HOME :: ENGLISH :: MAINT ARFEROL

LLYWIO
Erthyglau a Newyddion :: Amdanom Ni :: Dod o hyd i Gartref :: Gwybodaeth i Breswyfwyr :: Cysylltu a Ni :: Cwestiynau :: Cyfleon Swyddi :: Cysylltiadau :: Aelodau



Croseo i Dai Goggledd Cymru
Beth sy’n Newydd?
 

20/11/08 - 15:00
INFO UNDATE!

Cam Un Cynllyn – y gallasai eich gyfle i fod yn berchennog ar eich cartref eich hun drwodd Cam Un – Dim ond 1 eiddo ar ôl yn Porthaethwy, Ynys Mon.

Ymgeisiwch rwan ac chi’n gallasai symud yn eich cartref newydd chi yn y Flwyddyn Newydd. Cysylltwch M Lynne Williams ar 01492 563280 am ffurflen gais (cymhwyster yr ymgeisydd.

Beth yw Cam Un?

Cam Un yw’r cynllyn Cymorth Prynu Cartref a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC). Mae’n deiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ei nod yw helpu’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n methu prynu eu cartref eu nunain heb gymorth ychwanegol.

Gyda menter Cam Un mae’r prynwr yn talu 70 y cant o gost yr eiddo, drwy forgais fel arfer, ac mae CTGC yn arriannu’r 30 y cant sy’n weddill trwy ‘fenthyciad ecwiti’.

Yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy y mae’r tai cyntaf sydd ar gael dan y cynllun yma, lle mae’r Gymdeithas yn darparu datblygiad bach o ddeuddeg ty a dau fflat. Bydd chwech o dai ar gael i’w prynu a bydd y gweddill yn cael eu rhentu.

Aseswyd mai £140,000 yw eu gwerth ar y farchnad agored, sy’n golygu y bydd angen i ddarpar brynwyr allu codi £98,000 (70% o’r gwerth) drwy forgais a chyfalaf/cynilion.

Bydd y tai yn cael eu rhoi ar sail anghenion blaenoriaeth gan mai cartrefi 3 ystafell wely ar gyfer 5 person ydynt, a byddant yn cael eu rhoi i deuluoedd gyda phlant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo drwy Gam Un ar ddatblydiad Tyddyn Mostyn, ymgeisiwch rwan! Ffurflen gais ar gael gan Cyngor Sir Ynys Mon, ffon: 01248 752294 or Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, ffon: 01492 572727.

Dychwelwch eich ffurflen gais cyn gynted â phosib oherwydd rydym yn rhagweld y byddwn yn dechrau eu neilltuo ym mis Hydref/ mis Tachwedd er mwyn rhoi cyfarwyddiadau i’r cyfreithwyr ym mis Tachwedd/ mis Rhagfyr. Rydym yn rhagweld y caiff y tai eu trosglwyddo yn ystod Rhagfyr 2007/Ionawr 2008.

Hefyd, gwnewch ymholiadau cyffredinol i weld a oes odd i chi gael morgais a faint y gallwch ei fethyg. Mae’n bwysig eich bod yn hapus gyda’r ad-daliadau y bydd rhaid i chi eu gwneud ochr yn ochr â’ch biliau ty arferol. Peidiwch â gwneud ynrhyw ymrwymiad ariannol na chyfreithiol ar hyn o bryd.

Am wybodaeth pellach ynglyn ag cynllun Cam Un, clician yma os gwelwch chi’n dda

 

14/04/08 - 15:00
Fforwm Ar-lein Cymdeithas TaiGogledd Cymru

CTGC yw’r gymdeithas dai gyntaf i ddarparu fforwmarlein i’w holl denantiaid ac aelodau’r cyhoedd. Cynlluniwyd y fforwmi ddod â holl aelodau’r gymuned at ei gilydd. Felly os ydych chi’n teimlo fel cychwyn trafodaeth am rywbeth sydd o ddiddordeb i chi,
sy’n eich cyffroi, eich gwylltio neu’n eich gwneud yn rhwystredig, yna ewch ar-lein o Ebrill 14 yn:

http://nwha.qforum.biz

Fel arall, gallwch bori drwy’r categorïau i ddod o hyd i gynghorion hwylus neu ddysgu
beth sy’n digwydd yn eich ardal chi. Mae’r fforwmyn ddefnyddiol ar gyfer sawl pwrpas, o drafod cynghorion doeth, Cyfnewid Cartrefi neu ddigwyddiadau sydd ar fin cael eu cynnal yn yr ardal, i sefydlu grwpiau cymdogaeth a gwasanaeth cyfnewid nwyddau.

Bydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ynmynd o gwmpas gwahanol ystadau yn ystod yr haf a bydd cyfrifiadur ar gael i denantiaid ei ddefnyddio i gofrestru a defnyddio’r fforwm.

