Uxbridge Court
Ydych chi’n awyddus i brynu cartref ym Mangor? Ydych chi dros 60 oed? Yn gobeithio symud o eiddo mawr i rywle mwy hwylus? Ond eisiau cadw eich annibyniaeth? Eich drws ffrynt eich hun?
Bloc o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol yw Uxbridge Court, wedi’i leoli mewn lle hwylus ar gyfer siopau, bysiau a’r orsaf. Mae yna hefyd feddygfa a lle deintydd gerllaw.
Mae yna fflatiau 1 a 2 ystafell wely ar gael yn awr. Sylwch fod y rhain yn cael eu hysbysebu a’u gwerthu gan werthwyr tai. Os hoffech fynd i weld unrhyw un o’r rhain, cysylltwch yn uniongyrchol â’r gwerthwr tai. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld gyda manylion yr eiddo. Cliciwch ar y 'links' isod i weld pa eiddo sydd ar gael
Dafydd Hardy, Dafydd Hardy A, Dafydd Hardy B, Dafydd Hardy C
Williams & Goodwin - The Property People, Williams & Goodwin - The Property People A
- Rhaid i ddarpar brynwyr fod wedi cyrraedd oed ymddeol (dros 60) a gallu byw’n annibynnol. Mae’r Gymdeithas yn gyfrifol am gyfweld pob darpar brynwr i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni amodau prydles Uxbridge Court.
- Rhaid i’r meddiannwr/meddianwyr fod yn berchen ar y fflat, h.y. ni all mab/merch ac ati ei brynu ac yna’r rhiant/rhieni neu aelod(au) eraill o’r teulu’n byw ynddo, ac ni ellir is-osod y fflat ychwaith.
- Mae yna dâl gwasanaeth dyddiol sy’n daladwy bob mis ar gyfer y canlynol:
warden y cynllun
system galw’r warden
system mynediad drws
trethi dŵr
cynnal a chadw o ddydd i ddydd
gwresogi a goleuo ardaloedd a rennir
yswiriant adeiladau
cynnal a chadw’r lifft
glanhau ffenestri
garddio
lolfa’r preswylwyr
ystafell olchi
ystafell gwesteion
- Ar hyn o bryd, £140.53 yw’r tâl gwasanaeth misol ar gyfer fflat 1 ystafell wely, a £149.54 ar gyfer fflat 2 ystafell wely. Rhaid dal i dalu’r tâl gwasanaeth hyd yn oed os bydd y fflat yn wag am beth amser, e.e. ar ôl symud i gartref preswyl neu nyrsio.
- Nid oes raid talu rhent tir ac mae’r brydles yn para 999 o flynyddoedd o 18 Medi 1989.
- Nodwch fod tâl gwasanaeth gohiriedig o 1% yn daladwy pan gaiff y fflat ei werthu, a’i fod yn 1% ar gyfer pob blwyddyn (neu ran o flwyddyn) o berchenogaeth ac yn seiliedig ar bris prynu’r fflat.
- Chi fyddai’n gyfrifol am dalu eich treth cyngor, eich biliau trydan a ffôn a’ch yswiriant cynnwys eich hun. Gwresogyddion stôr trydan sy’n cynhesu’r adeilad i gyd.
- Rhaid dweud wrth warden y cynllun am unrhyw waith atgyweirio o ddydd i ddydd.
- Mae yna bwyllgor preswylwyr sy’n cyfarfod yn rheolaidd yn lolfa Uxbridge Court ac mae gwahoddiad i bob preswylydd fynychu. Mae’r preswylwyr hefyd yn trefnu eu nosweithiau cymdeithasol eu hunain yn y lolfa, e.e. ‘noson swper pysgodyn’. Gallwch chi ddewis pryd rydych am ymuno â’r gwahanol ddigwyddiadau cymdeithasol neu gallwch fwynhau gallu mynd adref a chau eich drws ffrynt eich hun.
Got any feedback?

We love to hear your feedback, so feel free to tell us!


