Hafanu English
Erthyglau a Newyddion Amdanom Ni Dod o hyd i Gartref Gwybodaeth i Breswylwyr Cysylltu a Ni Cwestiynau Cysylltiadau Aelodau
Croeso i Dai Gogledd Cymru  
Beth sy’n Newydd?

 

29/07/08 - 15:00
Ethol Aelodau Newydd o’r Bwrdd

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CTGC ar 10 Gorffennaf, etholwyd dau aelod newydd o’r Bwrdd. Mike Parkin a Peter Gibson yw’r newydd-ddyfodiaid, sy’n cymryd lle’r aelodau Chris Drew a James Sutton sy’n gadael.

Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i hysbysebu swyddi gwag ar y Bwrdd er budd cyfle cyfartal a gyda golwg ar sicrhau bod gennym gydbwysedd da o sgiliau. Hysbysebwyd y swyddi gwag yn y cyfryngau lleol ar ddechrau mis Mai ac roedd yn galonogol iawn ein bod wedi derbyn nifer o geisiadau da. O ganlyniad i’r broses hon cawsom ddau enwebiad llwyddiannus gan gyfranddalwyr i fod yn aelodau o’r Bwrdd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Cyfrifydd cymwysedig yw Mike Parkin sy’n Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau gyda Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd. Bu’n is-gadeirydd Sefydliad Rheolaeth Hyd Braich mawr ym Manceinion ac arferai weithio i Grwp Tai Novas.

Cyfreithiwr yw Peter Gibson a’i swydd olaf cyn ymddeol oedd Cyfarwyddwr Twristiaeth a Hamdden i Gyngor Conwy. Cyn hynny bu’n Brif Weithredwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Clwyd. Ymysg llawer o swyddi gwirfoddol a gyflawnwyd gan Peter, ef yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sw Fynydd Cymru.

Wrth groesawu Mike a Peter, roedd CTGC yn drist ei bod yn ffarwelio â James Sutton a Chris Drew. Penderfynodd y ddau ymddeol o’r Bwrdd. Gwnaeth James gyfraniad gwirioneddol ddefnyddiol i’r Bwrdd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Gwaetha’r modd, mae ymrwymiadau eraill yn golygu ei bod yn anodd iddo barhau. Ond talodd Helen White, y Cadeirydd, deyrnged arbennig i Chris: “Byddwn i gyd yn methu Chris, sydd wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers chwe blynedd. Mae wedi rhoi cefnogaeth wych i mi fel Is-gadeirydd yn ystod y tair blynedd diwethaf ac rydym yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”

Alice Robinson yw Is-gadeirydd newydd CTGC, sy’n adnabyddus dros ben yn y sector gwirfoddol ac ym maes llywodraeth leol ac sy’n unigryw iawn gan ei bod aelod o’r Gymdeithas ers y cychwyn cyntaf.

 
 
29/07/08 - 13:00
Cynllun Peilot Cartrefi Gwag

Mae Partneriaeth Cartrefi Gwag Conwy rhwng Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ac Uned Tai Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi lansio ei Chynllun Peilot Cartrefi Gwag.

Amcanion y Cynllun Peilot Cartrefi Gwag yw:

- Dychwelyd cymaint â phosibl o gartrefi a fu’n wag ers amser maith ac adeiladau gwag addas eraill i ddefnydd preswyl.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau adnewyddu ardal (yng Ngogledd Canol Bae Colwyn Bay a Dwyrain Penmaenmawr ar hyn o bryd).
- Darparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol.
- Lleihau’r angen i ddatblygu safleoedd maes glas yn y dyfodol i gwrdd ag anghenion Tai Fforddiadwy’r Cyngor.
- Gwella’r amgylchedd adeiledig sydd ohoni.

Yn ystod 6 mis cyntaf y cynllun peilot bydd gweithgareddau yn canolbwyntio ar yr ardal sy’n rhan o Fenter Baylife, sef ardal drefol yng nghanol Bae Colwyn lle mae nifer anghymesur o uchel o anheddau gwag.