Bydd gwobrau i’r drafodaeth fwyaf defnyddiol sy’n cael ei chychwyn bob chwarter.

 

 

 

30/08/07 - 12:30pm
Gwella eich Gwasanaeth Cynnal a Chadw

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ar fin cychwyn adolygiad mawr o’r ffordd y mae’n rheoli ei gwasanaeth cynnal a chadw. Comisiynwyd yr adolygiad gan Dîm Rheoli Corfforaethol y gymdeithas ac fe’i hawdurdodwyd gan Fwrdd y gymdeithas.

Mae nod yr adolygiad yn ddigon syml: “Sefydlu trefniadau cynnal a chadw effeithiol ac effeithlon o fewn y gymdeithas”

Byddwn yn edrych ar y gwasanaeth cynnal a chadw i gyd yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau cyfredol, safonau atgyweirio a chynigion ar gyfer ffyrdd newydd o wneud pethau. Wrth gyflawni’r prosiect byddwn yn manteisio ar y cyfle i wneud newidiadau dros dro, os oes modd, a fydd yn cysylltu â gwelliannau mwy hirdymor.

Un o’r meysydd cyntaf y byddwn yn edrych arno yw Rheoli’r Gyllideb yn Well – sy’n golygu y byddwn yn craffu ar wariant atgyweirio posibl yn fwy manwl o ddechrau mis Medi. Fel rhan o hyn rydym yn bwriadu newid rhai pethau ar unwaith, ac mae’r Bwrdd eisoes wedi ystyried ac wedi cymeradwyo rhai o’r pethau hyn, sy’n cynnwys:

  • Newid y ffordd yr adroddir am waith atgyweirio o ddydd i ddydd – bydd popeth yn mynd drwy’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn swyddfa Plas Blodwel y Gymdeithas yng Nghyffordd Llandudno yn awr.
  • Dehongliad cliriach o’r gwaith atgyweirio sy’n gyfrifoldeb i denantiaid neu sy’n ad-daladwy.
  • Byddwn yn monitro ein costau yn ofalus a tan ddiwedd mis Mawrth, byddwn yn pennu targedau ar gyfer nifer yr atgyweiriadau y gellir eu harchebu bob dydd/wythnos o fewn y gyllideb bresennol.
  • Gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwaith atgyweirio cynlluniedig ac o ddydd i ddydd – fell ni fyddwn, er enghraifft, yn gosod ffensys neu geginau newydd cyflawn oni bai fod hynny’n rhan o gynllun.


Nid newidiadau yw rhai o’r uchod ond Cymhwysiad Cyson y Polisi sydd yn y Llawlyfr Tenantiaid.

Fel rhan o’r prosiect rydym hefyd yn bwriadu cynnal Arolwg Cyflwr Stoc newydd i asesu ein hanghenion cynnal a chadw a buddsoddi. Hyd nes y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau byddwn yn parhau i gyflawni gwaith atgyweirio hanfodol mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi, ar ffenestri a ffensys, ond ni fyddwn yn adnewyddu’r eitemau mawr hyn oni bai fod hynny’n rhan o gynllun Cynnal a Chadw Cynlluniedig. Pwrpas hyn yw sicrhau gwell gwerth am arian i’n tenantiaid.

Maes arall y byddwn yn edrych arno yw Taliadau Gwasanaeth – ar gyfer pethau fel cynnal a chadw tiroedd, glanhau ardaloedd cymunedol a ffenestri. Rydym wedi bod yn ymgynghori â thenantiaid sy’n talu taliadau gwasanaeth ers peth amser a gwyddom fod hwn yn faes pwysig lle gallwn wneud gwelliannau.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn ystyried y ffordd orau o gyflawni gwelliannau y mae tenantiaid wedi gofyn amdanynt gyda’r adnoddau sydd ar gael gennym.

Rwy’n gwybod fod cynnal a chadw eich cartref yn un o’r gwasanaethau pwysicaf yr ydym yn eu darparu i chi a hoffwn eich sicrhau ein bod yn hyderus y bydd yr adolygiad yn arwain yn y pen draw at well gwasanaeth. Wrth i ni roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio dros yr ychydig fisoedd nesaf, gofynnaf am eich amynedd a’ch dealltwriaeth ac rwy’n gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd, wella pethau go iawn.
Os hoffech wybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud neu os hoffech awgrymu ffyrdd o wella’r gwasanaeth pwysig yma, yna llenwch a dychwelwch y daflen adborth amgaeedig. Yna byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn gadael i chi wybod sut mae’r adolygiad yn mynd yn ei flaen.

Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi ar wefan y gymdeithas a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn y rhifyn nesaf o “Beth yw’r Sgôr?”.

