Ein Bwrdd

Aelodau'r Bwrdd 2009 - 2010

Sefydliad sy'n ymroi i ddarparu cartrefi i bobl na allant fforddio prynu na rhentu ar y farchnad agored ac sydd â gwir angen tŷ, o'u hasesu yn ôl system bwyntiau, yw Cymdeithas Tai Gogledd Cymru.

Mae'r Gymdeithas wedi'i chofrestru gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gorff cyhoeddus sy'n ariannu ac yn goruchwylio gwaith Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae Bwrdd sy'n cynnwys pobl leol broffesiynol sydd wedi ymrwymo i ddarparu tai yn penderfynu ar y polisïau y mae'r Gymdeithas yn eu gweithredu, ac yn cyflogi tîm o swyddogion proffesiynol i ddarparu gwasanaeth tai o safon.

 

NWH Board members

Helen White (Cadeirydd y Bwrdd)

Ymunodd Ionawr 2005

Ymgynghorydd ar gyfer E C Harris LLP yn Lerpwl yw Helen. Cyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Dinas Caer, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Chymdeithas Tai Clwyd. Hi oedd Cadeirydd Partneriaeth Cydraddoldeb Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Gogledd Cymru yn 2003/04. Dyfarnodd y Sefydliad Tai Siartredig wobr “Gweithiwr Proffesiynol Ifanc y Flwyddyn ym maes Tai” i Helen yn 2003. Bu’n cynrychioli gogledd Cymru a’r gogledd-orllewin ar Daith Gyfnewid Grŵp Astudio’r Rotary i Dde Cymru Newydd, Awstralia, yn 2004. Mae Helen yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Peter Gibson (Is-gadeirydd y Bwrdd)

Ymunodd Gorffennaf 2008

Cyfreithiwr yw Peter a’i swydd ddiwethaf cyn ymddeol oedd Cyfarwyddwr Twristiaeth a Hamdden gyda Chyngor Conwy. Cyn hynny bu’n Brif Weithredwr Cynorthwyol i Gyngor Sir Clwyd. Ymysg nifer o swyddi gwirfoddol y mae Peter wedi eu dal, ef yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Sw Fynydd Gymreig.

Alice Robinson

Chwefror 1975

Mae Alice wedi dal sawl swydd o gyfrifoldeb cyhoeddus ac mae’n dal i weithio’n frwd dros amryw o fudiadau lleol. Fel cynghorydd dosbarth, Alice oedd Cadeirydd y Pwyllgor Tai a bu’n gadeirydd y Cyngor Tai a Chynllunio Tref Cenedlaethol (rhanbarth Gogledd Cymru). Mae’n weithiwr gwirfoddol llawn-amser ac yn un o sylfaenwyr CTGC.

Mary Hill Ymunodd

Medi 1997

Ysgrifenyddes gyda G-Plan oedd Mary cyn ymddeol. Mae hefyd yn denant i’r Gymdeithas ac yn gyn Gadeirydd y Pwyllgor Gweithrediadau.

Lynne Parry

Ymunodd Gorffennaf 2002

Arferai Lynne fod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol gyda Shelter Cymru, a bu’n gweithio yn y sector tai ers 1997. Mae’n cymryd saib o’i gyrfa ar hyn o bryd.

Gerard Davies

Ymunodd Gorffennaf 2006

Paentiwr ac addurnwr hunangyflogedig yw Gerry. Mae’n un o lywodraethwyr Ysgol y Bendigaid William Davies yn Llandudno ac yn Is-gadeirydd Clwb Pêl-droed Llandudno. Mae’n gyn Gynghorydd Tref a bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol. Mae’n denant i’r Gymdeithas ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Parc Clarence.

Adrian Baugh

Ymunodd Gorffennaf 2006

Mae gan Adrian raddau mewn Peirianneg Fecanyddol ac Astudiaethau Busnes. Sefydlodd a datblygodd ei gwmni peirianneg ei hun dros gyfnod o 25 mlynedd. Yn ddiweddarach symudodd i’r fasnach adeiladu. Bellach mae wedi ymddeol oherwydd ei iechyd. Mae Adrian yn denant i CTGC.

Colin Hanks BSc (Anrh)

Ymunodd Rhagfyr 2007

Mae Colin yn Brif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dechreuodd ei wasanaeth ym mis Awst 1978. Cyn hynny bu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol. Ar hyn o bryd mae Colin yn gweithio gydag Ann Jones AC i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol i geisio pwerau statudol i osod ysgeintwyr domestic wrth adeiladu tai newydd yng Nghymru. Mae Colin yn siarad Cymraeg yn rhugl. Derbyniodd Colin Fedal Gwasanaeth Tân y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2010.

Kathryn Beard (Cadeirydd Archwilio)

Ymunodd Rhagfyr 2007

Diploma BTEC, BA Anrh, MA

Mae Kathryn yn Uwch Reolwr Amgylchedd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gweithio yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Cyn gweithio i’r Cynulliad gweithiai fel Rheolwr Cynllunio i Awdurdod Datblygu Cymru. Dysgwr Cymraeg yw Kathryn, sydd wedi cwblhau lefel ‘A’ yn y pwnc.

Marion Pryor (Is-gadeirydd Archwilio)

Ymunodd Gorffennaf 2009

Mae Marion yn gweithio fel rheolwr archwilio mewnol i Gyngor Sir Ddinbych. Ar ran y Cyngor mae’n rheoli’r gwasanaeth archwilio mewnol yn Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ac yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, lle mae cytundebau cydweithredol yn bodoli i ddarparu eu gwasanaeth archwilio mewnol.

Cymhwysodd Marion fel archwilydd mewnol, gan ddod yn aelod o Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol, ym 1999. Enillodd Radd Feistr mewn Rheoli Newid o Brifysgol John Moores Lerpwl yn 2004, a hynny gydag anrhydedd. Ar hyn o bryd mae Marion yn astudio i ddod yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

Nia Wright Morgan

Cyfetholwyd Hydref 2009

Mae Nia yn cael ei chyflogi gan Ganolfan Gydweithredol Cymru fel Rheolwr Prosiect ar Brosiect Menter Gymdeithasol sy’n ymdrin ag ardal gydgyfeirio Cymru. Mae cefndir Nia ym maes marchnata ond mae ganddi brofiad eang, yn cynnwys gweithio gyda phrosiect undeb credyd Cymru-gyfan am gyfnod o dair blynedd. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Neil Stevens

Cyfetholwyd Hydref 2009

Bu Neil yn Gyfarwyddwr Cyllid Gweithredol i Fwrdd Iechyd Lleol Conwy ers 2003, ond gwêl ei fod yn gweithio mewn amgylchedd sy’n newid wrth i’r byrddau iechyd gael eu hailstrwythuro ar draws Cymru. Mae’n gyfrifydd CCAB cymwysedig sydd â phrofiad o reolaeth ariannol a chynllunio busnes. Yn y gorffennol bu Neil yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Glan Clwyd.

 

Helen's Video