Mae Partneriaeth Cartrefi Gwag Conwy yn diffinio Cartref Gwag fel “annedd a fu’n wag ers dros 6 mis nad oes gan y perchennog gynlluniau ymarferol i’w ddychwelyd i feddiannaeth.” Roedd mwy na 1000 o Gartrefi Gwag yn y fwrdeistref ar 1 Ebrill 2008.

Mae Partneriaeth Cartrefi Gwag Conwy yn bwriadu gwneud defnydd o Gartrefi Gwag unwaith eto mewn nifer o ffyrdd:

- Cyngor a Chymorth
- Cymorth Ariannol
- Gorfodaeth

Mae tystiolaeth gadarn fod Cartrefi Gwag nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd adeiledig, ond hefyd yn ffynhonnell o dai fforddiadwy nad yw’n cael ei defnyddio ac ar adeg pan mae mwy o ansicrwydd ariannol, ni ellir parhau i’w hanwybyddu fel adnodd.

Os ydych chi:-

Yn berchen ar Gartref Gwag

Yn gwybod am Gartref Gwag yn eich ardal sy’n achosi niwsans

Neu’n awyddus i gael mwy o wybodaeth

Yna cysylltwch â David Lowe, Swyddog Datblygu Tai Fforddiadwy ar 01492 575983 neu 01492 563281 neu drwy e-bostio david.lowe@nwha.org.uk

Mae Cyfarwyddwr Datblygu Busnes CTGC, Phil Danson, yn gadarn y tu ôl i’r cynllun ac meddai, “Yn yr adegau hyn o ansicrwydd ariannol mae gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym yn gwneud synnwyr. Rydym yn hynod o falch o fod yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y prosiect yma. Mae’n gyfle mor dda i helpu i ddarparu mwy o dai fforddiadwy ac i leihau’r problemau y gall eiddo gwag eu hachosi i drigolion lleol eraill.”

O dan y llun – Phil Danson (ar y dde), Cyfarwyddwr Datblygu Busnes CTGC a David Lowe, Swyddog Datblygu Tai Fforddiadwy.

   

14/04/08 - 15:00
Fforwm Ar-lein Cymdeithas TaiGogledd Cymru

CTGC yw’r gymdeithas dai gyntaf i ddarparu fforwm ar lein i’w holl denantiaid ac aelodau’r cyhoedd. Cynlluniwyd y fforwm i ddod â holl aelodau’r gymuned at ei gilydd. Felly os ydych chi’n teimlo fel cychwyn trafodaeth am rywbeth sydd o ddiddordeb i chi,
sy’n eich cyffroi, eich gwylltio neu’n eich gwneud yn rhwystredig, yna ewch ar-lein o Ebrill 14 ar:

http://nwha.qforum.biz

Fel arall, gallwch bori drwy’r categorïau i ddod o hyd i gynghorion hwylus neu ddysgu
beth sy’n digwydd yn eich ardal chi. Mae’r fforwm yn ddefnyddiol ar gyfer sawl pwrpas, o drafod cynghorion doeth, Cyfnewid Cartrefi neu ddigwyddiadau sydd ar fin cael eu cynnal yn yr ardal, i sefydlu grwpiau cymdogaeth a gwasanaeth cyfnewid nwyddau.

Bydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn mynd o gwmpas gwahanol ystadau yn ystod yr haf a bydd cyfrifiadur ar gael i denantiaid ei ddefnyddio i gofrestru a defnyddio’r fforwm.

Bydd gwobrau i’r drafodaeth fwyaf defnyddiol sy’n cael ei chychwyn bob chwarter.

 
12/10/07 - 10:00am
Beth yw Cam Un?