Paul Diggory
Prif Weithredwr

 

12/06/07 - 11:40am
Rheolwr Gwella Busnes yn ymuno â’r Gymdeithas

Erbyn hyn mae Cher Williamson wedi ymuno â’r Gymdeithas fel Rheolwr Gwella Busnes. Mae Gwilym Bury, a arferai fod yn y swydd, yn gadael i weithio i Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd Cher yn arwain y gwaith o gynnal adolygiadau gwasanaethau ar ran y Gymdeithas er mwyn dod o hyd i ffyrdd pellach o wella perfformiad y Gymdeithas. Bydd hefyd yn cydgysylltu cynllun gweithredu gwelliant y Gymdeithas y cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru iddo yn dilyn ei harolygiad llwyddiannus diweddar.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas, roedd Cher yn gweithio fel rheolwr perfformiad i Gyngor Angus yn yr Alban ac mae ganddi brofiad helaeth o welliant parhaus a chodi safonau cyflwyno gwasanaeth.

 

07/06/07 - 11:40am
by Elgan Hearn, Bangor and Anglesey Mail
www.icnorthwales.com

Myfyrwyr yn rhoi hwb ariannol i’r hostel

MAE hostel i’r digartref ym Mangor wedi derbyn cymorth ariannol gan fyfyrwyr y ddinas.

Cododd Myfyrwyr Gwirfoddoli Bangor £300 mewn noson ar thema ‘Grease’ i godi arian at Hostel y Santes Fair i’r Digartref.

Mae dau adeilad gan yr hostel, un oddi ar Lôn Cariadon sy’n cynnwys wyth gwely ac un arall y tu ôl i siop Boots the Chemists sydd â phedwar gwely.

Meddai Lisa Capper o’r hostel: “Rydym yn hostel mynediad uniongyrchol, sy’n golygu y gall unrhyw un ddod i mewn oddi ar y strydoedd, mewn theori, ac aros am hyd at dri mis. Yn ystod yr amser yna byddwn yn ceisio eu helpu i ddod o hyd i gartref.”

 
17/04/07 - 11:30am
Cyfarwyddwr newydd ar gyfer cyfnod newydd y Gymdeithas

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) wedi penodi cyfarwyddwr newydd i arwain y ffordd wrth i’r sefydliad dorri tir newydd o ran darparu tai fforddiadwy.

Phil Danson sy’n ymgymryd â’r swydd newydd sbon o Gyfarwyddwr Datblygu Busnes wrth i CTGC baratoi i lansio Cam Un, ei menter Perchentyaeth â Chymorth sy’n seiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Treuliodd Phil yr 11 mlynedd diwethaf fel Rheolwr Marchnata Lesddeiliad i Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, sy’n rhan o Grwp Tai Pennaf. Cyn hynny cafodd 16 mlynedd o brofiad ym maes gwerthu eiddo preswyl a masnachol.

Mae’n briod â Julie, sy’n athrawes yn Ysgol Brynhyfryd, ac mae ganddynt bedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny. Mae Phil yn edrych ymlaen at ei swydd newydd lle bydd yn torri tir newydd i’r Gymdeithas.

“Rhan o’m swydd flaenorol oedd datblygu cyllid heb fod ar ffurf grantiau a bydd y profiad yma’n ddefnyddiol i CTGC wrth i ni symud tuag at ddarparu mwy o dai fforddiadwy heb gymorth grant tai cymdeithasol,” meddai Phil.

“Dyma rywbeth y mae gan Brif Weithredwr a Bwrdd Rheoli CTGC ymrwymiad cryf iawn iddo ac maent yn buddsoddi’n sylweddol ynddo. Rhan hollbwysig o’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y maes hwn fydd cyflwyno Cam Un. Nod y cynllun yma yw galluogi’r bobl hynny na allant fforddio prynu ty heb rywfaint o gymorth yn y lle cyntaf, i ddod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain.

“Rhoi mwy o ddewis yw’r nod, a sicrhau bod tai fforddiadwy o fewn cyrraedd amrywiaeth mwy eang o bobl. Bydd hefyd yn helpu i gymryd rhywfaint o’r pwysau oddi ar restrau aros tai cymdeithasol sy’n cael eu rhentu trwy ddiwallu anghenion pobl mewn ffordd arall.”

Ychwanegodd Phil, sy’n feiciwr mynydd brwd: “Mewn hinsawdd lle mae prisiau tai a digartrefedd ar gynnydd, mae darparu tai fforddiadwy yn dod yn fwy pwysig, a hynny nid yn unig i gymdeithasau tai fel ni. Mae yna lawer o gyfle i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i ddiwallu angen cymdeithas am dai, ac mae hwn yn faes yr ydw i’n awyddus iawn i ymchwilio iddo ar ran CTGC.”

