Cymdogaethau Dymunol
Mae pawb am fyw mewn cymdogaeth ddymunol, lân a diogel - rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod y cymdogaethau y mae ein cwsmeriaid yn byw ynddynt mor ddymunol â phosib, er bod angen eich help chi arnom i wneud hyn.
Byddwn yn:
- Ymweld â Chymdogaethau ac ardaloedd cymunedol yn rheolaidd er mwyn gwirio'r ffordd maen nhw'n edrych
- Nodi a delio â phroblemau'n gyflym ac yn effeithiol
- Gwneud gwaith atgyweirio i ardaloedd cymunedol
- Cadw ardaloedd cymunedol yn lân , yn daclus a rhydd o sbwriel
- Ymateb yn brydlon i broblemau sy'n cael eu nodi gan breswylwyr.
Rhaid i chi:
- Gadw gerddi ac ardaloedd cymunedol yn daclus a thwt
- Rhoi gwybod yn brydlon am waith atgyweirio i ardaloedd cymunedol
- Rhoi gwybod i ni os oes angen gwneud rhywbeth yn yr ardal rydych yn byw ynddi
- Rhoi gwybod i ni neu'r Heddlu os gwelwch chi rywun yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol h.y. taflu sbwriel neu gyflawni fandaliaeth
- Siarad yn gyfrinachol gyda'ch Swyddog Tai os oes gennych unrhyw broblemau neu os ydych yn gweld rhywun yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!