Cam Un yw’r cynllu Cymorth Prynu Cartref a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC). Mae’n seiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ei nod yw helpu’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n methu prynu eu cartref eu nunain heb gymorth ychwanegol.

Gyda menter Cam Un mae’r prynwr yn talu 70 y cant o gost yr eiddo, drwy forgais fel arfer, ac mae CTGC yn ariannu’r 30 y cant sy’n weddill trwy ‘fenthyciad ecwiti’.

Yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy y mae’r tai cyntaf sydd ar gael dan y cynllun yma, lle mae’r Gymdeithas yn darparu datblygiad bach o ddeuddeg ty a dau fflat. Bydd chwech o dai ar gael i’w prynu a bydd y gweddill yn cael eu rhentu.

Aseswyd mai £140,000 yw eu gwerth ar y farchnad agored, sy’n golygu y bydd angen i ddarpar brynwyr allu codi £98,000 (70% o’r gwerth) drwy forgais a chyfalaf/cynilion.

Bydd y tai yn cael eu rhoi ar sail anghenion blaenoriaeth gan mai cartrefi 3 ystafell wely ar gyfer 5 person ydynt, a byddant yn cael eu rhoi i deuluoedd gyda phlant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo drwy Gam Un ar ddatblydiad Tyddyn Mostyn, ymgeisiwch rwan! Ffurflen gais ar gael gan Cyngor Sir Ynys Mon, ffon: 01248 752294 or Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, ffon: 01492 572727.

Dychwelwch eich ffurflen gais cyn gynted â phosib oherwydd rydym yn rhagweld y byddwn yn dechrau eu neilltuo ym mis Hydref/ mis Tachwedd er mwyn rhoi cyfarwyddiadau i’r cyfreithwyr ym mis Tachwedd/ mis Rhagfyr. Rydym yn rhagweld y caiff y tai eu trosglwyddo yn ystod Rhagfyr 2007/Ionawr 2008.

Hefyd, gwnewch ymholiadau cyffredinol i weld a oes odd i chi gael morgais a faint y gallwch ei fethyg. Mae’n bwysig eich bod yn hapus gyda’r ad-daliadau y bydd rhaid i chi eu gwneud ochr yn ochr â’ch biliau ty arferol. Peidiwch â gwneud ynrhyw ymrwymiad ariannol na chyfreithiol ar hyn o bryd.

Am wybodaeth pellach & lluniau ynglyn ag cynllun Cam Un, clician yma os gwelwch chi’n dda

 

30/08/07 - 12:30pm
Gwella eich Gwasanaeth Cynnal a Chadw

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ar fin cychwyn adolygiad mawr o’r ffordd y mae’n rheoli ei gwasanaeth cynnal a chadw. Comisiynwyd yr adolygiad gan Dîm Rheoli Corfforaethol y gymdeithas ac fe’i hawdurdodwyd gan Fwrdd y gymdeithas.

Mae nod yr adolygiad yn ddigon syml: “Sefydlu trefniadau cynnal a chadw effeithiol ac effeithlon o fewn y gymdeithas”

Byddwn yn edrych ar y gwasanaeth cynnal a chadw i gyd yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau cyfredol, safonau atgyweirio a chynigion ar gyfer ffyrdd newydd o wneud pethau. Wrth gyflawni’r prosiect byddwn yn manteisio ar y cyfle i wneud newidiadau dros dro, os oes modd, a fydd yn cysylltu â gwelliannau mwy hirdymor.