Yng Nghyffordd Llandudno y mae pencadlys CTGC, sy’n berchen ar fwy na 2,100 o gartrefi ledled siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr y Gymdeithas, ei fod wrth ei fodd o gael croesawu Phil at y Gymdeithas.

 

28/03/07 - 10:00am
Arolygiad yn rhoi sêl bendith

Mae’r Swyddfa Gymreig wedi canmol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) am y ffordd y mae’n gweithredu.

Mae’r Gymdeithas, sydd â’i phrif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno, yn berchen ar fwy na 2,100 o gartrefi ledled siroedd Conwy, Gwynedd a Môn, ac yn gyfrifol am eu rheoli. Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru arolygiad o’r Gymdeithas ym mis Mawrth ‘06. Yn ei adroddiad ar yr arolygiad a gyhoeddwyd heddiw (28 Mawrth, 2007) roedd yr arolygwyr yn cydnabod bod CTGC yn gwella’n barhaus ac yn codi safonau wrth gyflwyno gwasanaethau.

Ym mhob un o’r wyth maes a ystyriwyd yn ystod yr arolygiad, teimlai Swyddfa Archwilio Cymru bod y Gymdeithas yn darparu gwasanaeth boddhaol. Tynnwyd sylw at feysydd o arfer da megis mynediad tenantiaid at wybodaeth, gwerthuso tenantiaethau ‘prawf’ a dull cadarn ac effeithiol o ymdrin â ‘Gwerth Gorau’ sydd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn gwasanaeth.

Croesawodd Paul Diggory, Prif Weithredwr CTGC, yr adroddiad hirddisgwyliedig.

“Mae adroddiad yr arolygiad yn adlewyrchiad teg o’n dulliau cyflwyno gwasanaeth pan gynhaliwyd yr archwiliad fis Mawrth diwethaf er ein bod, mae’n dda gennyf ddweud, wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny,” meddai.

Arolygiad yn rhoi sêl bendith / tud 2…

“Mae’n bwysig iawn fod y ffaith ein bod yn gwella’n barhaus ac yn codi safonau wrth gyflwyno gwasanaethau yn cael ei chydnabod gan fod hynny’n golygu ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

“Yn awr mae angen i ni drosi’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu wrth gymryd rhan yn y broses arolygu yn well gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Dyna yw ein blaenoriaeth gan ein bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a helpu i greu cymunedau gweddus a chynhwysol.”

Yn dilyn yr arolygiad lluniwyd cynllun gweithredu, sydd yn awr yn nwylo’r Prif Arolygydd er mwyn iddo gytuno iddo, i wella ein dulliau cyflwyno gwasanaeth ymhellach mewn rhai meysydd.

“Sylweddolwn y bydd cyfleoedd bob amser i wella’r hyn rydym yn ei wneud a’r ffordd rydym yn ei wneud. Trwy lunio cynllun gweithredu rydym wedi cymryd camau i nodi’r rhain ac yn y rhan fwyaf o achosion, rydym eisoes wedi rhoi gwelliannau ar waith,” ychwanegodd Paul.

Arolygiad Mawrth 2006
Ffeil PDF - 181 kb
Clic i'r dde "Arbed Targed..."

CTGC Ymateb i'r Archwiliad
Ffeil PDF - 22 kb
Clic i'r dde "Arbed Targed..."

 

 

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn cefnogi Jordan

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn cefnogi Jordan Bailey sydd ar fin cychwyn ar daith ei fywyd i adeiladu tai o’r newydd ar gyfer pobl ddigartref ar daith ‘genhadu’ i Fecsico.

Bydd Jordan, sy’n 12 oed ac yn byw yng Nghonwy, yn helpu i adeiladu tai ar gyfer pobl ddigartref yn Tijuana, fel rhan o daith genhadol gymunedol y cafodd ei annog i fynd arni gan grwp ieuenctid yr Urban Saints o Gonwy. “Rwy’n dda gyda phobl ac rwy’n edrych ymlaen at wneud ffrindiau newydd ym Mecsico. Bydd y bobl y byddaf yn eu cyfarfod yno yn wahanol i’m ffrindiau yma ar hyn o bryd gan nad oes ganddyn nhw dy i fyw ynddo.” Bydd Jordan yn cysgu mewn gwersyll heb ddim dwr tap, fel rhan o dîm bach sy’n bwriadu codi pum ty ac ysgol o’r newydd. “Rwy’n teimlo’n gyffrous oherwydd bydd yn rhoi cyfle i mi brofi fy hun,” meddai Jordan. “Dydw i ddim yn siwr eto sut fydd hyn yn fy newid, ond rwy’n gwybod y bydd.” Strwythurau pren yn mesur 7 x 7 fydd yr adeiladau gyda llawr slabiau a choncrit ar y waliau allanol. Meddai Jordan, “Rwyf eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a helpu pobl eraill sydd heb y pethau sydd gennyf fi.” Meddai ei fam, Cherie, “Nid yw plant bob amser yn gwerthfawrogi gwir werthoedd bywyd. Maen nhw’n poeni am gael esgidiau newydd neu’r ffôn symudol diweddaraf. Mae’n dda iddyn nhw fynd allan o’u hamgylchedd a gweld beth yw’r gwir flaenoriaethau.”

