Hafanu English
Erthyglau a Newyddion Amdanom Ni Dod o hyd i Gartref Gwybodaeth i Breswylwyr Cysylltu a Ni Cwestiynau Cysylltiadau Aelodau
Beth yw Cam Un? Am fanylion pellach cysylltwch â:
 


Ms M L Williams, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyf., Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno,
Conwy, LL31 9HL

Ffôn: 01492 572727

Mae'r ddogfen yma ar gais i'w gael mewn Braille, Braille Cymraeg, Print Bras, Moon,Tap/cd, cd-rom.

Mae angen Adobe Acrobat i weld y ffeiliau ar y tudalen hon.

I lwytho u lawr fersiwn di dâi o Adobe Acrobat, plis rhowch clic ar y logo isod
.


Adobe Acrobat

 

Cam Un yw’r cynllun Cymorth Prynu Cartref a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC). Mae’n seiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ei nod yw helpu’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n methu prynu eu cartref eu hunain heb gymorth ychwanegol.

Gyda menter Cam Un mae’r prynwr yn talu 70 y cant o gost yr eiddo, drwy forgais fel a r f e r, ac mae CTGC yn ariannu’r 30 y cant sy’n weddill trwy ‘fenthyciad ecwiti’. (Cofrestrir ail bridiant gyda’r Gofrestrfa Dir er mwyn diogelu’r benthyciad a sicrhau bod CTGC yn derbyn ad-daliad o’r 30 y cant a fenthycwyd pan ailwerthir yr eiddo.)

Cynnwys
Cam Un - Lluniau Tyddyn Mostyn
Cam Un - Cynllun y safle
Step One Info
Cliciwch Yma
Ffeil PDF - 755kb
Clic u'r dde "Arbed Targed..."
 
Step One Ownership
Cliciwch Yma
Ffeil PDF - 523kb
Clic u'r dde "Arbed Targed..."
Step One - Tyddyn Mostyn
Cliciwch Yma
Ffeil PDF - 691kb
Clic u'r dde "Arbed Targed..."
 

Ariannu’r 70 y cant
Ariannu’r 30 y cant
Treth Stamp
Pwy sy'n gymwys?
Prynu Cartref - Cam wrth Gam

Ariannu’r 70 y cant

Mae prynu ty yn gyfrifoldeb enfawr a chyn gwneud penderfyniad i brynu eiddo mae’n
hanfodol eich bod yn cael cyngor ariannol annibynnol er mwyn cael darlun eglur o’r
costau a’r rhwymedigaethau sydd ynghlwm a sicrhau y gallwch eu fforddio.

Er nad ydych yn talu cost yr eiddo i gyd eich hun gyda chynllun Cam Un, mae’n rhaid i chi dalu 70 y cant ohono. Mae’n bosibl talu’r swm yma o gynilion personol ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis cymryd morgais er mwyn prynu eu cartref. Mae nifer o wahanol fathau o forgeisi ar gael a gall ymgynghorwr ariannol eich helpu i ddod o hyd i’r un mwyaf addas i chi. Telir y mwyafrif o ad-daliadau morgais yn fisol gyda’r swm yn amrywio weithiau yn unolâ newidiadau i gyfraddau llog.

Cofiwch, os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r ad-daliadau morgais, gall y benthyciwr adfeddiannu eich cartref. Ar gyfer Cam Un mae’n rhaid i chi gael morgais gan gymdeithas adeiladu, banc, cymdeithas gyfeillgar neu gwmni yswiriant a dylech osgoi mynd i unrhyw gost, e.e. prisio’r eiddo, cyn cael cadarnhad gan y benthyciwr
sy’n cynnig y morgais i chi ei fod yn perthyn i un o’r grwpiau uchod.

Ariannu’r 30 y cant

Nid oes ad-daliadau misol gyda benthyciad ecwiti CTGC. Pan fyddwch yn gwerthu’r
eiddo bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu i’r Gymdeithas a chyfrifir swm yr ad-daliad fel 30 y cant o werth yr eiddo ar y farchnad agored ar y pryd. Ni fydd y Gymdeithas yn cynnwys gwerth unrhyw welliannau a gytunwyd yn y prisiad marchnad agored.