Un o’r meysydd cyntaf y byddwn yn edrych arno yw Rheoli’r Gyllideb yn Well – sy’n golygu y byddwn yn craffu ar wariant atgyweirio posibl yn fwy manwl o ddechrau mis Medi. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu newid rhai pethau ar unwaith, ac mae’r Bwrdd eisoes wedi ystyried ac wedi cymeradwyo rhai o’r pethau hyn, sy’n cynnwys:

  • Newid y ffordd yr adroddir am waith atgyweirio o ddydd i ddydd – bydd popeth yn mynd drwy’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn swyddfa Plas Blodwel y Gymdeithas yng Nghyffordd Llandudno yn awr.
  • Dehongliad cliriach o’r gwaith atgyweirio sy’n gyfrifoldeb i denantiaid neu sy’n ad-daladwy.
  • Byddwn yn monitro ein costau yn ofalus a tan ddiwedd mis Mawrth, byddwn yn pennu targedau ar gyfer nifer yr atgyweiriadau y gellir eu harchebu bob dydd/wythnos o fewn y gyllideb bresennol.
  • Gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwaith atgyweirio cynlluniedig ac o ddydd i ddydd – fell ni fyddwn, er enghraifft, yn gosod ffensys neu geginau newydd cyflawn oni bai fod hynny’n rhan o gynllun.


Nid newidiadau yw rhai o’r uchod ond Cymhwysiad Cyson y Polisi sydd yn y Llawlyfr Tenantiaid.

Fel rhan o’r prosiect rydym hefyd yn bwriadu cynnal Arolwg Cyflwr Stoc newydd i asesu ein hanghenion cynnal a chadw a buddsoddi. Hyd nes y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau byddwn yn parhau i gyflawni gwaith atgyweirio hanfodol mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi, ar ffenestri a ffensys, ond ni fyddwn yn adnewyddu’r eitemau mawr hyn oni bai fod hynny’n rhan o gynllun Cynnal a Chadw Cynlluniedig. Pwrpas hyn yw sicrhau gwell gwerth am arian i’n tenantiaid.

Maes arall y byddwn yn edrych arno yw Taliadau Gwasanaeth – ar gyfer pethau fel cynnal a chadw tiroedd, glanhau ardaloedd cymunedol a ffenestri. Rydym wedi bod yn ymgynghori â thenantiaid sy’n talu taliadau gwasanaeth ers peth amser a gwyddom fod hwn yn faes pwysig lle gallwn wneud gwelliannau.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn ystyried y ffordd orau o gyflawni gwelliannau y mae tenantiaid wedi gofyn amdanynt gyda’r adnoddau sydd ar gael gennym.

Rwy’n gwybod fod cynnal a chadw eich cartref yn un o’r gwasanaethau pwysicaf yr ydym yn eu darparu i chi a hoffwn eich sicrhau ein bod yn hyderus y bydd yr adolygiad yn arwain yn y pen draw at well gwasanaeth. Wrth i ni roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio dros yr ychydig fisoedd nesaf, gofynnaf am eich amynedd a’ch dealltwriaeth ac rwy’n gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd, wella pethau go iawn.
Os hoffech wybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud neu os hoffech awgrymu ffyrdd o wella’r gwasanaeth pwysig yma, yna llenwch a dychwelwch y daflen adborth amgaeedig. Yna byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn gadael i chi wybod sut mae’r adolygiad yn mynd yn ei flaen.

Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi ar wefan y gymdeithas a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn y rhifyn nesaf o “Beth yw’r Sgôr?”.

Paul Diggory
Prif Weithredwr

 
 

12/06/07 - 11:40am
Rheolwr Gwella Busnes yn ymuno â’r Gymdeithas

Erbyn hyn mae Cher Williamson wedi ymuno â’r Gymdeithas fel Rheolwr Gwella Busnes. Mae Gwilym Bury, a arferai fod yn y swydd, yn gadael i weithio i Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd Cher yn arwain y gwaith o gynnal adolygiadau gwasanaethau ar ran y Gymdeithas er mwyn dod o hyd i ffyrdd pellach o wella perfformiad y Gymdeithas. Bydd hefyd yn cydgysylltu cynllun gweithredu gwelliant y Gymdeithas y cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru iddo yn dilyn ei harolygiad llwyddiannus diweddar.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas, roedd Cher yn gweithio fel rheolwr perfformiad i Gyngor Angus yn yr Alban ac mae ganddi brofiad helaeth o welliant parhaus a chodi safonau cyflwyno gwasanaeth.