Mae Jordan yn darparu’r holl arian ar gyfer y daith ei hun. Mae eisoes wedi profi ei fod yn weithiwr caled ac wedi codi dros £400 yn pacio bagiau yn Asda a Somerfield. Creodd penderfyniad Jordan argraff fawr ar Paul Diggory hefyd, sef Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Gogledd Cymru. Meddai, “Gwelais erthygl ar dudalen flaen y North Wales Pioneer. Cydiodd yn fy nychymyg ar unwaith o weld fod rhywun o oed Jordan eisiau cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i eraill sydd dan anfantais oherwydd ble maen nhw’n byw.” Roedd Jordan wrth ei fodd o dderbyn cyfraniad o £200 oddi wrth Gymdeithas Tai Gogledd Cymru. “Alla i ddim coelio’r peth,” meddai. “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn.”

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Bethany Bennett ac ymddangosodd gyntaf yn y papur newydd The North Wales Pioneer ar 14 Chwefror.

 
Agor swyddfa cymdeithas tai yn swyddogol

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sir Richard Parry-Hughes, wedi agor swyddfa newydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ym Mangor yn swyddogol.

Mae’r swyddfa newydd yn Stryd y Deon rownd y gornel o swyddfa flaenorol y Gymdeithas ar y Stryd Fawr ac mae’n parhau ei hymrwymiad i sicrhau presenoldeb lleol er hwylustod i’w chwsmeriaid yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Estynnodd Helen White, Cadeirydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru groeso cynnes i’r Cyng Parry-Hughes a’r gwesteion eraill i’r seremoni agoriadol.

Meddai: “Bu tuedd yn ddiweddar i sefydliadau fel ni gau swyddfeydd ardal er mwyn canoli pethau’n fwy. Rydym wedi ymgynghori â’n cwsmeriaid yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Maent yn hoffi eu bod yn gallu dod i’n gweld pan fyddant yn dod i siopa, ond roeddent yn meddwl fod lle i wella cyfleusterau’r swyddfa.

“Mae symud i’n swyddfeydd newydd yn Stryd y Deon yn ateb y ddau ofyniad yma ar yr un pryd. Rydym yn cadw ein swyddfa leol hwylus ond yn darparu cyfleusterau gwell o lawer i staff a chwsmeriaid fel ei gilydd o ran mwy o le, mannau cyfweld preifat a desg flaen fwy.”

Mae gan y Gymdeithas 2,172 o gartrefi ledled gogledd-orllewin Cymru, ac mae 36% o’r rhain wedi’u lleoli yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae’n cyflogi 10 o bobl ym Mangor gan ddarparu cyswllt dwyieithog lleol i’r gwasanaethau sydd ganddi i’w cynnig i’w chwsmeriaid.

 
Cartref newydd ym Mangor i Gymdeithas Tai

Mae cwsmeriaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn manteisio ar well cyfleusterau yn eu swyddfa newydd ym Mangor.

Mae’r Gymdeithas, sydd â 2,172 o gartrefi ledled gogledd-orllewin Cymru, wedi symud o’i leoliad blaenorol ar y Stryd Fawr i swyddfeydd newydd eu hadeiladu sydd rownd y gornel yn Stryd y Deon.

Mae’r cam yn ganlyniad ymgynghori â phreswylwyr y Gymdeithas yng Ngwynedd ac Ynys Môn, a ddangosodd yr hoffent gael cyfleusterau ychwanegol, er eu bod yn gwerthfawrogi lleoliad canolog y swyddfa a’r gwasanaeth dwyieithog yr oedd staff y Gymdeithas yn ei roi yno.

Dywedodd Jude Horsnell, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, fod y swyddfeydd newydd yn ateb y gofynion i’r dim.

“Maen nhw mewn lleoliad canolog, ac mor hawdd i breswylwyr fynd i mewn iddyn nhw; yn fwy, gan gynnig mwy o le i’n staff yn ogystal â chyfleusterau cyfweld preifat. Mae’r cownter blaen yn fwy hefyd felly gallwn roi sylw i nifer o’n cwsmeriaid ar yr un pryd gan dorri i lawr ar amser aros ar adegau prysur,” eglurodd.