Er enghraifft, os yw gwerth eich cartref yn codi bedwar y cant, yna bydd y swm i’w ad-dalu i CTGC hefyd yn codi bedwar y cant. Yn yr un modd, os bydd gwerth eich cartref yn gostwng, yna bydd y swm i’w ad-dalu i CTGC hefyd yn gostwng.

Er hynny mae’n werth cofio nad yw hyn yn wir yn achos eich morgais a bydd rhaid i chi addalu’r swm llawn a fenthycwyd i’ch darparwr morgais hyd yn oed os bydd gwerth eich cartref yn gostwng.

Treth Stamp

Y Dreth Stamp yw'r Doll Tir y byddwch yn ei thalu pan fyddwch yn prynu eiddo fel tai, fflatiau, adeiladau eraill neu dir. Caiff ei thalu yn ôl graddfa symudol sy’n dibynnu ar werth yr eiddo sy’n cael ei brynu. Nid oes rhaid talu Treth Stamp ar eiddo sy’n werth £125,000 neu lai, ond ar eiddo sy’n werth rhwng£ 125,001 - £250,000, bydd rhaid talu un y cant o gyfanswm y pris prynu. Er enghraiff t , ar gyfer ty sy’n werth £140,000 byddai’r Dreth Stamp yn £1,400. (Mae'r ffigyrau yn gywir fel yn Mai 2007).

Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses o brynu eich ty, chi fydd biau’r eiddo’n llawn. Fel unrhyw un sy’n prynu ty heb gymorth Cam Un byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw, gwneud ad-daliadau morgais, talu Treth Cyngor ac unrhyw filiau eraill. Mae’n arferol hefyd wrth gymryd morgais i gymryd yswiriant i’ch diogelu rhag colli eich cartref mewn tân neu amgylchiadau trychinebus tebyg. Bydd eich benthyciwr morgais yn mynnu hyn a bydd CTGC hefyd yn gofyn am gopi o’r yswiriant fel cofnod. Er mwyn i’r Gymdeithas ddiogelu ei benthyciad bydd rhaid i chi gydymffurfio ag amodau eraill yn ogystal:

Bydd rhaid i chi:

  • Rhoi gwybod i CTGC a derbyn caniatâd cyn gwneud unrhyw newidiadau neu welliannau i’ch cartref fel adeiladu estyniad neu wneud newidiadau i’w gynllun;
  • Cael caniatâd CTGC cyn cymryd benthyciadau pellach sy’n cael eu diogelu
    gan eich cartref ar gyfer atgyweirio neu welliannau;
  • Gofynnwch i CTGC am brisiad annibynnol os byddwch am werthu eich cartref neu ad-dalu’r benthyciad, er mwyn cytuno ar werth eich cartref – a chi fydd yn gyfrifol am dalu am y prisiad. Pan fydd y benthyciad wedi’i ad-dalu’n llawn bydd y Pridiant Cyfreithiol ar eich eiddo (ar gyfer y benthyciad ecwiti) yn cael ei ddileu, ond bydd Gweithred Rhagbrynu ynglyn â gwerthiant eich cartref yn parhau. (Mae’r Weithred Rhagbrynu yn rhoi’r hawl i CTGC gael cyfle i brynu’r eiddo oddi wrthych neu ddarparu prynwr addas ar eich cyfer.)
Pwy sy'n gymwys?

Cynlluniwyd Cam Un i helpu pobl o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy sy’n awyddus i
brynu cartref ond sydd heb y modd i dalu’r gost lawn o brynu eiddo eu hunain. Er
mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cam Un mae’n rhaid i chi ddangos tystiolaeth o
hyn, derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig CTGC a chyflawni’n gyffredinol y meini
prawf isod:

Dylech fod un ai:

  • Yn denant i CTGC neu yn denant Cyngor yn Ynys Môn, Gwynedd neu Gonwy.
  • Yn prynu am y tro cyntaf ac wedi cofrestru gyda CTGC neu ar restr tai cynghorau Ynys Môn, Gwynedd neu Gonwy
  • Yn prynu am y tro cyntaf ac yn byw yn Ynys Môn, Gwynedd neu Gonwy am y pum mlynedd diwethaf.
  • Yn prynu am y tro cyntaf ac yn byw yn Ynys Môn, Gwynedd neu Gonwy.