 

07/06/07 - 11:40am
by Elgan Hearn, Bangor and Anglesey Mail
www.icnorthwales.com

Myfyrwyr yn rhoi hwb ariannol i’r hostel

MAE hostel i’r digartref ym Mangor wedi derbyn cymorth ariannol gan fyfyrwyr y ddinas.

Cododd Myfyrwyr Gwirfoddoli Bangor £300 mewn noson ar thema ‘Grease’ i godi arian at Hostel y Santes Fair i’r Digartref.

Mae dau adeilad gan yr hostel, un oddi ar Lôn Cariadon sy’n cynnwys wyth gwely ac un arall y tu ôl i siop Boots the Chemists sydd â phedwar gwely.

Meddai Lisa Capper o’r hostel: “Rydym yn hostel mynediad uniongyrchol, sy’n golygu y gall unrhyw un ddod i mewn oddi ar y strydoedd, mewn theori, ac aros am hyd at dri mis. Yn ystod yr amser yna byddwn yn ceisio eu helpu i ddod o hyd i gartref.”

 
17/04/07 - 11:30am
Cyfarwyddwr newydd ar gyfer cyfnod newydd y Gymdeithas

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) wedi penodi cyfarwyddwr newydd i arwain y ffordd wrth i’r sefydliad dorri tir newydd o ran darparu tai fforddiadwy.

Phil Danson sy’n ymgymryd â’r swydd newydd sbon o Gyfarwyddwr Datblygu Busnes wrth i CTGC baratoi i lansio Cam Un, ei menter Perchentyaeth â Chymorth sy’n seiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Treuliodd Phil yr 11 mlynedd diwethaf fel Rheolwr Marchnata Lesddeiliad i Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, sy’n rhan o Grwp Tai Pennaf. Cyn hynny cafodd 16 mlynedd o brofiad ym maes gwerthu eiddo preswyl a masnachol.

Mae’n briod â Julie, sy’n athrawes yn Ysgol Brynhyfryd, ac mae ganddynt bedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny. Mae Phil yn edrych ymlaen at ei swydd newydd lle bydd yn torri tir newydd i’r Gymdeithas.

“Rhan o’m swydd flaenorol oedd datblygu cyllid heb fod ar ffurf grantiau a bydd y profiad yma’n ddefnyddiol i CTGC wrth i ni symud tuag at ddarparu mwy o dai fforddiadwy heb gymorth grant tai cymdeithasol,” meddai Phil.

“Dyma rywbeth y mae gan Brif Weithredwr a Bwrdd Rheoli CTGC ymrwymiad cryf iawn iddo ac maent yn buddsoddi’n sylweddol ynddo. Rhan hollbwysig o’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y maes hwn fydd cyflwyno Cam Un. Nod y cynllun yma yw galluogi’r bobl hynny na allant fforddio prynu ty heb rywfaint o gymorth yn y lle cyntaf, i ddod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain.

“Rhoi mwy o ddewis yw’r nod, a sicrhau bod tai fforddiadwy o fewn cyrraedd amrywiaeth mwy eang o bobl. Bydd hefyd yn helpu i gymryd rhywfaint o’r pwysau oddi ar restrau aros tai cymdeithasol sy’n cael eu rhentu trwy ddiwallu anghenion pobl mewn ffordd arall.”

Ychwanegodd Phil, sy’n feiciwr mynydd brwd: “Mewn hinsawdd lle mae prisiau tai a digartrefedd ar gynnydd, mae darparu tai fforddiadwy yn dod yn fwy pwysig, a hynny nid yn unig i gymdeithasau tai fel ni. Mae yna lawer o gyfle i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i ddiwallu angen cymdeithas am dai, ac mae hwn yn faes yr ydw i’n awyddus iawn i ymchwilio iddo ar ran CTGC.”

