Cam Un

Cam Un yw'r cynllyn Cymorth Prynu Cartref a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru (CTGC). Mae'n deiliedig ar Gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ei nod yw helpu'r bobl hynny yn ein cymunedau sy'n methu prynu eu cartref eu nunain heb gymorth ychwanegol.

Gyda menter Cam Un mae'r prynwr yn talu 70 y cant o gost yr eiddo, drwy forgais fel arfer, ac mae CTGC yn arriannu'r 30 y cant sy'n weddill trwy ‘fenthyciad ecwiti'.

Yn Ngharth Mostyn, Porthaethwy y mae'r tai cyntaf sydd ar gael dan y cynllun yma, lle mae'r Gymdeithas yn darparu datblygiad bach o ddeuddeg tŷ a dau fflat. Bydd chwech o dai ar gael i'w prynu a bydd y gweddill yn cael eu rhentu.

Aseswyd mai £140,000 yw eu gwerth ar y farchnad agored, sy'n golygu y bydd angen i ddarpar brynwyr allu codi £98,000 (70% o'r gwerth) drwy forgais a chyfalaf/cynilion.

Bydd y tai yn cael eu rhoi ar sail anghenion blaenoriaeth gan mai cartrefi 3 ystafell wely ar gyfer 5 person ydynt, a byddant yn cael eu rhoi i deuluoedd gyda phlant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo drwy Gam Un ar ddatblydiad Garth Mostyn, ymgeisiwch rwan! Ffurflen gais ar gael gan Tai Gogledd Cymru, ffon: 01492 572727.

Hefyd, gwnewch ymholiadau cyffredinol i weld a oes odd i chi gael morgais a faint y gallwch ei fethyg. Mae'n bwysig eich bod yn hapus gyda'r ad-daliadau y bydd rhaid i chi eu gwneud ochr yn ochr â'ch biliau ty arferol. Peidiwch â gwneud ynrhyw ymrwymiad ariannol na chyfreithiol ar hyn o bryd.

Downlaods