“Roedd llawer o breswylwyr yn dod i’n hen swyddfeydd ac roedd pawb yn hoffi eu lleoliad. Rydym yn hyderus y byddant yn hoffi ein hadeilad newydd yn fwy fyth, a’r gwasanaeth mwy personol ac effeithiol y gallwn ei gynnig yno.”

Mae gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru ryw 10 aelod o staff yn gweithio ym Mangor, gan ddarparu cyswllt dwyieithog i’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig i breswylwyr.

“Mae presenoldeb lleol, mewn man hwylus i’n tenantiaid, yn dal yn agweddau pwysig iawn i ni. Darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i’n trigolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn ar garreg eu drws yw ein nod, i’w harbed rhag gorfod cysylltu â’n prif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno,” meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas, Paul Diggory.

“Bydd symud i’r swyddfa newydd hefyd yn ein galluogi i leoli staff ôl-ddyledion rhent a chynnal a chadw ym Mangor, gan ehangu’r gwasanaethau lleol ymhellach fyth.”

Caiff y swyddfa newydd ei hagor yn swyddogol gan Richard Parry-Hughes, Arweinydd Cyngor Gwynedd, a Helen White, Cadeirydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, ddydd Gwener, 21 Gorffennaf.

 
Ethol pennaeth cymdeithas tai lleol yn Is-lywydd

Etholwyd pennaeth Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn Is-lywydd y corff proffesiynol ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes tai.

Derbyniodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, swydd Is-lywydd y Sefydliad Tai Siartredig yn ystod eu cynhadledd flynyddol yn Harrogate. Golyga’r penodiad y bydd Paul yn dod yn Llywydd am 12 mis, ar ôl treulio blwyddyn fel Is-lywydd.

Bu Paul yn aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig ers rhyw 30 o flynyddoedd ers iddo ddechrau ar ei yrfa ym maes tai fel hyfforddai ystadau gyda Chyngor Wreekin. Ers hynny mae wedi dringo’r ysgol broffesiynol gan weithio i Gorfforaeth Ddatblygu Telford, Cyngor Dinas Caer, cyn Gyngor Bwrdeistref Delyn a Chyngor Conwy cyn cymryd yr awenau gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru yn y flwyddyn 2000.

Mae gan y Sefydliad Tai Siartredig fwy na 19,000 o aelodau sy’n gweithio yn y sector tai ar gyfer awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chwmnïau preifat ledled y Deyrnas Unedig ac Asia’r Pasiffig.

Ei bwrpas yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol ym maes tai yn cyfrannu cymaint ag y gallant i les cymunedau trwy godi safonau a darparu hyfforddiant ac addysg.

Meddai Paul Diggory: “Mae’n fraint fawr i mi gael fy ngwneud yn Is-lywydd y Sefydliad Tai Siartredig, corff yr wyf wedi bod yn falch o fod yn aelod ohono ar sawl lefel ers blynyddoedd lawer bellach.

“Un o’r heriau sy’n ein hwynebu yw dangos bod buddsoddi mewn tai wedi gwella pethau go iawn – nid cartrefi pobl yn unig – ond mewn meysydd eraill o’u bywydau. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i ddangos i’r proffesiwn, yn ogystal â’r bobl y tu allan iddo, y gwerth y gall pobl ym maes tai ei ychwanegu at gymdeithas heddiw.”

 
Aelodau newydd i Fwrdd cymdeithas tai

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) wedi ethol pedwar newydd ar ei Fwrdd Rheoli.

Cynhaliwyd yr etholiad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.

Mae’n dilyn ymddiswyddiad pedwar aelod o’r Bwrdd Rheoli - Dafydd Ifans, David Scott, Charles Haste ac Eric Howe. Rhyngddynt roeddent wedi gwasanaethu CTGC am 29 o flynyddoedd.

Diolchodd Cadeirydd y Gymdeithas, Helen White, i’r aelodau oedd yn rhoi’r gorau iddi gan ddweud, “bu eich cyfraniad dros y blynyddoedd yn amhrisiadwy i’r ffordd y mae’r gymdeithas wedi datblygu”.

Mae aelodau newydd y Bwrdd yn cynnwys tenantiaid CTGC Gerry Davies o Landudno, peintiwr ac addurnwr hunangyflogedig wedi ymddeol a Chadeirydd Cymdeithas Trigolion Parc Clarence y Gymdeithas; ac Adrian Baugh o Fae Colwyn, dyn busnes wedi ymddeol gyda phrofiad o beirianneg a’r diwydiant adeiladu.

Dywedodd Adrian ei fod yn gobeithio y byddai ei brofiad o fusnes ac adeiladu yn gyfraniad defnyddiol i Fwrdd Rheoli’r Gymdeithas.