SYLWER: Mae’n bosib nad yw statws y blaenoriaethau yma’n gyfartal a gellir eu defnyddio yn y drefn flaenoriaeth a nodwyd

  • Mae’n rhaid i chi allu fforddio cael morgais am 70 y cant o werth prynu’r eiddo a gallu fforddio talu costau eraill prynu ty fel ffioedd cyfreithiol a ffioedd syrfëwr.
  • Ni ddylech fod ag ôl-ddyledion rhent ac os ydych yn denant i gymdeithas dai neu
    gyngor lleol dylech fod yn cadw at eich cytundeb tenantiaeth.
  • Os ydych wedi derbyn Budd-dâl Tai yn y deuddeng mis diwethaf, gallai hyn gael
    e ffaith ar eich cymhwyster.
  • Os ydych eisoes yn berchen, neu’n rhannol berchen, ar eiddo, bydd rhaid i
    CTGC a’ch cyngor lleol gytuno bod amgylchiadau arbennig yn bodoli cyn eich ystyried ar gyfer Cam Un. Bydd rhaid i chi hefyd werthu eich rhan yn yr eiddo pan fyddwch yn prynu cartref trwy gynllun Cam Un .
Prynu Cartref - Cam wrth Gam
  • Cam 1 – Ymgeisio: Yn gyntaf, llenwch y ffurflen gais amgaeedig, gwnewch gopi ar gyfer eich cofnodion personol, ac yna dychwelwch i CTGC, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9HL. Peidiwch ag ymrwymo i brynu cartref yn ariannol nac yn gyfreithiol ar hyn o bryd gan y gallai eich gwneud yn anghymwys.
  • Cam 2 - Ystyried y cais: Bydd CTGC yn gwirio eich cais ac os bydd angen, yn gofyn am fwy o fanylion fel prawf o gynilion neu incwm. Pan fydd y Gymdeithas yn fodlon gyda’r wybodaeth bydd yn rhoi gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer Cam Un ai peidio drwy lythyr.
  • Cam 3 – Symud ymlaen i brynu: Pan fyddwch wedi derbyn llythyr o
    gadarnhad eich bod yn gymwys ar gyfer Cam Un a bod gennych eiddo
    mewn golwg i’w brynu gallwch:
    " Wneud cais am forgais penodol" Penodi cynrychiolydd cyfreithiol - cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig - i ddelio gyda’r pryniant ar eich rhan. Mae nodiadau arweiniad ar Gymorth Prynu ar gael gan CTGC i’w pasio ymlaen i’ch darparwr morgais a’ch cynrychiolydd cyfreithiol.
  • Cam 4 – Yr ochr gyfreithiol: Pan fydd CTGC wedi cytuno i’ch cais ac wedi derbyn copi o’chcynnig morgais, gallwch roi cyfarwyddyd i’ch cynrychiolydd cyfreithiol symud ymlaen i brynu’r eiddo.
  • Cam 5 – Edrych i’r dyfodol: Os dymunwch werthu eich cartref neu
    ad-dalu’r benthyciad yn y dyfodol, mae’n rhaid i chi roi gwybod yn y lle
    cyntaf i CTGC. Bydd y Gymdeithas yn trefnu i brisio’r eiddo er mwyn cytuno ar y swm i’w ad-dalu. Chi fydd yn talu cost y prisiad. Bydd yr ad-daliad yn ddibynnol ar werth eich cartref ar y farchnad ar yr adeg y byddwch yn dymuno gwerthu neu ad-dalu’r benthyciad. Ni fydd y prisiad yn cynnwys unrhyw welliannau a wnaethoch i’ch cartref gyda chaniatâd ysgrifenedig CTGC.

Profedigaeth: Os bydd rhywun sy’n defnyddio Cam Un i brynu eiddo yn marw gan adael partner neu aelod o’r teulu, gallant ddod yn berchennog a pharhau i fyw yn y cartref. Fel arfer bydd y gost o gynnal y cartref a thalu’r morgais yn
cael ei drosglwyddo i’r sawl sy’n parhau i fyw yno. Os nad yw hyn yn
bosibl caiff y cartref ei werthu a’r ddyled sy’n weddill ei had-dalu. Mae
modd cymryd yswiriant sy’n talu allan pan fydd rhywun yn marw, er nad yw
hynny’n orfodol.