Buddion Gweithwyr
Gwyddom ein bod yn fwyaf tebygol o ddenu a chadw gweithlu o safon uchel os ydym yn gwneud yn siŵr fod pawb yn teimlo bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a’i wobrwyo. Mae’n wirioneddol bwysig i ni eich bod yn hapus a llawn cymhelliant – felly rydym yn gwneud yn siŵr fod y buddion rydych yn eu derbyn, ar ben yr arian a delir i chi, yn ychwanegu at brofiad cadarnhaol o weithio i Dai Gogledd Cymru.
Rydym yn cynnig tâl salwch hael, 22 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc gyda thâl ynghyd â phensiwn cyfrannol gyda’r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol. Rydym yn darparu graddfa gyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad a chyflawni amcanion i chi ac rydym yn awyddus i’ch gweld yn datblygu yn eich swydd. Os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg - neu astudio ar gyfer cymhwyster perthnasol, cydnabyddedig - fe gewch gefnogaeth gennym ni. Mae gennym hyd yn oed system i wobrwyo pobl sydd â syniadau da a’r rhai sydd wedi cyflawni’n eithriadol.
Mae sicrhau cydbwysedd da rhwng eich bywyd a’ch gwaith yn hollbwysig er mwyn i chi ddal i deimlo’n fodlon. Dyna pam ein bod yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, rhwng yr oriau 8.00 am a 6.00 pm, a’r gallu i gymryd hyd at un diwrnod o wyliau-hyblyg bob pedair wythnos. Rydym hefyd wedi ymrwymo i’ch galluogi i dreulio amser gyda’ch teulu, felly rydym yn darparu tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu uwch hefyd.