“ Fel tenant i’r Gymdeithas hefyd ac un sy’n gallu gweld pethau o’u safbwynt nhw, rwy’n gobeithio y bydddaf yn deall pethau’n well nag aelod o’r Bwrdd sydd ddim yn denant,” ychwanegodd.

Aelodau newydd eraill o’r Bwrdd yw’r bargyfreithiwr a chyn AS Gorllewin Clwyd Gareth Thomas, Cymro Cymraeg o Ruthun; a James Sutton o Abergele, Pennaeth Gwybodaeth Reoli gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd â phrofiad helaeth o reoli a mesur perfformiad a chynllunio busnes strategol.

Eglurodd James ei fod yn edrych ymlaen at yr her newydd oedd o’i flaen yn sgil ymuno âCTGC.

“Dyma gyfle i mi ddatblygu a defnyddio fy sgiliau mewn maes cwbl newydd. Mae gan Gymdeithasau Tai ran bwysig i’w chwarae mewn cymdeithas ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwasanaeth da,” meddai.

 
Bodloni angen henoed y dyfodol am dai


Mae llety cysgodol yn perthyn i’r gorffennol o ran bodloni angen henoed y dyfodol am dai.

Fe’u hadeiladwyd yn ystod y 70au a’r 80au pan oedd arian yn brin, ac mae’r fflatiau bach un ystafell yn mynd yn fwy a mwy anodd eu gosod wrth i bensiynwyr arfer eu dewis yn well ynglyn â’u hanghenion llety wrth iddynt heneiddio.

Dyna oedd negeseuon plaen Nigel Appleton, ymgynghorydd ar dai i’r henoed a chyn gyfarwyddwr Anchor Housing Trust, darparwr llety mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer yr henoed, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.

Eglurodd Mr Appleton fod poblogaethau’r dyfodol o bobl wedi ymddeol wedi arfer bod yn ‘ddefnyddwyr gyda hawliau’ a byddant yn ystyried eu hanghenion tai yn y dyfodol o safbwynt gwahanol, gan gwestiynu safonau cyfleusterau ac amodau eu tenantiaeth.

Mae’n debyg y byddant yn berchen ar eu cartrefi eu hunain ac efallai y byddant am barhau i fod, a byddant hefyd am gynnal eu ffordd o fyw, eu hannibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau wrth iddynt heneiddio.

“Bydd y rhan fwyaf ohonom yn llwyddo i fod yn eithaf annibynnol tan y ddwy flwyddyn olaf o’n bywydau. Byddwn eisiau’r un dewisiadau dros y pethau cyffredin mewn bywyd – ble’r ydym yn bwyta, beth rydym yn ei fwyta ac yng nghwmni pwy, er enghraifft – yn 84 â phan oeddem yn ieuengach. Bydd yr henoed hefyd am barhau i gadw rheolaeth wrth i bethau newid a gallu cael gafael ar gymorth sy’n berthnasol i’w hanghenion, pan fyddant ei angen. Mae angen i ni annog pobl i gadw gafael ar eu galluoedd, nid ceisio’u cymryd oddi arnynt,” rhybuddiodd Mr Appleton.

“Rhaid i ni fod yn fwy realistig am ein cyfeiriad o ran patrwm y ddarpariaeth dai ar gyfer ein henoed. Mae pobl eisiau rhywle i fyw, nid rhywle i aros am y bedd.”

Darparu tai hyblyg, hawdd eu rheoli a hygyrch i’w rhentu neu fel rhan o gynllun rhanberchenogaeth ddylai’r nod fod. Dylid cael amrywiaeth o fathau o ofal ychwanegol hefyd a all gefnogi ffordd o fyw ond gyda’r potensial o ymdopi ag amrywiaeth o raddau o ddibyniaeth.

“Mae angen i ni gael y cymysgedd iawn o ryddid a sicrwydd. Mae pobl am fod yn rhydd i barhau i fyw eu bywydau, i gael eu trin fel dinasyddion a chymryd rhan yn y perthnasoedd a’r gweithgareddau sy’n gwneud eu bywyd yn werth ei fyw. Ond maent hefyd am gael sicrwydd y caiff eu hanghenion eu diwallu wrth i’r anghenion hynny fynd yn fwy taer,” meddai Mr Appleton.

Galwodd ar ddarparwyr llety i edrych ar eu darpariaeth eu hunain o ran tai i’r henoed o safbwynt personol.

“A ydych chi’n gobeithio gorffen eich dyddiau yn y llefydd yr ydych yn eu darparu i’ch tenantiaid?” holodd. “Os mai ‘na’ yw’r ateb, os nad yw’n ddigon da i chi, beth ar y ddaear sy’n gwneud i chi feddwl ei fod yn ddigon da iddyn nhw?”

