wrth bob carfan
o’r gymuned waeth beth fo’u hoed, rhyw, anabledd, tras ethnig neu hil. Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn gymdeithas dai elusennol.