Ein cyfrifoldebau

Mae CTGC yn sylweddoli mai atgyweirio a chynnal a chadw yw un o'r gwasanaethau pwysicaf y mae'n ei ddarparu i denantiaid. Bwriad y Gymdeithas yw darparu gwasanaeth cost effeithiol, effeithlon ac ymatebol i denantiaid. Mae'r Safon Gwasanaeth Atgyweirio yn disgrifio sut y darperir y gwasanaeth atgyweirio.

Mae gan holl elfennau eich cartref hyd oes disgwyliedig. Pan fyddant yn treulio neu'n torri oherwydd oed a defnydd arferol, byddwn yn eu hatgyweirio neu'n darparu rhai newydd. Os bydd eitem yn treulio neu'n torri'n gynharach nag y gellid disgwyl yn rhesymol, mae hynny naill ai oherwydd ei fod yn ddiffygiol neu oherwydd iddo gael ei gam-drin.

Byddwn yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am strwythurau, gwasanaethau, gosodiadau, gorffeniadau neu osodion diffygiol a ddarparwyd gennym yn eich cartref os ydynt yn ddiffygiol a/neu pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes ddisgwyliedig. 

Disgwylir i chi adael i ni ddod i mewn i'ch cartref i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw'r tu mewn a'r tu allan, a chadw ardaloedd a rennir mewn cyflwr da. Fel arfer bydd y Grŵp yn rhoi 24 awr o rybudd o leiaf er mwyn dod i mewn i'ch cartref, ond efallai y bydd angen dod i mewn ar unwaith mewn argyfwng. Mewn rhai achosion arbennig o daer pan na ellir cael gafael ar y tenant, efallai y bydd rhaid i'r Gymdeithas orfodi ei ffordd i mewn, gan adael yr eiddo yn ddiogel ar ôl cwblhau'r gwaith dan sylw. 

Os byddwch chi neu aelodau o'ch teulu, ymwelwyr neu anifeiliaid anwes yn niweidio unrhyw un o'r eitemau y byddem yn gyfrifol am eu hatgyweirio fel arfer, mae'n debyg y bydd rhaid i chi dalu am eu hatgyweirio neu am brynu rhai newydd yn eu lle.