 

Cynllun Cymorth i Brynu Cartref

Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC) ar fin adeiladu stad fach o dai ym Mhorthaethwy. Bydd chwech o’r cartrefi hyn ar gael i’w prynu drwy’r Cynllun Cymorth i Brynu Cartref uchod. Tai pâr gyda thair ystafell wely a lle parcio oddi ar y ffordd fydd y rhain.

Er mwyn cael cymorth i brynu, bydd angen i chi gael morgais/ cyfalaf er mwyn i chi allu prynu 70% o gyfanswm gwerth yr eiddo. Bydd CTGC yn darparu’r 30% arall ar ffurf benthyciad a gâi ei ddiogelu yn erbyn yr eiddo trwy Bridiant Cyfreithiol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun hwn, awgrymwn eich bod yn gwneud ymholiadau cyffredinol ynglyn â chael morgais er mwyn gweld a fedrwch fenthyg yr arian a gweld beth yw’r uchafswm y byddech yn gallu ei fenthyg. Mae’n bwysig eich bod yn fodlon y byddech yn gyfforddus gyda’r ad-daliadau hyn ochr yn ochr â’r holl filiau eraill sy’n gysylltiedig â rhedeg eich cartref ac ati.

Cysylltwch â Miss M L Williams ar 01492 563280 am becyn ymgeisio.


Gwell gwasanaethau yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Yn 2006 caiff swyddfa fwy newydd ei chwblhau yn Dean Street, Bangor i ddarparu gwasanaeth lleol gwell i breswylwyr sy’n byw yng Ngwynedd ac Ynys Môn. O ganlyniad i adolygiad Gwerth Gorau blaenorol ar gyflwyno gwasanaethau yng Ngwynedd ac Ynys Môn sylweddolodd y Gymdeithas fod preswylwyr yn awyddus i swyddfa Bangor fod yn gallu delio â’u holl ymholiadau, heb iddynt orfod ffonio swyddfa’r Gymdeithas yng Nghyffordd Llandudno. Bydd derbynfa fwy yn y swyddfa newydd yn ogystal ag ystafell gyfweld breifat helaeth. Cewch wybod y manylion angenrheidiol yn nes at yr amser. Fel cwsmer, gobeithio y bydd hyn yn welliant i chi.

 
Cynllun newydd yn Llanfairfechan

Llwyddodd y Gymdeithas a’n partneriaid Cyngor Conwy i ddenu cyllid ar gyfer cynllun newydd “gofal ychwanegol” yn Llanfairfechan. Grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn ariannu’r prosiect gwerth £7 miliwn yn bennaf, yn ogystal â benthyciad preifat. Bydd y gwaith yn cychwyn yn 2008.

Meddai’r Prif Weithredwr Paul Diggory: “Er y bydd hi’n flwyddyn neu ddwy cyn i’r gwaith gychwyn ar y safle, dyma brosiect gwirioneddol gyffrous ac mae’r Gymdeithas wrth ei bodd o gael gweithio gyda’r Cyngor. Mae’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol i Lanfairfechan a cham sylweddol tuag at gyflawni strategaeth y Cyngor ar gyfer pobl hyn.”

Mae mwy o bobl dros 65 oed yng Nghonwy nag yn unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae rhyw 11.6% ohonynt dros 75 oed, o’i gymharu â’r cyfartaledd o 8.2% ar gyfer Cymru. Thema ganolog yn strategaeth Conwy yw helpu pobl hyn i gynnal eu hannibyniaeth trwy sicrhau bod gofal, cefnogaeth a thai priodol ar gael i gwrdd â’u hanghenion, a bod pob gwasanaeth yn hybu annibyniaeth.

Dyma brif elfennau tai gofal ychwanegol:

  • Mae gan breswylwyr eu drws ffrynt eu hunain
  • Mae gofal ar gael i’r rhai sy’n gofyn amdano
  • Mae modd talu am y rhent a’r costau cynnal a chadw o fewn y cyfraddau budd-dal a ganiateir, sy’n golygu bod unrhyw un yn gallu eu fforddio
  • Gan fod gofal a chefnogaeth ar gael, mae’n gartref am oes
  • Diolch i’r cyfleusterau a’r gefnogaeth, tuedda pobl mewn tai gofal ychwanegol i fod angen llai o gefnogaeth, sy’n golygu bod y llety yn fwy cost effeithiol.

Bydd y cynllun yn cynnwys lolfeydd i’r trigolion, siop, cyfleusterau trin gwallt / ewinedd / traed, ystafell ffitrwydd / ffisiotherapi, bwyty / caffi, golchfa ac ystafelloedd gwely i westeion. Bydd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely. Caiff y datblygiad ei gwblhau mewn dau gam a disgwylir y bydd y cynllun yn gweithredu’n llawn erbyn diwedd 2010.