Yng Nghyffordd Llandudno y mae pencadlys CTGC, sy’n berchen ar fwy na 2,100 o gartrefi ledled siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr y Gymdeithas, ei fod wrth ei fodd o gael croesawu Phil at y Gymdeithas.

Phil Danson (canol) yn cael ei groesawu i Gymdeithas Tai Gogledd Cymru gan Helen White, Cadeirydd, a Paul Diggory,
Prif Weithredwr.
 

28/03/07 - 10:00am
Arolygiad yn rhoi sêl bendith

Mae’r Swyddfa Gymreig wedi canmol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) am y ffordd y mae’n gweithredu.

Mae’r Gymdeithas, sydd â’i phrif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno, yn berchen ar fwy na 2,100 o gartrefi ledled siroedd Conwy, Gwynedd a Môn, ac yn gyfrifol am eu rheoli. Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru arolygiad o’r Gymdeithas ym mis Mawrth ‘06. Yn ei adroddiad ar yr arolygiad a gyhoeddwyd heddiw (28 Mawrth, 2007) roedd yr arolygwyr yn cydnabod bod CTGC yn gwella’n barhaus ac yn codi safonau wrth gyflwyno gwasanaethau.

Ym mhob un o’r wyth maes a ystyriwyd yn ystod yr arolygiad, teimlai Swyddfa Archwilio Cymru bod y Gymdeithas yn darparu gwasanaeth boddhaol. Tynnwyd sylw at feysydd o arfer da megis mynediad tenantiaid at wybodaeth, gwerthuso tenantiaethau ‘prawf’ a dull cadarn ac effeithiol o ymdrin â ‘Gwerth Gorau’ sydd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn gwasanaeth.

Croesawodd Paul Diggory, Prif Weithredwr CTGC, yr adroddiad hirddisgwyliedig.

“Mae adroddiad yr arolygiad yn adlewyrchiad teg o’n dulliau cyflwyno gwasanaeth pan gynhaliwyd yr archwiliad fis Mawrth diwethaf er ein bod, mae’n dda gennyf ddweud, wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn fod y ffaith ein bod yn gwella’n barhaus ac yn codi safonau wrth gyflwyno gwasanaethau yn cael ei chydnabod gan fod hynny’n golygu ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

“Yn awr mae angen i ni drosi’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu wrth gymryd rhan yn y broses arolygu yn well gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Dyna yw ein blaenoriaeth gan ein bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a helpu i greu cymunedau gweddus a chynhwysol.”

Yn dilyn yr arolygiad lluniwyd cynllun gweithredu, sydd yn awr yn nwylo’r Prif Arolygydd er mwyn iddo gytuno iddo, i wella ein dulliau cyflwyno gwasanaeth ymhellach mewn rhai meysydd.

“Sylweddolwn y bydd cyfleoedd bob amser i wella’r hyn rydym yn ei wneud a’r ffordd rydym yn ei wneud. Trwy lunio cynllun gweithredu rydym wedi cymryd camau i nodi’r rhain ac yn y rhan fwyaf o achosion, rydym eisoes wedi rhoi gwelliannau ar waith,” ychwanegodd Paul.

Arolygiad Mawrth 2006
Ffeil PDF - 181 kb
Clic i'r dde "Arbed Targed..."

CTGC Ymateb i'r Archwiliad
Ffeil PDF - 22 kb
Clic i'r dde "Arbed Targed..."

 
Agor swyddfa cymdeithas tai yn swyddogol

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sir Richard Parry-Hughes, wedi agor swyddfa newydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ym Mangor yn swyddogol.

Mae’r swyddfa newydd yn Stryd y Deon rownd y gornel o swyddfa flaenorol y Gymdeithas ar y Stryd Fawr ac mae’n parhau ei hymrwymiad i sicrhau presenoldeb lleol er hwylustod i’w chwsmeriaid yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Estynnodd Helen White, Cadeirydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru groeso cynnes i’r Cyng Parry-Hughes a’r gwesteion eraill i’r seremoni agoriadol.

