Ein Cartrefi
Ar hyn o bryd mae gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru tua 2,200 o gartrefi, ac eiddo ar rent yw'r rhan fwyaf o'r rhain. Mae ein heiddo ar rent wedi'u gwasgaru ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy, gan ddarparu tai cyffredinol a thai â chefnogaeth.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu Perchentyaeth Cost Isel er mwyn cynorthwyo darpar brynwyr i brynu eu cartref cyntaf. Anelwyd Perchentyaeth Cost Isel yn bennaf at y grwpiau canlynol:
- pobl sy'n methu fforddio costau llawn perchnogaeth gyflawn
- cyplau a theuluoedd sy'n chwilio am eu cartref cyntaf, er bod rhywfaint o lety ar gael i ymgeiswyr sengl
- pobl sy'n gallu cael morgais neu sydd â'r swm cyfalaf ar gael.
Fel Cymdeithas Tai, rydym yn cael ein hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo gyda darparu tai fforddiadwy er mwyn cynyddu, yn bennaf, ein stoc o eiddo ar rent. Yna dyrennir yr eiddo yma i ymgeiswyr ar sail angen.
Cliciwch yma am fanylion ein prosiectau datblygu cyfredol.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Conwy a Sir Ddinbych er mwyn:
- defnyddio cartrefi sydd wedi bod yn wag ers tro unwaith eto
- gwella edrychiad allanol cymunedau
- cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl leol.
Gellir cyflawni hyn trwy brynu, prydlesu neu gytundebau rheoli.
Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!