Meddai: “Bu tuedd yn ddiweddar i sefydliadau fel ni gau swyddfeydd ardal er mwyn canoli pethau’n fwy. Rydym wedi ymgynghori â’n cwsmeriaid yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Maent yn hoffi eu bod yn gallu dod i’n gweld pan fyddant yn dod i siopa, ond roeddent yn meddwl fod lle i wella cyfleusterau’r swyddfa.

“Mae symud i’n swyddfeydd newydd yn Stryd y Deon yn ateb y ddau ofyniad yma ar yr un pryd. Rydym yn cadw ein swyddfa leol hwylus ond yn darparu cyfleusterau gwell o lawer i staff a chwsmeriaid fel ei gilydd o ran mwy o le, mannau cyfweld preifat a desg flaen fwy.”

Mae gan y Gymdeithas 2,172 o gartrefi ledled gogledd-orllewin Cymru, ac mae 36% o’r rhain wedi’u lleoli yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae’n cyflogi 10 o bobl ym Mangor gan ddarparu cyswllt dwyieithog lleol i’r gwasanaethau sydd ganddi i’w cynnig i’w chwsmeriaid.

 
Cynllun newydd yn Llanfairfechan

Llwyddodd y Gymdeithas a’n partneriaid Cyngor Conwy i ddenu cyllid ar gyfer cynllun newydd “gofal ychwanegol” yn Llanfairfechan. Grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn ariannu’r prosiect gwerth £7 miliwn yn bennaf, yn ogystal â benthyciad preifat. Bydd y gwaith yn cychwyn yn 2008.

Meddai’r Prif Weithredwr Paul Diggory: “Er y bydd hi’n flwyddyn neu ddwy cyn i’r gwaith gychwyn ar y safle, dyma brosiect gwirioneddol gyffrous ac mae’r Gymdeithas wrth ei bodd o gael gweithio gyda’r Cyngor. Mae’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol i Lanfairfechan a cham sylweddol tuag at gyflawni strategaeth y Cyngor ar gyfer pobl hyn.”

Mae mwy o bobl dros 65 oed yng Nghonwy nag yn unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae rhyw 11.6% ohonynt dros 75 oed, o’i gymharu â’r cyfartaledd o 8.2% ar gyfer Cymru. Thema ganolog yn strategaeth Conwy yw helpu pobl hyn i gynnal eu hannibyniaeth trwy sicrhau bod gofal, cefnogaeth a thai priodol ar gael i gwrdd â’u hanghenion, a bod pob gwasanaeth yn hybu annibyniaeth.

Dyma brif elfennau tai gofal ychwanegol:

  • Mae gan breswylwyr eu drws ffrynt eu hunain
  • Mae gofal ar gael i’r rhai sy’n gofyn amdano
  • Mae modd talu am y rhent a’r costau cynnal a chadw o fewn y cyfraddau budd-dal a ganiateir, sy’n golygu bod unrhyw un yn gallu eu fforddio
  • Gan fod gofal a chefnogaeth ar gael, mae’n gartref am oes
  • Diolch i’r cyfleusterau a’r gefnogaeth, tuedda pobl mewn tai gofal ychwanegol i fod angen llai o gefnogaeth, sy’n golygu bod y llety yn fwy cost effeithiol.

Bydd y cynllun yn cynnwys lolfeydd i’r trigolion, siop, cyfleusterau trin gwallt / ewinedd / traed, ystafell ffitrwydd / ffisiotherapi, bwyty / caffi, golchfa ac ystafelloedd gwely i westeion. Bydd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely. Caiff y datblygiad ei gwblhau mewn dau gam a disgwylir y bydd y cynllun yn gweithredu’n llawn erbyn diwedd 2010.